Creoliaid Louisiana

Grŵp ethnig sydd yn hanu o dalaith Louisiana yn ne Unol Daleithiau America yw Creoliaid Louisiana (Ffrangeg: Créoles de la Louisiane, Saesneg: Louisiana Creoles, Sbaeneg: Criollos de Luisiana) sydd yn disgyn o drigolion yr ardal honno yn yr oes drefedigaethol, pryd oedd Louisiana dan reolaeth Ffrainc (1682–1769, 1801–03) a Sbaen (1769–1801). Maent yn bennaf o dras Ffrancod, Sbaenwyr, Affricanwyr, ac Americanwyr Brodorol, gyda rhywfaint o linach o ymfudwyr Almaenig, Gwyddelig, ac Eidalaidd sydd wedi cymysgu â'r Creoliaid. Ieithoedd traddodiadol Creoliaid Louisiana yw Creoliaith Louisiana, Ffrangeg, a Sbaeneg, ond bellach mae nifer ohonynt yn defnyddio'r Saesneg fel eu prif iaith.[1] Catholigion ydy'r mwyafrif helaeth o Greoliaid Louisiana.

Creoliaid Louisiana
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Helen Bush Caver a Mary T. Williams, "Gale Encyclopedia of Multicultural America". Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 28 Tachwedd 2021.