Criblys deubig

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Criblys deubig
Lophocolea bidentata

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Lophocoleaceae
Genws: Lophocolea
Rhywogaeth: L. bidentata
Enw deuenwol
Lophocolea bidentata

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Criblys deubig (enw gwyddonol: Lophocolea bidentata; enw Saesneg: bifid crestwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae'n debyg mai dyma'r llysiau afu deiliog mwyaf cyffredin yn Ynysoedd Prydain, ac fe'i ceir mewn ystod eang o gynefinoedd: ar lawr gwlad mewn coetir, glaswelltir a rhostir, a hefyd ar blanhigion a chreigiau eraill.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Mae L. bidentata yn fregus a thryloyw, ac yn wyrdd golau, gyda dail deulabed amlwg (tua 2 mm o hyd). Mae'r coesynnau'n 2–4 mm o led, a gallant dyfu sawl centimetr o hyd.

Llysiau'r afu

golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Criblys deubig gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.