Mewn cerddoriaeth, crosiet yw nodyn a chwarëir am chwarter amser yr hannerbrif a hanner amser y minim. Mae'r nodyn hwn yn nodweddiadol o gerddoriaeth Arabaidd. Nodir gyda chylch du gyda choesyn di-faner. Mae'r coesyn yn wynebu i fynny os yw'n uwch na llinell ganol yr erwydd ac i lawr os is na llinell ganol yr erwydd. Mae pen y nodyn hefyd yn newid ei ogwydd mewn perthynas â'r coesyn. (Gweler y ddelwedd.)

Crosiet gyda'r coesyn yn wynebu lan, crosiet gyda'r coesyn yn wynebu i lawr a saib y crosiet.

Yn perthyn i'r nodyn mae saib y crosiet fel y dengys yn y ddelwedd uchod.

Yn Unicode, y symbol yw U+2669 ().

Yn yr ieithoedd Ewropeaidd mae gan y gair am y nodyn wahanol ystyron llythrennol gan eu bod yn tarddu o wahanol ffynonellau. (Gweler y tabl isod.)

Iaith Enw'r nodyn Enw'r saib
Iseldireg Kwart noot Kwart rust
Ffrangeg noire soupir
Almaeneg Viertelnote Viertelpause
Groeg Tetarto (τέταρτο) Pafsi tetartou (παύση τετάρτου)
Eidaleg semiminima pausa di semiminima
Pwyleg ćwierćnuta pauza ćwierćnutowa
Portiwgaleg semínima pausa de semínima
Sbaeneg negra silencio de negra
Swedeg fjärdedelsnot fjärdedelspaus

Mae'r enwau Ffrangeg a Sbaeneg yn golygu "du". Mae'r enw Groeg yn golygu "chwarter".

Gweler hefyd golygu