Mewn cerddoriaeth, yr hannercwafer yw'r nodyn a chwarëir am 16ed amser yr hannerbrif. Mae e werth hanner cwafer (fel awgrymir yn yr enw) ac felly chwarter y crosiet.

Ffigwr 1. Hannercwafer gyda'r coesyn yn wynebu i fynny, hannercwafer gyda'r coesyn yn wynebu i lawr a saib yr hannercwafer.
Ffigwr 2. Pedwar hannercwafer wedi eu paladru.

Llunir yr hannercwafer gyda chylch hirgrwn gyda phen du, coesyn syth gyda dwy faner. (Gweler Ffigwr 1.). Symbol sy'n perthyn iddo yw saib yr hanner cwafer sydd yn dynodi tawelwch am yr un cyfnod o amser. Fel pob nodyn gyda choesyn, llunir yr hannercwafer gyda'r coesyn i dde pen y nodyn yn wynebu i fynny pan mae'r nodyn yn is na llinell ganol yr erwydd. Pan mae wedi ei leoli'n uwch na llinell ganol yr erwydd, llunir y coesyn i'r chwyth yn wynebu i lawr.

Mae'r baneri wastad ar ochr dde y coesyn ac yn cylchu i'r dde. Ar goesynnau sydd yn wynebu i fynny, mae'r baneri yn dechrau ar y pen ac yn cylchu i lawr; ar goesynau sydd yn wynebu i lawr, mae'r baneri yn dechrau ar y gwaelod ac yn cylchu i fyny. Pan mae yna nifer o hannercwaferi ar bwys ei gilydd, fe gysylltir y baneri gyda phaladr fel y nodau yn Ffigwr 2 sydd yn debyg iawn i gwaferi. Mae rheolau tebyg yn gymwysiol i nodau llai eto fel y chwartercwafer a'r hannerchwartercwafer.

Yn Unicode, U+266C (♬) yw pâr o hannercwaferi wedi'u paladru.

Mae'r enw ar gyfer y nodyn hwn yn amrwyiol iawn yn ieithoedd Ewropeaidd fel dengys y tabl isod:

Iaith Enw'r nodyn Enw'r saib
Almaeneg Sechzehntelnote Sechzehntelpause
Ffrangeg double-croche quart de soupir
Eidaleg semicroma pausa di semicroma
Sbaeneg semicorchea silencio de semicorchea
Portiwgaleg semicolcheia pausa de semicolcheia

Gweler hefyd golygu