Hannerbrif
Mewn cerddoriaeth, yr hannerbrif yw nodyn wedi ei gynrychioli gan gylch hirgrwn gwyn yn debyg i finim heb goesyn. Mae ei barhad yn hafal i bedwar curiad yn yr amser 4/4. Mae hannerbrif yn parhau am hanner amser brif.
Symbol sy'n perthyn iddo yw saib yr hannerbrif, sydd fel arfer yn dangos tawelwch am yr un amser. Defnyddir saib yr hannerbrif hefyd mewn bar wag mewn unrhwy amser. Llunir saib yr hannerbrif fel petryal du yn hongian is ail-linell yr erwydd.
Mae enw'r nodyn hwn yn amrywio'n fawr yn ieithoedd Ewropeaidd fel dengys y tabl isod:
Iaith | Enw'r nodyn | Enw'r saib |
---|---|---|
Almaeneg | Ganze Note | Ganze Pause |
Groeg | Olokliro (ολόκληρο) | Pafsi oloklirou (παύση ολοκλήρου) |
Ffrangeg | ronde | pause |
Eidaleg | semibreve | pausa di semibreve |
Sbaeneg | redonda | silencio de redonda |
Portiwgaleg | semibreve | pausa de semibreve |
Pwyleg | cała nuta | pauza całonutowa |
Saesneg | semibreve | semibreve rest |
Mae'r enw Groeg yn golygu "llawn" ac mae'r enwau Ffrangeg ac Sbaeneg yn golygu "crwn".