Crug crwn enfawr a godwyd gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crugiau Caerwent (Saesneg: Crick Round Barrow), yng nghymuned Caerwent, Sir Fynwy; cyfeiriad grid ST484902. Yr un tarddiad sydd i "Crick" Saesneg a chrug yn Gymraeg. Mae'n mesur 41 metr mewn diamedr ac 1.5m o uchder. Mae wedi'i osod o fewn i gylch o gerrig, diamedr: 29m. Cloddiwyd y lle yn 1940 a chafwyd hyd i ludw dynol o Oes yr Efydd. Mae'n un o grugiau crynion mwyaf Cymru.

Crugiau Caerwent
Mathcrug crwn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: MM151.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Ail crug golygu

Ceir ail crug crwn gyda rhif SAM: MM179.[1] Cyfeirnod grid: ST450909.

Gweler hefyd golygu

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Cofrestr Cadw.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-10.