Cwlwm cariad (planhigyn)
Gofal: ceir gwyfyn (Lycophotia porphyrea) o'r un enw.
Cwlwm cariad yn tyfu ger yr Alun ar dir galchog Cyfarthfa, Sir Ddinbych (Loggergheads) | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Math | planhigyn llysieuaidd |
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Paris |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhywogaeth a phlanhigyn blodeuol yn y teulu Melanthiaceae yw Cwlwm cariad (enw gwyddonol: Paris quadrifolia, hen enwau: Gwirgariad, Llysiau ungronyn, Pedair dalen, Croeslys a Chroeswerdd.[1]
Mae'n frodorol mewn ardaloedd tymherus ac oer ledled Ewrasia, o Sbaen i Yakutia, ac o Wlad yr Iâ i Mongolia,[2] ac yng Nghymru mewn ardaloedd fel Loggerheads. Mae'n well gan y planhigyn hwn bridd calchaidd ac mae'n byw mewn mannau llaith a chysgodol, yn enwedig hen goedwigoedd sefydledig a glannau nentydd.
Mae Cwlwm cariad yn prinhau drwy Ewrop oherwydd colli cynefin. Yng Ngwlad yr Iâ, er enghraifft, mae ar y rhestr goch.[3] Fe'i ceir yng Nghyfarthfa, Sir Ddinbych (Loggerheads), ger yr Alun.
Nodweddion
golyguMae P. quadrifolia yn blanhigyn llysieuol lluosflwydd sy'n 25 i 40 cm (10 i 15.5 modfedd) o daldra. Ceir 3-8 deilen ond fel arfer gwelir pedair deilen wedi eu trefnu fel parau cyferbyniol. Mae'r blodau'n aneglur ac yn anamlwg.[4] Mae'r planhigyn yn blodeuo yn ystod Mehefin a Gorffennaf. Mae ganddo flodyn unigol gyda phedwar petal filiform, gul, gwyrdd; pedwar sepal petaloid gwyrdd, wyth briger melyn euraidd, ac ofari crwn porffor i goch. Mae'r blodyn i'w gael uwchben un swp sengl o bedair deilen.[5] P. Mae quadrifolia yn blanhigyn llysieuol lluosflwydd sy'n 25 i 49 cm o uchter. Gall fod ganddo 3 – 8 deilen ond yn nodweddiadol ceir pedair deilen wedi eu trefnu fel parau cyferbyniol. Mae'r blodau'n fach ac yn anamlwg.[6]
Blodeua'r planhigyn yn ystod Mehefin a Gorffennaf.[7] Ceir blodyn unigol gyda phedwar petal cul gwyrdd, pedwar sepal petaloid gwyrdd, wyth briger melyn euraidd, ac ofari crwn porffor i goch. Mae'r blodyn uwchben troell sengl o bedair deilen.
Mae pob planhigyn yn cynhyrchu ar y mwyaf un aeron tebyg i lus, gwenwynig, ac mae meinweoedd eraill y planhigyn hefyd yn wenwynig.[8] Mae gwenwyno yn brin oherwydd mae gan aeron unig y planhigyn flas gwrthyrrol sy'n ei gwneud hi'n anodd ei camgymryd am lus.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywiadur; adalwyd 6 Awst 2023.
- ↑ "Paris quadrifolia" Archifwyd 2022-10-21 yn y Peiriant Wayback. World Checklist of Selected Plant Families (WCSP). Royal Botanic Gardens, Kew.
- ↑ "Red List for Vascular Plants". Icelandic Institute Of Natural History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-23. Cyrchwyd 21 October 2019.
- ↑ "Paris quadrifolia". Plants of the World Online. Cyrchwyd 21 October 2019.
- ↑ Altervista Flora Italiana, Uva di volpe Paris quadrifolia L.
- ↑ "Paris quadrifolia". Plants of the World Online. Cyrchwyd 21 Hydref 2019."Paris quadrifolia".
- ↑ Altervista Flora Italiana, Uva di volpe Paris quadrifolia L.
- ↑ Jacquemyn, Hans; Brys, Rein; Hutchings, Michael J. (July 2008), "Biological Flora of the British Isles: Paris quadrifolia L.", Journal of Ecology 96 (4): 833–844, doi:10.1111/j.1365-2745.2008.01397.x