Thomas Brassey
Roedd Thomas Brassey (7 Tachwedd 1805 – 8 Rhagfyr 1870) yn beiriannydd sifil a chynhyrchydd nwyddau adeiladu, oedd yn gyfrifol am adeiladu rhan helaeth rheilffyrdd y byd yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn 1847 roedd o wedi adeiladu tua threan y rheilffyrdd ym Mhrydain, ac erbyn ei farwolaeth ym 1870 roedd o wedi adeiladu 5 y cant o reilffyrdd y byd, gan gynnwys saith deg pump y cant o reilffyrdd Ffrainc, rheilffyrdd dros Ewrop ac yng Nghanada, Awstralia, De America ac India. Adeiladodd bontydd, ddociau, orsafoedd a thwnelli hefyd, heb sôn am longau, pyllau, ffatrioedd a threfnu systemau dŵr a charthffosydd. Adeiladodd rhan o system carthffosydd Llundain. Roedd ganddo gyfrandaliadau yn y llong ‘Great Eastern’, adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel. Gadawodd ffortiwn o dros bum miliwn o bunnau, buasai’n werth tua chwe chant miliwn erbyn heddiw.[1]
Thomas Brassey | |
---|---|
Ganwyd | 7 Tachwedd 1805 Buerton |
Bu farw | 8 Rhagfyr 1870 o gwaedlif ar yr ymennydd St Leonards |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, peiriannydd, person busnes, peiriannydd sifil, peiriannydd rheilffyrdd |
Tad | John Brassey |
Mam | Elizabeth Perceval |
Priod | Maria Farringdon Harrison |
Plant | Albert Brassey, Thomas Brassey, iarll 1af Brassey, Henry Brassey, John Brassey |
Bywyd cynnar
golyguCafodd Thomas Brassey ei eni ar 8 Tachwedd 1805; ei rieni oedd John Brassey, ffermwr, a’i wraig Elizabeth.[2] Cafodd addysg gartref hyd at 12 oed, ac aeth o wedyn i Ysgol King’s, Caer.[3] Pan oedd o’n 16 oed, daeth o’n brentis i dirfesurydd ac asiant, William Lawton. Tra oedd o’n brentis, roedd o’n cynorthwyydd i dirfesurydd yr A5 ac wedi cyfarfod â Thomas Telford. Daeth o’n bartner i William Lawton, a symudodd i Benbedw. Tyfodd eu cwmni i gynnwys perchnogaeth a rheolaeth dros chwareli, gwaith brics ac odynau calch. Defnyddiwyd eu brics yn Lerpwl a datblygwyd Brassey ffyrdd newydd o symud eu cynnyrch, megis paledau a rheilffordd yn defnyddio disgyrchiant rhwng chwarel a phorthladd. Bu farw Lawton, a daeth Brassey yn berchennog i'r cwmni.[2][4][5][6]
Gwaith cynnar ym Mhrydain
golyguDechreuodd Brassey ei yrfa fel peiriannydd sifil gan adeiladu ffordd 4 milltir yn Bromborough a phont yn Saughall Massie yng Nghilgwri[7] Cyfarfu George Stephenson tro oedd Stephenson yn adeiladu Rheilffordd Lerpwl a Manceinion ac awgrymodd Stephenson y dylai Brassey gweithio ar adeiladu rheilffyrdd. Adeiladodd Brassey draphont Penkridge ym 1837, yn ogystal â 10 milltir o’r rheilffordd rhwng Stafford a Wolverhampton. Mae’r draphont yn dal i sefyll ac yn cario trenau.[4] Wedyn enillodd o gytundebau i weithio ar Rheilffordd Llundain a Southampton, Rheilffordd Caer a Chryw, Rheilffordd Glasgow, Paisley a Greenock a Rheilffordd Manceinion a Sheffield.
Cytundebau cynnar yn Ffrainc
golyguPan sefydlwyd Rheilffordd Paris a Rouen, appoyntwyd Joseph Locke ei beiriannydd. Ystyriodd Locke bod cynigion y contractwyr Ffrangeg yn rhy ddrud, felly derbynnodd cynnig gan Thomas Brassey a William Mackenzie ym 1841. Enillodd Brassey a Mackenzie 4 cytundeb rhwng 1841 a 1844, gyda chyfanswm o 437 milltir, gan gynnwys Rheilffordd Orléans a Bordeaux. Ond, wedi’r chwyldro ym 1948, roedd creisis ariannol yn Ffrainc ac roedd rhaid i Brassey chwilio am waith rhywle arall.
Cwympiad traphont Barentin
golyguSyrthiodd traphont Barentin ym mis Ionawr 1846, un o’r ychydig o drychinebau yn yrfa Brassey. Adeiladwyd y bont gyda brics, ac yn ôl y gytundeb, dylir ddefnyddio cynnyrch lleol, a syrthiodd y traphont ar ôl sawl diwrnod o law trwm.[4] Ailadeiladwyd y traphont yn defnyddio priddgalch gwahanol, a thalodd Brassey'r cost. Mae’r draphont yn sefyll hyd at heddiw, ac yn cael ei defnyddio o hyd.[4]
"Mania rheilffordd”
golyguCyrhaeddodd y mania tra oedd Brassey’n adeiladu rheilffyrdd yn Ffrainc. Adeiladwyd llawer o reilffyrdd ym Mhrydain. Ymunodd Brassey â’r mania, ond dewisodd ei gytundebau a buddsoddwyr yn ofalus.[2] Arwyddodd 9 cytundeb ym 1845, i adeiladu dros 340 milltir o reilffordd.[4] Dechreuodd Brassey a Locke Rheilffordd Caerhirfryn a Chaerliwelydd ym 1844 yn mynd trwy dyffryn Afon Lune, a dros Shap, 70 milltir o hyd.[2] Roedd ei waith ym 1845 yn cynnwys Rheilffordd Dyffryn Trent (50 milltir) a Rheilffordd Caer a Chaergybi (84 milltir), gan gynnwys Pont Britannia dros Afon Menai. Arwyddodd gytundeb i adeiladu Rhelffordd y Caledonian, rhwng Caerliwelydd, Glasgow a Chaeredin dros Beattock yn gweithio gyda’r peiriannydd George Heald[2] yn ystod 1845 a dechreuodd waith ar reilffyrdd eraill yn Yr Alban. Ym 1846, dechreuodd waith ar Reilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog rhwng Lerpwl a Hull. Cafodd Brassey gytundeb i adeiladu 75.5 milltir o’r Rheilffordd y Great Northern yn 1847; roedd William Cubitt y brif beiriannydd i’r rheilffordd. Roedd problem gyda thir corsog y Ffens, a datrysodd Brassey’r broblem gyda chymorth gan Stephen Ballard, un o’i asientau. Gosodwyd haenau o goediach a mawn i greu sail cadarn.[4] Defnyddir y rheilffordd hyd at heddiw., yn rhan o brif linell yr arfordir dwyreiniol. Dechreuodd Brassey i adeiladu Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford yn 1847. Erbyn diwedd y "Mania rheilffordd” roedd Brassey wedi adeiladu trean o reilffyrdd Prydain.[2]
Ehangu ei waith yn Ewrop
golyguWedi diwedd y “Railway Mania” ym Mhrydain, gweithiodd ar Reilffordd Barcelona a Mataró Railway (18 milltir o hyd) ym 1848. Ym 1850, gweithiodd ar Reilffordd Prato a Pistoia , (10 milltir) yn Yr Eidal, wedyn Rheilffordd Torino-Milan (60 milltir rhwng Torino a Novara ym1853 a Rheilffordd Canoldir yr Eidal (52 milltir). Yn cydweithio gyda Samuel Morton Peto, adeiladodd Brassey’r [[Rheilffordd Oslo-Bergen (56 milltir). Yn Ffrainc, adeiladodd 133 milltir o cledrau ar Reilffordd Mantes a Caen ym 1852, a Rheilffordd Caen a Cherbourg (94 milltir) ym 1854. Yn cydweithio gyda Joseph Locke, adeiladodd y Rheilffordd Dutch Rhenish (43 milltir) yn Yr Iseldiroedd ym 1852. Yn y cyfamser, adeiladodd llinell Gororau Cymru (51 milltir) ar gyfer Rheilffordd Amwythig a Henffordd, Rheilffordd Henffordd, Ross, a Chaerloyw (50 milltir), Rheilffordd Llundain, Tilbury a Southend (50 milltir) a Rheilffordd Gogledd Dyfnaint rhwng Minehead a Barnstaple (47 milltir).
Rheilffordd Grand Trunk, Canada
golyguArwyddodd Brassey gytundeb fwyaf ei yrfa ym 1852, i adeiladu Rheilffordd Grand Trunk, Canada, rhwng Quebec a Toronto, 539 milltir o hyd. Peiriannydd y prosiect oedd Alexander Ross a’r peiriannydd ymgynghorol oedd Robert Stephenson. Cydweithiodd Brassey gyda Peto, Betts a Syr William Jackson.
Aeth y rheilffordd ar draws Afon St Lawrence ym Montreal ar Bont Fictoria, Pont diwb cynlluniwyd gan Stephenson, pont hiraf y byd ar y pryd, 1.75 milltir o hyd. Agorwyd y bont ym 1859, ac yn swyddogol ym 1860 gan Dywysog Cymru.[4]
Roedd problemau’n codi arian i’r prosiect; aeth Brassey i Ganada unwaith i apelio am gymorth ariannol. Roedd y prosiect yn fethiant ariannol, a collodd y cytundebwyr filiwn o bynnau.[2]
Gwaith Canada
golyguCynhwysodd ei gytundeb i’r reilffordd y defnydd i gyd i adeiladu’r rheilffordd, gan gynnwys y cerbydau. Adeiladwyd ffatri, y Gwaith Canada, ym Mhenbedw i adeiladu popeth sy’n cynnwys metel. Darganfuwyd safle addas gan George Harrison, brawd yng nghyfraith Brassey. Daeth Harrison rheolwr y ffatri. Adeiladwyd cei ar ochr y ffatri. Cedwyd peiriannau mewn adeilad 900 troedfedd o hyd, yn cynnwys gefail gyda 40 o ffwrneisi, einionau, gordd ager, gweithdy copor, gweithdy coed, siopau patrwm, llyfrgell ac ystafell ddarllen i’r gweithlu. Cynlluniwyd y siop ffitio i adeiladu 40 o locomotifau’n flynyddol, a chynhyrchwyd 300 dros yr 8 mlynedd dilynol. Enwyd yr un cyntaf, ym Mai 1854, yr enw ‘Lady Elgin’, ar ôl gwraig Llywodraethwr Cyffredinol Canada, yr Arglwydd Elgin. Roedd angen canoedd o filoedd o ddarnau i adeiladu’r bont; crëwyd y cwbl ym Mhenbedw neu ffatrioedd eraill yn Lloegr.[5] Roedd angen dros 10,000 o ddarnau haearn i greu tiwb canolog y bont, gyda tyllau i ffitio hanner miliwn o rybedi.[2]
Rheilffordd y Grand Crimean Central
golyguAnfonwyd 30,000 o filwyr o Brydain, Ffraind a Thwrci i ymosod ar Sevastopol ym 1854 yn ystod y Rhyfel Crimea. Roedd hi’n anodd symud nwyddau, bwyd, arfau ac ati, a chynigwyd Brassey, Peto a Betts i adeiladu rheilffordd. Anfonwyd offer, gweithwyr a defnyddiau. Adeiladwyd rheilffordd rhwng Balaclafa a Sevastopol ar ôl saith wythnos.[8]
Gweithio’n fyd eang
golyguAdeiladodd Brassey rheilffyrdd yn Ne America, Awstralia, yr India a Nepal.[2] Oherwydd cwymp Banc Overend Gurney ym 1866, roedd problemau cyllidol mawr ym Mhrydain, ond goroesodd Brassey. Adeiladodd Reilffordd Lviv a Chernivtsi er digwyddodd y Rhyfel Awstro-Prwsaidd ar yr un adeg.[2] Daeth o’n afiach o 1867 ymlaen, ond adeiladodd Reilffordd Chernivtsi a Suczawa. Erbyn iddo farw roedd o wedi adeiladu 5 y cant o filltiroedd o reilffyrdd yn y byd.[2]
Cytundebau eraill
golyguAdeiladodd Brassey ffatri peirianwaith yn Ffrainc. Adeiladodd o systemau draeniad a gwaith dŵr yn Kolkata. Adeiladodd o ddociau yn Greenock, Penbedw, Barrow a Llundain. Agorwyd y dociau yn Llundain ym 1857. Roedd sawl warws a seler gwin. Roedd gan y dociau gysylltiad gyda Rheilffordd Llundain, Tilbury and Southend, un o reilffyrdd Brassey.[4]
Rhwng 7 Tachwedd 1805 ac 8 Rhagfyr 1870
golyguAdeiladodd Brassey carthfosydd yn Llundain ym 1861, rhan o gynllun Joseph Bazalgette. Adeiladodd 12 milltir o’r ffos Lefel Canol, o Kensal Green, o dan Heol Bayswater, Stryd Rhydychen a Clerkenwell, hyd at Afon Lea. Ystyriwyd y tasg un o’r caletach y whaeth o[9].[10]
Rhoddodd Brassey gymorth cyllidol i Brunel i adeiladu’r llong SS Great Eastern. Roedd Brassey yn gyfandaliwr yn y prosiect, ac ar ôl marwolaeth Brunel, prynodd, gyda Gooch a Barber, y llong i osod y gablen delegraff gyntaf ar draws y Môr Iwerydd ym 1864.[11] Roedd ganddo cynllun i adeiladu twnnel o dan y Sianel, ond doedd gan y llywodraethau ddim diddordeb. Roedd ganddo’r syniad o adeiladu camlas dros Panama hefyd.[12]
Dullau gweithio
golyguFel arfer, gweithiodd Brassey gyda chontractwyr eraill, yn aml Peto a Betts. Cynlluniwyd manylion y prosiectau gan y peirianyddion., sy wedi cynnwys Robert Stephenson, Joseph Locke ac Isambard Kingdom Brunel.[13] Rheolwyd gwaith is-contractwyr gan asiantau.[14] Gwnaeth ‘Navvies’ mwyafrif y gwaith. Roedd y mwyafrif yn Saeson yn y dyddiau cynnar, a daeth llawer ohonynt o waith ar camlesi. Yn hwyrach, daeth mwy o’r Alban, Cymru ac Iwerddon, yn arbennig ar ôl y newyn yn Iwerddon. Roddwyd bywyd, lloches, gwisg ac yn achlysurol llyfrgell i’r gweithwyr. Gweithiodd pobl leol ar y cytundebau tramor, neu weithiau gweithwyr o Brydain. Roedd asiantau’n gyfrifol am y prosiectau, yn derbyn canran yr elw, weithiau gyda bonws i orffen yn gynnar a chosb am orffen yn hwyr.[2]
Cyflogodd Brassey cannoedd o asiantau; Ar ôl iddo arwyddo cytundeb waith, roedd digonedd o bres ar gael i’r asiant. Pe tasai’r asiant wedi cwblhau’r gwaith yn rhatach, roedd yr asiant yn rhydd i gadw’r gweddill. Os oedd problemau annisgwyl, buasai Brassey’n rhoi pres ychwanegol iddynt.[15] Dros cyfnod o fwy na 20 mlynedd, cyflogodd Brassey tua 80,000 o weithwyr dros 4 cyfandir.[16] Nid oedd ganddo swyddfa neu bobl i wneud y gwaith gweinyddol; gwnaeth Brassey y cwbl. Roedd ganddo was ac ariannydd.[17]; [18]
Derbynnodd Brassey nifer o anrhyddedau, gan gynnwys y Légion d'honneur Ffrengig a Choron Haearn Awstria.[19]
Priodas a phlant
golyguPriododd o Maria Harrison ym 1831[20] a chafodd gefnogaeth oddi wrthi hi, gan gynnwys cefnogaeth ar ddechrau ei yrfa i geisio am gytundeb Traphont Dutton, a’r un dilynol.[21] Roedd rhaid i’r teulu symud tŷ yn gynnar yn ei yrfa, o Phenbedw i Stafford, Kingston ar Dafwys, Caergwynt a Fareham, yn dilyn ei gwaith. Siaradodd Maria Ffrangeg, ac roedd hi’n bwysig yn y broses o chwilio am gytundebau yn Ffrainc. Symud odd y teulu i Vernon yn Normandi, wedyn Rouen, Paris ac yn ôl i Rouen.[22] Roedd Maria ei gyfieithydd trwy ei waith i gyd yn Ffrainc.[23]
Roedd ganddynt 3 mab, a threfnodd Maria eu haddysg yn Llundain.[24] They had three surviving sons, who all gained distinction in their own right:[25] Bu farw mab arall yn ifanc iawn.
Bywyd hwyr a marwolaeth
golyguClywodd Brassey fod ganddo gancer, ond parhaodd gyda’i waith. Ymwelodd â Reilffordd Wolverhampton a Walsall, un o’r reilffyrdd gynharaf.[26] Arhosodd gartref yn St Leonards, Swydd Sussex, yn hwyr ym 1870.Bu farw Brassey ar 8 Rhagfyr 1870 yn St Leonards a chladdwyd ym mynwent Eglwys Sant Laurence, Catsfield. Gadawodd £5,200, 000; £3,200,000 ym Mhrydain a dros £2,000,000 mewn cronfa ymddiriedolaeth.
Y dyn
golyguRoedd o’n ddyn llawn egni ac oedd yn ddyn trefnus. Gwrthododd i sefydd fel aelod seneddol. Doedd ganddo ddjm diddordeb mewn anrhydeddau; derbynnodd medalau o Ffrainc ac Awstria ond eu gollodd nhw. Dywedir y daeth ei lwyddiant o ysbrydoli eraill yn hytrach nac eu gyrru nhw.[27] Disgwylodd safonau uchel yng ngwaith ei weithwyr.[28] Gweithiodd o’n galed a roedd ganddo gof da. Roedd o’n deg i’w gweithwyr ac is-gytundebwyr, a weithiau cymerodd waith heb elw mawr er mwyn rhoi gwaith i’w gweithwyr.[29]
Oherwydd Brassey, codwyd statws cytundebwyr peirianyddiaeth sifil i lefel peirianwyr yn ystod y 18fed ganrif.[30]
Coffadwriaeth
golyguCrëwyd cofeb i’w rhieni gan eu tri meibion yng Nghapel Erasmus, Cadeirlan Caer.[31] Mae hefyd cerflun ohono yn Amgueddfa Grosvenor, Caer, a phlac yng Nghorsaf reilffordd Caer ac mae’r strydoedd dilynol yn ei goffáu: Brassey Street a Thomas Brassey Close. Mae hefyd 3 heol gyda’i gilydd gyda’r enwau ‘Lord’, ‘Brassey’ a ‘Bulkeley’.[32] Mae plac glas ar safle Gwaith Canada ar Heol Beaufort ym Mhenbedw.[33]. Mae trafodaeth ynglŷn â cherflun ohono o flaen Gorsaf reilffordd Caer, ond mae codi pres wedi bod yn broblem.
Ei reilffyrdd
golyguRoedd o’n gyfrifol am adeiladu dros 8500 milltir o reilffyrdd. Erbyn 1847 roedd o wedi adeiladu treian y rheilffydd ym Mhrydain, ac erbyn ei farwolaeth un o bob hugain milltir o reilffordd yn y byd. Adeiladodd o strwythurau eraill ymghlwm â rheilffyrdd hefyd; gorsafoedd, pontydd ac ati.
Rheilffyrdd
golyguPrydain
golygu1830au
golyguRheilffordd | Dyddiad | Hyd | |
---|---|---|---|
milltiroedd | cilometrau | ||
Rheilffordd y Grand Junction (rhan) | 1833 | 10 | 16 |
Rheilffordd Llundain a Southampton (rhan) | 1834 | 36 | 58 |
Rheilffordd Caer a Chryw | 1837 | 11 | 18 |
Rheilffordd Glasgow, Paisley a Greenock (rhan) | 1837 | 7 | 11 |
Rheilffordd Sheffield a Manceinion | 1837 | 19 | 31 |
1840au
golyguRheilffordd | Dyddiad | Hyd | |
---|---|---|---|
milltiroedd | cilomedrau | ||
Rheilffordd Lancaster a Chaerliwelyw | 1844 | 70 | 113 |
Rheilffordd Caer Colun ac Ipswich | 1844 | 16 | 26 |
Rheilffordd Caer a Chaergybi | 1844 | 31 | 50 |
Rheilffordd Ipswich a Bury | 1845 | 27 | 43 |
Rheilffordd Kendal a Windermere | 1845 | 12 | 19 |
Rheilffordd Dyffryn Trannon | 1845 | 50 | 80 |
Rheilffordd y Caledonian (cytundeb cyntaf) | 1845 | 125 | 201 |
Rheilffordd Cyffordd Clydesdale | 1845 | 15 | 24 |
Estyniad Rheilffordd Mwyn Gogledd Cymru | 1845 | 5 | 8 |
Rheilffordd cyffordd Canolbarth yr Alban | 1845 | 33 | 53 |
1845 | 47 | 76 | |
Rheilffordd Haughley a Norwich | 1845 | 33 | 53 |
Rheilffordd Amwythig a Chaer | 1846 | 35 | 56 |
Rheilffordd Lerpwl, Ormskirk a Preston | 1846 | 30 | 48 |
Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford | 1846 | 48 | 77 |
Rheilffordd Swydd Buckingham | 1846 | 40 | 64 |
Rheilffordd Mwyn (Cymru) | 1846 | 6.5 | 10 |
Rheilffordd y Great Northern | 1846 | 75 | 121 |
Rheilffordd Royston a Hitchin | 1846 | 13 | 21 |
Estyniad Rheilffordd Shepreth | 1846 | 5 | 8 |
1846 | 51 | 82 | |
Cangenni Denny a Falkirk | 1846 | 3.5 | 6 |
Rheilffordd Cyffordd Penbedw a Chaer | 1847 | 17.5 | 28 |
Rheilffordd Caerlyr a Hitchin | 1847 | 62.5 | 101 |
Rheilffordd Hooton a Parkgate | 1847 | 5 | 8 |
Rheilffordd Richmond a Windsor | 1847 | 15 | 24 |
Rheilffordd Llundain a Southampton | 1847 | 7 | 11 |
Estyniad Rheilffordd Amwythig | 1847 | 3 | 5 |
Estyniad Rheilfforrdd Blackwall | 1847 | 1.75 | 3 |
Rheilffordd Cangen Croesoswallt | 1848 | 2 | 3 |
1850au
golyguRheilffordd | Dyddiad | Hyd | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
milltiroedd | cilomedrau | ||||||
Rheilffordd Cyffordd Gogledd a De-Orllewin | 1851 | 4 | 6 | ||||
Rheilffordd Henffordd, Ross a Chaerloyw | 1851 | 30 | 48 | ||||
Cangen Dyffryn Waveney, Rheilffordd Harleston a Beccles | 1851 | 13 | 21 | ||||
1852 | 50 | 80 | |||||
Rheilffordd Warrington a Stockport | 1853 | 12 | 19 | ||||
Bideford Extension | 1853 | 6 | 10 | ||||
Crystal Palace and West-end Railway | 1853 | 5 | 8 | ||||
Rheilffordd Cryw ac Amwythig | 1853 | 32.5 | 52 | ||||
Rheilffordd Uniongyrchol Portsmouth | 1853 | 33 | 53 | ||||
Rheilffordd Caerwrangon a Henffordd | 1853 | 26 | 42 | ||||
Rheilffordd Dyffryn Hafren | 1853 | 42 | 68 | ||||
Rheilffordd Coalbrookdale | 1853 | 5 | 8 | ||||
Rheilffordd Woodford a Loughton | 1853 | 7.5 | 12 | ||||
Rheilffordd Dwyrain Swydd Suffolk | 1854 | 63 | 101 | ||||
Rheilffordd Inverness a Nairn | 1854 | 16 | 26 | ||||
Rheilffordd Llanllieni a Kington | 1854 | 14 | 23 | ||||
Rheilffordd Caersallog a Yeovil | 1854 | 40 | 64 | ||||
Pier a Changen Stokes Bay | 1855 | 2 | 3 | ||||
Rheilffordd Cyffordd Inverness ac Aberdeen | 1856 | 40 | 64 | ||||
Cangenni Sutton a Dyffryn Mole, Rheilffordd Leatherhead, Epsom a Wimbledon | 1856 | 10 | 16 | ||||
Rheilffordd Mwyn Cannock | 1857 | 10 | 16 | ||||
Rheilffordd Portpatrick | 1857 | 17 | 27 | ||||
Rheilffordd Trefyclawdd | 1858 | 12 | 19 | ||||
Rheilffordd Woofferton a Tenbury | 1859 | 5 | 8 | ||||
Rheilffordd Wenlock | 1859 | 4 | 6 | ||||
Rhilffordd Nuneaton a Hinckley | 1859 | 5 | 8 | Rheilffordd Llangollen | 1859 | 6 | 10 |
Rheilffordd Ringwood a Christchurch | 1859 | 8 | 13 | ||||
Estyniad Rheilffordd Gorllewin Llundain | 1859 | 9 | 14 | ||||
Rheilffordd Cantref Tendring | 1859 | 3 | 5 | ||||
Rheilffordd Epping ac Ongar | 1859 | 13 | 21 |
1860au
golyguRheilffordd | Dyddiad | Hyd | |
---|---|---|---|
milltiroedd | cilomedrau | ||
Rheilffordd Ashchurch ac Evesham | 1862 | 11 | 18 |
Rheilffordd de Swydd Gaerlyr | 1860 | 10 | 16 |
Tenbury and Bewdley Railway | 1860 | 15 | 24 |
Rheilffordd Llangollen a Chorwen | 1860 | 10 | 16 |
Rheilffordd Cannock Chase | 1860 | 3 | 5 |
Rheilffordd Disley a Hayfield | 1860 | 3.5 | 6 |
Rheilffordd Nantwich a Market Drayton | 1863 | 11 | 18 |
Rheilffordd Wenlock a Craven Arms | 1861 | 14 | 23 |
Cyffwrdd Clee Hill, Rheilffordd Ludlow a Clee Hill | 1861 | 16 | 26 |
Rheilffordd Dunmow | 1864 | 19 | 31 |
Rheilffordd Enniskillen a Bundoran | 1861 | 36 | 58 |
Rheilffordd Moreton Hampstead | 1862 | 12 | 19 |
Rheilffordd Wellington a Market Drayton | 1862 | 16 | 26 |
Rheilffordd Bala a Dolgellau | 1862 | 18 | 29 |
Rheilffordd Christchurch a Bournemouth | 1863 | 4 | 6 |
Rheilffordd Evesham a Redditch | 1863 | 18 | 29 |
Rheilffordd Kensington a Richmond (a darnau bach eraill) | 1864 | 7 | 11 |
Rheilffordd Silverdale | 1864 | 13 | 21 |
Rheilffordd Wolverhampton a Walsall | 1865 | 7 | 11 |
Rheilffordd Dwyrain Llundain | 1865 | 2.5 | 4 |
Rheilffordd Hull a Doncaster | 1864-9 | 15 | 24 |
Eraill
golyguRheilffordd | Hyd | |
---|---|---|
milltiroedd | cilomedrau | |
Rheilffodd Gogledd Swydd Dyfnaint | 47 | 76 |
Estyniad Rheilffordd Woodbridge | 10 | 16 |
Estyniad Rheilffordd Kingston | 4 | 6 |
Rheilffordd Sudbury, Bury St Edmunds a Chaergrawnt | 48 | 77 |
Estyniad Rheilffordd Chertsey | 3 | 5 |
Rheilffordd Llundain a Bedford (Prif lein y canolbarth | 50 | 80 |
Cangen Runcorn | 9 | 14 |
Rheilffordd Cwm Sirhowy | 2 | 3 |
Cangen Arpley, Warrington | 1.5 | 2 |
Rheilffordd Glynebwy | 2 | 3 |
Rheilffordd Loop Henffordd | 2 | 3 |
Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog | 93 | 150 |
Rheilffordd Glasgow, Barrhead a Neilson | 11 | 18 |
Ffrainc
golygu75 o filltiredd y wlad, yn cynnwys:
Rheilffordd | Dyddiad | Hyd | |
---|---|---|---|
milltiroedd | cilomedrau | ||
Rheilffordd Paris a Rouen | 1841 | 82 | 132 |
Rheilffordd Orléans a Bordeaux | 1842 | 294 | 473 |
Rheilffordd Rouen a Le Havre | 1843 | 58 | 93 |
Amiens and Boulogne Railway | 1844 | 53 | 85 |
Rheilffordd Rouen a Dieppe | 1847 | 31 | 50 |
Rheilffordd Mantes a Caen | 1852 | 113 | 182 |
Rheilffordd Le Mans a Mezidon | 1852 | 84 | 135 |
Rheilffordd Lyon ac Avignon | 1852 | 67 | 108 |
Rheilffordd Sambre a Meuse | 1853 | 28 | 45 |
Caen i Cherbourg | 1855 | 94 | 151 |
Rheilffordd Dieppe (gosod llinell ychwanegol) | 1860 |
Eraill yn Ewrop
golyguRheilffordd | Gwlad | Dyddiad | Hyd | |
---|---|---|---|---|
milltiroedd | cilomedrau | |||
Rheilffordd Barcelona a Mataró | Sbaen | 1848 | 18 | 29 |
Rheilffordd Prato a Pistoja | Yr Eidal | 1850 | 10 | 16 |
Rheilffordd Norwy | Norwy | 1851 | 56 | 90 |
Rheilffordd Rhenish | Yr Iseldiroedd | 1852 | 43 | 69 |
Rheilffordd Turin a Novara | Yr Eidal | 1853 | 60 | 97 |
Rheilffordd Frenhinol Denmarc | Denmarc | 1853 | 75 | 121 |
Rhelffordd Ganolog yr Eidal | Yr Eidal | 1854 | 52 | 84 |
Rheilffordd Turin a Susa | Yr Eidal | 1854 | 34 | 55 |
Rheilffordd Elizabeth a Linz | Awstria | 1856 | 40 | 64 |
Rheilffordd Bilbao a Miranda | Sbaen | 1858 | 66 | 106 |
Rheilffordd Victor Emmanuel | Yr Eidal | 1859 | 73 | 117 |
Rheilffordd Ivrea | Yr Eidal | 1859 | 19 | 31 |
Rheilffordd Jutland | Denmarc | 1860 | 270 | 435 |
Rheilffordd Maremma a Livorno | Yr Eidal | 1860 | 138 | 222 |
Rheilffordd Meridionale | Yr Eidal | 1863 | 160 | 257 |
Rheilffordd Gogledd Schleswig | Denmarc | 1863 | 70 | 113 |
Rheilffordd Lemberg a Czernowitz | Ymerodraeth Awstria (erbyn hyn Wcráin) | 1864 | 165 | 266 |
Rheilffordd Viersen a Venlo | O’r Almaen i’r Iseldiroedd | 1864 | 11 | 18 |
Rheilffordd Tiraspol a Warsaw | Gwlad Pwyl | 1865 | 128 | 206 |
Rhielffordd Kronprinz Rudolph | Awstria | 1867 | 272 | 438 |
Rheilffordd Chernivtsi a Suczawa | Ymerodraeth Awstria (erbyn hyn Wcráin) | 1867 | 60 | 97 |
Rheilffordd Vorarlberg | Awstria | 1870 | 55 | 89 |
Rheilffordd Suczawa and Iaşi | Rwmania | 1870 | 135 | 217 |
Canada
golyguRheilffordd | Dyddiad | Hyd | |
---|---|---|---|
milltiroedd | cilomedrau | ||
Rheilffordd Grand Trunk, Quebec - Toronto | 1854–1860 | 539 | 867 |
Yr Ariannin
golyguRheilffordd | Dyddiad | Hyd | |
---|---|---|---|
milltiroedd | cilomedrau | ||
Rheilffordd Canolog Ariannin | 1864 | 247 | 398 |
Rheilffordd La Boca a Barracas | 1865 | 3 | 5 |
Awstralia
golyguRheilffordd | Dyddiad | Hyd | |
---|---|---|---|
milltiroedd | cilomedrau | ||
Prif linell i'r gogledd, De Gymru Newydd | 1859 | 54 | 87 |
Rheilffordd Queensland | 1863 | 78 | 126 |
India
golyguRheilffordd | Dyddiad | Hyd | |
---|---|---|---|
milltiroedd | cilomedrau | ||
Rheilffordd Dwyrain Benga | 1858 | 112 | 180 |
Rheilffordd Delhi | 1864 | 304 | 489 |
Rheilffordd Grand Chord | 1865 | 147 | 237 |
Mauritius
golyguRheilffordd | Dyddiad | Hyd | |
---|---|---|---|
milltiroedd | cilomedrau | ||
Rheilffordd Mauritius | 1862 | 64 | 103 |
Llyfryddiaeth
golygu- 'The world the railways made' gan Nicholas Faith; cyhoeddwyr Bodley Head, 1993; isbn =0-370-31299-6
- 'The Railway Builders: Lives and Works of the Victorian Railway Contractors' gan R.S. Joby; Cyhoeddwyr David a Charles, 1983; isbn =0-7153-7959-3
- 'William Heap and his Company' gan John Millar; Cyhoeddwr William Millar, 1976; isbn =0-9510965-1-6
Dolen allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan www.royprecious.co.uk
- ↑ 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 Charles Walker, Thomas Brassey, Railway Builder (Frederick Muller, 1969)
- ↑ "Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20111215071558/ |date=2011-12-15 Gwefan Ysgol King's". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-15. Cyrchwyd 2021-12-01.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 Arthur Helps, Life and Labours of Thomas Brassey (Elibron Classics, 2005)
- ↑ 5.0 5.1 Tom Stacey, Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World (Stacey International, 2005)
- ↑ Doug Haynes, "The Life and Work of Thomas Brassey", Cheshire History
- ↑ 'Village bridge the first by engineering giant’ gan Liam Murphy; Daily Post, 21 Tachwedd 2005
- ↑ Brian Cooke, The Grand Crimean Central Railway, Knutsford (Cavalier House)
- ↑ ’Life and Labours of Thomas Brassey’ gan Arthur Helps; Cyhoeddwyr Elibron Classics 2005; isbn=978-1-4021-0563-0
- ↑ ’Life and Labours of Thomas Brassey’ gan Arthur Helps; Cyhoeddwyr Elibron Classics 2005; isbn=978-1-4021-0563-0
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey: The Greatest Railway Builder in the World’ gan Tom Stacey; cyhoeddwyr Stacey International, 2005; isbn =1-905299-09-5
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ ’Thomas Brassey, Railway Builder’ gan Charles Walker; cyhoeddwr Frederick Muller, 1969; isbn =0-584-10305-0
- ↑ [ http://www.oxforddnb.com/view/article/3289 Geiriadur Rhydychen Bywgraffiad Cenedlaethol]
- ↑ Doug Haynes, "The Life and Work of Thomas Brassey", Cheshire History
- ↑ Gwefan www.chestertourist.com
- ↑ Gwefan y Wirral Globe