Cwmwl siwgwr

candyfloss losin melysyn

Ffurf o siwgr sydd wedi'i droelli yw cwmwl siwgwr, cwmwl candi, neu blew siwgwr (Saesneg ː Candy-floss). Siwgr yw'r prif gynhwysyn, gydag ychydig o flas neu liw bwyd yn aml wedi'i ychwanegu.[1]

Cwmwl siwgwr
Mathsugar candy Edit this on Wikidata
Lliw/iaupinc Edit this on Wikidata
LleoliadGorllewin Jawa Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssiwgr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae cwmwl siwgwr yn cael ei greu trwy dwymo siwgr a'i droi'n hylif, ac yna ei droelli allan o dyllau man. Mae'n caledu eto mewn edafedd tenau o "wydr siwgr".[2]. Aer yw'r rhan fwyaf o'r cwmwl, ac mae 1 owns neu 28 gram yn cael ei ystyried yn ddigon i un person. Mae'n aml yn cael ei werthu mewn ffeiriau, carnifalau, syrcasau a gwyliau Siapaniaidd, a hynny naill ai ar ffon neu mewn bag plastig.[3][4][5]

Cymylau siwgwr blas masarn ar werth yn Pakenham, Canada

Dyfeisio'r Cwmwl Siwgr

golygu
 
Merched yn mwynhau cwmwl siwgr yn Ffair Glamai (Calan Mai), y Bala, 1953, ffoto Geoff Charles

Mae nifer o lefydd yn hawlio mai yno y tarddodd y cwmwl siwgwr, gyda rhai ffynonellau yn ei olrhain yn ol i ffurf o siwgr wedi'i droelli oedd i'w gael yn Ewrop yn y 19g. Bryd hynny, roedd siwgr wedi'i droelli yn ddrud, yn lawer o waith i'w wneud ac ddim ar gael i'r person cyffredin.[6] Mae eraill yn awgrymu bod fersiynau o siwgr wedi'i droelli yn tarddu o'r Eidal mor gynnar a'r 15g.[7]

Cafodd y cwmwl siwgr sydd wedi'i droelli a pheiriant ei ddyfeisio yn 1897 gan y deintydd William Morrison a'r cyffeithiwr John C. Wharton, a'i gyflwyno i gynulleidfa eang am y tro cyntaf yn Ffair y Byd 1904 fel "Fairy Floss"[8] gyda llwyddiant mawr; gwerthwyd 68,655 o focsys am 25¢ yr un (swm cyfatebol i $6[9] heddiw).

Dyfeisiodd Joseph Lascaux, deintydd o New Orleans, Louisiana, beiriant cwmwl siwgr tebyg yn 1921. Yn wir, roedd patent Lascaux yn galw'r cynnyrch yn "cotton candy” ac felly diflannu wneuth "fairy floss", er ei fod yn dal i gael ei ddefnyddio Awstralia hyd heddiw.[10][11] Yn y 1970au, crewyd peiriant cwmwl siwgwr awtomatig a oedd yn creu'r cynnyrch a'i becynnu. Roedd hyn yn ei wneud yn haws i'w gynhyrchu a'i werthu mewn carnifalau, ffeiriau a siopau o'r 1970au ymlaen.

Cwmwl Siwgr - 'Siwgr Candi' mewn Diwylliant Gymraeg

golygu

Caiff Cymreigiad o'r gair Saesneg, Candi-Fflos yn deitl ar gyfieithiad Gymraeg o nofel i blant yn ei harddegau, 'Candyfloss', gan Jacqueline Wilson. Gellid awgrymu cwmwl candi fel enw Cymraeg arall i'r melysyn.

Enwau mewn ieithoedd Tramor

golygu

Gelwir y cwmwl siwgr yn wahanol enwau mewn gwahanol iaithoedd wrth iddynt geisio disgrifio'r melysyn.

Ffrangeg - barbe à papa - losin cotwm
Almaeneg - Zuckerwatter - wadin siwgr
Eidaleg - Zucchero filato - losin cotwm
Gwyddeleg - Scamall siúcra - cwmwl siwgr
Afrikaans - spookasem - anadl ysbryd/bwgan
Bengaleg - হাওয়াই মিঠাই - losin Hawai'i

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rachel L. Swarns (27 Gorffennaf 2014). "In Coney Island, Weaving a Confection That Tastes Like Long-Ago Summers". New York Times.
  2. "Food Science: Cotton Candy". Portageinc.com.
  3. "Best Of Worst -- July 4th Foods". cbsnews.com. 1 Gorffennaf 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2008. Cyrchwyd 13 Medi 2009. Cotton Candy (1.5 oz serving) 171 calories, 0 g fat, 45 g carbs, 45 g sugar, 0 g protein Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Carter, Darla (21 Awst 2009). "Enjoy the fair, but don't wreck your diet". Louisville Courier-Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Ionawr 2013. Cyrchwyd 13 Medi 2009. A 5½-ounce bag of cotton candy can have 725 calories. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  5. "Cotton candy on a stick (about 1 ounce) has 105 calories, but when bagged (2 ounces) it has double that number: 210". Pocono Record. 27 Medi 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-02. Cyrchwyd 13 Medi 2009.
  6. Lynne Olver. "history notes-candy". The Food Timeline. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2011.
  7. Linda Fri (11 Awst 2010). "Cotton Candy History". CottonCandy.net. Cyrchwyd 28 Mehefin 2015.
  8. "Cotton Candy". The Straight Dope. 7 Chwefror 2000. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-23. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2011.
  9. "$1 in 1904 → 2017 – Inflation Calculator". www.in2013dollars.com.
  10. "History of Cotton Candy". Fineentertaining.com. Cyrchwyd 28 Mehefin 2012.
  11. "Cotton Candy Fun Facts". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 24 Hydref 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Dolenni allanol

golygu