Rhuddlan (cwmwd)
Cwmwd canoloesol yn y Berfeddwlad, ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, oedd cwmwd Rhuddlan. Gyda chymydau Prestatyn a Cwnsyllt, roedd yn un o dri chwmwd cantref Tegeingl.
Gorweddai'r cwmwd yng ngorllewin Tegeingl, rhwng afon Clwyd a Bryniau Clwyd. Ffiniai â chymydau Cwnsyllt (Coleshill) a Prestatyn, yn yr un cantref, ac â chymdau Is Dulas (cantref Rhos) ac Is Aled (cantref Rhufoniog) i'r de a'r gorllewin.
Rhuddlan oedd canolfan y cwmwd a phrif ganolfan cantref Tegeingl hefyd yn ddiweddarach. Roedd o bwys strategol am ei fod yn gorwedd ar y llwybr arfordirol i gyfeiriad Gwynedd o gyfeiriad Lloegr. Codwyd castell yno gan y brenin Llywelyn ap Seisyllt yn 1015 a ddaeth yn ganolfan brenhinol i'w fab, y brenin Gruffudd ap Llywelyn. Newidiodd ddwylo sawl gwaith yn y ddwy ganrif nesaf. Am gyfnod by ym meddiant yr arglwydd Normanaidd, Robert o Ruddlan. Yn nes ymlaen codwyd Castell Rhuddlan ar lan afon Clwyd gan Edward I o Loegr, a ddechreuwyd yn 1277.
Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, bu'r rhan yma o'r wlad ym meddiant Mersia am gyfnod. Fe'i adenillwyd gan y Cymry dan Owain Gwynedd a daeth yn rhan o gantref Tegeingl. Am lawer o'r amser bu ym meddiant brenhinoedd a thywysogion Gwynedd, ond yn y 1270au fe'i meddianwyd gan goron Lloegr a daeth yn rhan o'r Sir y Fflint newydd yn 1282, gyda Statud Rhuddlan. Heddiw mae'r hen gwmwd yn gorwedd yn Sir Ddinbych.
Gweler hefyd
golyguLlyfryddiaeth
golygu- A. J. Taylor, Rhuddlan Castle (1982)
- C. R. Williams, The History of Flintshire (1961)