Cwpan Doddie Weir
Mae Cwpan Doddie Weir (Saesneg:Doddie Weir Cup) yn dlws gwastadol rygbi'r undeb sydd yn cael ei herio rhwng yr Alban a Chymru ers 2018. Crëwyd y cwpan i ddod ag ymwybyddiaeth i glefyd niwronau motor. Cafodd cyn-glo rhyngwladol yr Alban Doddie Weir ddiagnosis o’r salwch ac enwyd y cwpan er anrhydedd iddo.[1]
Math o gyfrwng | rugby union trophy or award, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon, rugby union match |
---|---|
Crëwr | Hamilton & Inches |
Dechrau/Sefydlu | 2018 |
Lleoliad | Cymru, Yr Alban |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Enillodd Cymru yn y gêm agoriadol o 21 pwynt i 10 yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2018.[2] Cymru yw'r deiliaid presennol.[3]
Dyluniad
golyguComisiynwyd y cwpan ar y cyd gan Undeb Rygbi'r Alban ac Undeb Rygbi Cymru a chafodd ei ddylunio gan y gofaint arian o Gaeredin Hamilton ac Inches.[4]
Dywedodd Doddie Weir am y tlws bod y gof arian "wedi gwneud gwaith hollol wych wrth ei wneud gyda dolenni mawr i efelychu fy nghlustiau enfawr!".[5]
Elusen
golyguSefydlodd Weir elusen o'r enw My Name'5 Doddie Foundation i helpu i ariannu triniaethau ar gyfer clefyd niwronau motor.[6]
Yn wreiddiol, nid oedd Undeb Rygbi Cymru nac Undeb Rygbi'r Alban yn bwriadu cyfrannu unrhyw arian werthiant tocynnau i'r gêm agoriadol i'r elusen,[7] ond arweiniodd pwysau gan gefnogwyr ac yn y cyfryngau at roi swm chwe ffigwr yn y pen draw.[8]
Crynodeb
golyguManylion | Wedi chwarae | Wedi ennill gan yr Alban |
Wedi ennill gan Cymru |
Cyfartal | Pwyntiau i'r Alban | Pwyntiau i Gymru |
---|---|---|---|---|---|---|
Yn yr Alban | 2 | 0 | 2 | 0 | 35 | 43 |
Yng Nghymru | 2 | 1 | 1 | 0 | 24 | 31 |
Cyfanswm | 4 | 1 | 3 | 0 | 59 | 74 |
Canlyniadau
golyguBlwyddyn | Dyddiad | Lleoliad | Cartref | Sgôr | Oddi Gartref | Enillydd |
---|---|---|---|---|---|---|
2018 | 3 Tachwedd | Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd | Cymru | 21–10 | yr Alban | Cymru |
2019 | 9 Mawrth | Stadiwm Murrayfield, Caeredin | yr Alban | 11–18 | Cymru | Cymru |
2020 | 31 Hydref | Parc y Scarlets, Llanelli | Cymru | 10–14 | yr Alban | yr Alban |
2021 | 13 Chwefror | Stadiwm Murrayfield, Caeredin | yr Alban | 24–25 | Cymru | Cymru |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Pwysau ar undebau rygbi i gyfrannu arian". 2018-10-29. Cyrchwyd 2019-09-05.
- ↑ "Croesawu'r Alban yng Nghyfres yr Hydref yn 2018". BBC Cymru Fyw. 2018-01-19. Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ "Pencampwriaeth y 6 Gwlad: Yr Alban 24-25 Cymru". BBC Cymru Fyw. 2021-02-13. Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ "Doddie Weir Cup Design". Hamilton & Inches. Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ Barnes, David (2018-10-28). "SRU and WRU have let the sport down, but Doddie Weir Cup is still well worth celebrating". The Offside Line (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ "Cefnogaeth 'anhygoel' i Doddie Weir yng Nghymru". BBC Cymru Fyw. 2018-11-02. Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ "Scottish Rugby defends Weir cash decision". BBC Sport. Cyrchwyd 2021-02-14.
- ↑ "Elusen: Undeb Rygbi Cymru'n ildio i bwysau". BBC Cymru Fyw. 2018-10-30. Cyrchwyd 2021-02-14.