Cwtiad llwyd
Cwtiad llwyd | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Charadriidae |
Genws: | Pluvialis |
Rhywogaeth: | P. squatarola |
Enw deuenwol | |
Pluvialis squatarola (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Cwtiad llwyd (Pluvialis squatarola) yn aelod o deulu'r rhydyddion.
Yn y tymor nythu mae'n aderyn tarawiadol dros ben, gyda smotiau du a gwyn ar y cefn a rhan uchaf yr adenydd a'r wyneb, y fron a'r bol yn ddu. Yn y gaeaf mae'r fron a'r bol yn troi'n wyn ac mae'n haws ei gymysgu gyda'r Cwtiad aur, ond mae pig y Cwtiad aur yn llai ac hyd yn oed yn y gaeaf mae rhywfaint o liw aur ar y cefn, sy'n absennol yn y Cwtiad llwyd. Os oes amheuaeth y peth gorau i'w wneud yw disgwyl i'r aderyn hedfan. Mae gan y Cwtiad llwyd ddarn du amlwg ar ei gesail tra mae'r Cwtiad aur yn wyn yma.
Mae'n nythu ar rostir agored ar ynysoedd yn yr Arctig o ogledd Canada i ogledd-ddwyrain Rwsia. Adeiledir y nyth ar lawr. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf cyn belled a de Ewrop a gogledd Affrica, De America cyn belled i'r de a'r Ariannin ac Awstralia.
Yn wahanol i lawer o rydyddion, nid ydynt yn gwthio'r pig i'r mwd i chwilio am fwyd, yn hytrach maent yn cerdded o gwmpas i chwilio am unrhyw pryfed neu anifeiliaid bach sydd i'w gweld ar yr wyneb. Maent yn bwydo ar fwd ger glan y môr fel rheol.
Nid yw'r Cwtiad llwyd yn nythu yng Nghymru, ond mae cryn nifer yn treulio'r gaeaf yma.