Cydnabyddiaeth Ryngwladol o Wladwriaeth Palesteina

Mae cydnabyddiaeth ryngwladol o Wladwriaeth Palesteina, gan fwyaf, yn gydnabyddiaeth gan y corff priodol i wnued hynny, sef y Cenhedloedd Unedig. Y cefndir i hyn ydy gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd a ddeilliodd oherwydd fod cenedl y Palesteiniaid wedi colli eu tir i Israel pan grëwyd gwladwriaeth Israel yn 1948. Yn 1948 gorfodwyd cannoedd o filoedd o Balesteiniaid i ffoi o'u cartrefi yn yr hen Balesteina Adnabyddir y ffoedigaeth hon gan y Palesteiniaid fel Al Nakba (Arabeg: النكبة‎ "Y Drychineb").

Cydnabyddiaeth Ryngwladol o Wladwriaeth Palesteina
Enghraifft o'r canlynolerthygl sydd hefyd yn rhestr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwledydd sydd wedi cydnabod Gwladwriaeth Palesteina.
Dome in Jerusalem The Capital City Of Palestine

Yn gryno golygu

Ar 14 Hydref 1974, cydnabyddwyd Mudiad Rhyddid Palesteina (neu'r PLO) gan Gynulliad y Cenhedloedd Unedig (UN) a rhoddwyd yr hawl iddynt i gymeryd rhan yn nhrafodaethau'r Cynulliad Cyffredinol pan drafodir statws y genedl.[1]

Ar 22 Tachwedd 1974, ehangwyd eu hawliau i gymeryd rhan ym mhob trafodaeth.[2]

Ar 15 Rhagfyr 1988, derbyniwyd a chymeradwywyd "Datganiad o Ymreolaeth Palesteina" gan Cynulliad Cyffredinol; Cynnig 43/177.[3]

Ar 29 Tachwedd 2012, rhoddwyd i'r PLO statws arsylwi (Observer state status) gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.

Cydnabyddiaeth cyn 2012 golygu

Cyhoeddwyd Palesteina'n Wladwriaeth ar y 15fed o Dachwedd 1988 yn Algeria mewn cyfarfod arbennig o alltudion Cyngor Cenedlaethol Mudiad Rhyddid Palesteina (y PLO). Cynsail cyfreithiol hyn oedd Penderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, (Penderfyniad 181 (II) a gymeradwywyd ar 29 Tachwedd 1947, a oedd yn dod a hawliau Prydain i ben ac yn rhannu Israel yn ddwy wladwriaeth.

O fewn dim, cymeradwywyd y Datganiad gan nifer o wledydd:[4] ac erbyn diwedd y flwyddyn daeth cefnogaeth i'r cydnabyddiaeth hwn gan 80 o genhedloedd.[5]

Y Cenhedloedd Unedig golygu

Ar 29 Tachwedd 2012, derbyniwyd cynnig a oedd o flaen Cynulliad y Cenhedloedd Unedig a oedd yn newid statws Paleseina i fod yn "Wladwriaeth heb fod yn aelod" ("non-member state"). Roedd nifer y gwledydd a gytunodd â'r cynnig yn 138 a'r nifer o wledydd a oedd yn erbyn y cynnig yn 9; cafwyd 41 o wledydd a ataliodd eu pleidlais.[6][7] Golygai hyn fod y Cenhedloedd Unedig yn derbyn sofraniaeth Palesteina fel Gwladwriaeth a hynny gyda mwyafrif eithriadol.

Y gwledydd a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig oedd: Israel, yr Unol Daleithiau, Ynysoedd Marshall, Canada, Gweriniaeth Tsiec, Micronesia, Nawrw, Palaw a Panama.

Cydnabyddiaeth gan awdurdodau eraill golygu

Ar 29 Medi 2012 derbyniwyd cynnig gan Lywodraeth yr Undeb Ewropeaidd a oedd yn datgan eu bod yn "Cefnogi ac yn galw ar eu haelodau (gwledydd) i gefnogi hawl y Paleseiniaid i gael eu cynrychioli fel gwladwriaeth oddi fewn y Cenhedloedd Unedig."[8]

Galwodd Pab Bened XVI am roi statws Gwladwriaeth i Balesteina yn ystod ei ymweliad i Israel yn 2009. Cyfarfu Mahmoud Abbas, sef Cadeirydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina (PNA) eto ym Mehefin 2011.[9][10][11]

Ar 3 o Hydref 2014 cafwyd anerchiad gan Brif Weinidog Sweden y byddai ei wlad yn cydnabod cenedl Palesteina ac yna ar 13 Hydref 2014 pleidleisiodd Llywodraeth y DU o 274 i 12 o blaid cydnabod Palesteina yn genedl.[12][13][14]

Yn Ionawr 2016 cyhoeddodd y Fatican fod eu "Cytundeb gyda Gwladwriaeth Palesteina" wedi dod i rym. Mae eu defnydd o'r gair "gwladwriaeth" yma'n holl bwysig, gan ei fod yn cefnogi'n llwyr statws di-aelod llawn i'r Palesteiniaid yng Nghynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.[15]

2012 UN General Assembly resolution granting Palestine a non-member observer status.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. UNGA, 14Hydref 1974; Resolution 3210 (XXIX). Invitation to the Palestine Liberation Organization Archifwyd 2011-01-03 yn y Peiriant Wayback. (doc.nr.A/RES/3210 (XXIX))
  2. UNGA, 22 Tachwedd 1974; Resolution 3237 (XXIX). Observer status for the Palestine Liberation Organization Archifwyd 2012-12-27 yn y Peiriant Wayback. (doc.nr. A/RES/3237 (XXIX))
  3. UNGA, 15 Rhagfyr 1988; Resolution 43/177. Question of Palestine Archifwyd 2015-07-17 yn y Peiriant Wayback. (doc.nr. A/RES/43/177)
  4. Tessler, Mark (1994). A History of the Israeli–Palestinian conflict (arg. 2nd, illustrated). Indiana University Press. t. 722. ISBN 978-0-253-20873-6. "Within two weeks of the PNC meeting, at least fifty-five nations, including states as diverse as the Soviet Union, China, India, Greece, Yugoslavia, Sri Lanca, Malta, and Sambia, had recognized the Palestinian state."
  5. United Nations Educational, Scientific and Cultural Organization, Executive Board (12 May 1989). "Hundred and thirty-first Session: Item 9.4 of the provisional agenda, Request for the Admission of the State of Palestine to UNESCO as a Member State" (PDF). United Nations. tt. 18, Annex II. Cyrchwyd 2010-11-15.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  6. "Palestinians win implicit U.N. recognition of sovereign state". Reuters. 29 November 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-05. Cyrchwyd 29 November 2012.
  7. "UN makes Palestine nonmember state". 3 News NZ. November 30, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-16. Cyrchwyd 2012-12-07.
  8. Parliament of the European Union (29 September 2011). "European Parliament resolution of 29 September 2011 on the situation in Palestine" (PDF). yr Undeb Ewropeaidd. Cyrchwyd 2011-10-13.
  9. Agence France-Presse (3 Mehefin 2011). "Pope agrees on 'urgent need' for Palestinian state". Ahram Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-23. Cyrchwyd 2011-08-01.
  10. Holy See. "Bilateral relations of the Holy See". Secretariat of State. Cyrchwyd 2010-11-20. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  11. Staff writers (5 June 2011). "Pope Benedict meets Palestinian president". Independent Catholic News. Cyrchwyd 2011-08-01. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  12. [1][dolen marw]
  13. Beaumont, Peter (3 October 2014). "Sweden to recognise state of Palestine". The Guardian. London. Cyrchwyd 14 October 2014.
  14. "MPs back Palestinian statehood alongside Israel". BBC News. BBC. 14 October 2014. Cyrchwyd 14 October 2014.
  15. rt.com; adalwyd Ionawr 2016