Catecism Lleiaf Westminster
Catecism a ysgrifennwyd ym 1646 a 1647 yw Catecism Lleiaf Westminster (Saesneg: Westminster Shorter Catechism) gan Gymanfa Westminster, synod o diwinyddion a lleygwyr o Loegr a'r Alban â'r bwriad o ddod ag Eglwys Loegr yn nes at Eglwys yr Alban. Yn ogystal â'r Catecism Lleiaf, cynhyrchodd y Gymanfa Gyffes Ffydd Westminster a'r Catecism Mwyaf. Cwblhawyd fersiwn heb ddyfyniadau o'r Ysgrythurau ar 25 Tachwedd 1647 a'i gyflwyno gerbron y Senedd Faith. Ychwanegwyd y dyfyniadau o'r Beibl ar 14 Ebrill 1648.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Cymanfa Westminster |
Rhan o | Westminster Standards |
Dyddiad cyhoeddi | 1648 |
Genre | Catecism |
Lleoliad cyhoeddi | Llundain |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cefndir
golyguHolwyddoreg yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio dysgu'r ffydd Gristionogol. Yn ystod pedair canrif gyntaf yr Eglwys, dysgid y rhai oedd newydd gael troëdigaeth i Gristionogaeth am y ffydd gan ddefnyddio darlithoedd, ond fe ddaeth hyn i ben yn raddol wrth i'r byd Cristionogol dyfu. Teimlai dyneiddwyr Cristionogol a diwygwyr Protestannaidd y dylid ailafail yn yr arfer hwn. Yn hyn o beth, roedd Catecism Geneva gan Jean Calvin yn ddylanwadol iawn ar Ddiwygwyr Prydain ac ymhlith catecismau Prydeinig poblogaidd eraill roedd gweithiau John Craig, James Ussher, Herbert Palmer, John Ball ac Anthony Tuckney.[1] Roedd y First Book of Discipline (1560) yn mynnu bod prynhawn y Saboth yn cael ei neilltuo er mwyn arholi plant iau yn y catecism, a mabwysiadwyd hyn yn Eglwys yr Alban wedi i John Knox ddychwelyd i'r wlad. Daeth holwyddoreg yn rhan o fywyd yr Eglwysi yn yr Alban wrth i bobl gyflogi holiedyddion teithiol er mwyn dysgu — rhywbeth a barhaodd tan y 19g. Cynhaliwyd Cymanfa Westminster ym 1643 er mwyn diwygio Eglwys Loegr, ond pan lofnodwyd Cynghrair a Chyfamod Difrifol rhwng yr Albanwyr a'r Saeson, roedd ei gwaith i gynnwys llunio "pedwar pwynt neu bedair rhan unffurfiaeth" er mwyn dod â'r ddwy eglwys genedlaethol yn nes at ei gilydd: Cyffes Ffydd, Cyfarwyddiadur Addoli a Holwyddoreg.[2]
Llunio'r catescism
golyguEr i'r eglwys yn yr Alban gynhyrchu The New Catechisme according to the Forme of the Kirk of Scotland ym 1644, dysgu plant a phobl ifainc oedd nod arbennig hwn, ac nis derbyniwyd gan Gymanfa Diwinyddion Westminser. Roedd 12 neu 14 o aelodau'r Gymanfa eu hun wedi cynhyrchu catecismau cyn i'r Gymanfa gael ei sefydlu. Un o holiedyddion mwyaf parchus y wlad oedd Herbert Palmer, a bu disgwyl i'w gatecism ef, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1640, ddod yn sail i un newydd y Gymanfa. Er hynny, mae'n debyg i'r pwyllgor roi'r gorau i'r syniad hwn ar ôl peth gwaith arno ym 1645, a hynny'n wedi'i ddilyn gan fethiant arall wrth geisio greu un catecism rhwng haf 1646 a 14 Ionawr 1647. Wedi hyn, pederfynodd y pwyllgor y byddai'n rhaid llunio dau gatecism yn hytrach nag un, gan fod angenion gweinidogion a phlant yn wahanol iawn. Penderfynodd hefyd aros nes cwblhau y Gyffes Ffydd, ac yna seilio'r catecismau ar y ddogfen hon yn hytrach nag ar Gredo'r Apostolion. Cwblhawyd y Catecism Mwyaf a'i gyflwyno i'r Senedd ar 22 Hydref 1647 ac fe sefydlwyd pwyllgor arall i lunio'r Catecism Lleiaf a chanddo Herbert Palmer yn gadeirydd a Charles Herle, Thomas Temple, John Lightfoot, John Greene, Philip Delme, Edmund Calamy the Elder a Stanley Gower yn aelodau. Pan fu farw Palmer ar ôl sefydlu'r pwyllgor, crëwyd un newydd a oedd yn cynnwys Anthony Tuckney, Stephen Marshall and John Ward yn unig, yn ogystal â Samuel Rutherford, un o'r comisiynwyr o'r Alban, na châi bleidleisio.[3]
Credir mai Anthony Tuckney oedd y dylanwad mwyaf ar y Catecism. Dibynnwyd hefyd ar gatecismau cynt James Ussher a John Ball, yn ogystal â diwinyddiaeth William Perkins.[4] Serch hyn, gellir esbonio llawer o'r tebygrwydd rhwng Catecism Lleiaf y Gymanfa a rhai blaenorol fel rhan o eirfa ddiwinyddol gyffredin yr cyfnod.[5] Seiliwyd y Catecism Lleiaf yn bennaf ar y Catecism Mwyaf, ond efallai fod y Lleiaf wedi cynnwys mwy o'r catecism blaenorol y rhoddwyd y gorau iddo na'r Mwyaf. Fe'i anfonwyd i'r Senedd ar 25 Tachwedd 1647, cwta fis ar ôl anfon y Catecism Mwyaf. Ychwanegwyd dyfyniadau o'r Beibl ar 14 Ebrill 1648,[6] ac fe'i derbyniwyd gan y Senedd ar 22-25 Medi[7] â'r gorchymyn iddo gael ei argraffu â'r teitl The Grounds and Principles of Religion Contained in a Shorter Catechism.[8] Cymeradwyodd Eglwys yr Alban y Catecism fis Gorffennaf 1648 a derbyniodd Senedd yr Alban ef ym mis Chwefror y flwyddyn wedyn.[6]
Ffurf a chynnwys y ddogfen
golyguAddysgu plant ac eraill "o allu gwannach" (yn ôl rhagair a ysgrifennwyd gan Eglwys yr Alban) yn y ffydd Ddiwygiedig oedd diben y Catecism Lleiaf. Fe'i seilir ar y Catecism Mwyaf, a luniwyd ar gyfer gweinidogion wrth iddynt ddysgu'r ffydd i'w cynulleidfaoedd yn ei pregethu.[6] Mae'r Catecism ar ffurf cwestiwn ac ateb, a ddaeth yn boblogaidd diolch i Martin Luther, fel ffordd i helpu plant i ddysgu ystyr y deunydd, yn hytrach na dysgu Gweddi'r Arglwydd, y Deg Gorchymyn a Chredo'r Apostolion ar y cof yn ôl arfer y cyfnod cyn y Diwygiad.[9]
Ceir 107 o gwestiynau a'u hatebion yn y catecism. Mae'r 12 cyntaf ynghlych Duw fel y Creawdwr. Mae cwestiynau 13-20 yn ymdrin â phechod gwreiddiol a chyflwr syrthiedig natur dyn. Mae cwestiynau 21-38 am Grist yn Waredwr a'r bendithion a ddaw o'r waredigaeth honno. Mae'r cwestiynau nesaf, 39-84, yn trafod y Deg Gorchymyn, wrth i 85-97 sôn am sagrafennau Bedydd a'r Cymun. Mae'r cwestiynau olaf, 98-107, yn dysgu ac yn esbonio Gweddi'r Arglwydd. Mae'r drefn yn debyg i Gatecism Heidelberg a ddefnyddid gan lawer o eglwysi Diwygiedig Cyfandirol ar y pryd.
Y cwestiwn enwocaf o'u plith, sy'n adnabyddus i lawer o blant Presbyteraidd, yw'r cyntaf oll:
Pa beth yw diben pennaf dyn?
Diben pennaf dyn yw gogoneddu Duw, a'i fwynhau ef yn dragywydd.
Dylanwad
golyguCymeradwyodd Eglwys yr Alban Gatecism Lleiaf Westminser ym 1648, ac wedyn daeth yn llawlyfr iddi. Serch hynny, oherwydd mai Gaeleg oedd iaith rhan helaeth o boblogaeth Ucheldiroedd yr Alban, siarsiodd Synod Earra-Ghàidheal (Argyle) saith o'i weinidogion ym 1649 i gyfieithu'r Catecism i mewn i'r iaith honno. Cyhoeddwyd y Catecism Lleiaf Gaeleg yr un flwyddyn a byddai'n parhau i chwarae rhan mewn bywyd eglwysig am ddegawdau wedi i eglwysi Saesneg roi'r gorau i'w ddefnyddio. Hyd heddiw, mae Eglwys Rydd yr Alban yn cyflwyno Beibl i blentyn sydd yn gallu ateb pob un o'r 107 cwestiwn yn gywir mewn un gwrandawiad.
Yn Llundain ym 1675, cyhoeddodd y Presbyteriad Thomas Vincent eglurhad poblogaidd o'r enw The Shorter Catechism Explained. Wedi hynny, ymddangosodd catecismau Diwygiedig eraill, fel Catecism Keach 1693 y Bedyddwyr sydd yn debyg i gatecism Westminster ar y rhan fwyaf o'i bwyntiau ond bedyddio plant.
Ceir sôn am Gatecism Westminster ym mhennod wyth "The Scarlet Letter" gan Nathaniel Hawthorne.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kelly 1994, tt. 104–106.
- ↑ Kelly 1994, t. 107.
- ↑ Kelly 1994, tt. 109–110.
- ↑ Kelly 1994, tt. 110–111.
- ↑ Leith 1973, t. 37.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Kelly 1994, t. 111.
- ↑ Paul 1985, t. 519.
- ↑ Carruthers, William (1897). The Shorter Catechism of the Westminster Assembly of Divines. t. 33.
- ↑ Green 1996, t. 17.
Llyfryddiaeth
golygu- Green, Ian (1996). The Christian's ABC: Catechisms and Catechizing in England c.1530-1740. Oxford: Clarendon PressNodyn:Subscription required. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-07. Cyrchwyd 2016-04-18.CS1 maint: ref=harv (link)
- Kelly, Douglas F. (1994). "The Westminster Shorter Catechism". In Carlson, John L.; Hall, David W. (gol.). To Glorify and Enjoy God: A Commemoration of the 350th Anniversary of the Westminster Assembly. Edinburgh: Banner of Truth Trust. ISBN 0-85151-668-8.CS1 maint: ref=harv (link)
- Leith, John H. (1973). Assembly at Westminster: Reformed Theology in the Making. Richmond, VA: John Knox Press. ISBN 0-8042-0885-9.CS1 maint: ref=harv (link)
- Paul, Robert S. (1985). The Assembly of the Lord: Politics and Religion in the Westminster Assembly and the 'Grand Debate'. Edinburgh: T&T Clark. ISBN 0-567-09341-7.CS1 maint: ref=harv (link)