Cyfres o ddramâu byr Cymraeg gan Wasg Carreg Gwalch yw Cyfres Y Llwyfan, fu'n boblogaidd iawn yn y 1980au a'r 1990au. Comedïau oedd y mwyafrif, ond bu ambell i ddrama mwy dwys dros y blynyddoedd.

Cyfres Y Llwyfan
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1980 - 2000
Argaeleddallan o brint
GenreDramâu Cymraeg
CyfresCyfres Y Llwyfan

Cychwynodd Myrddin ap Dafydd y gyfres ar ddechrau'r 1980au, fel ymateb i'r llu o Ŵyliau Dramâu a sefydlwyd gan y Papurau Bro drwy Gymru. Roedd pris copi tua £1, er mwyn galluogi bob aelod o'r cast i gael sgript yn eu llaw, ac i osgoi costau llungopïo.

Bu'r artist o Benmachno Ann Lloyd Morris (athrawes gelf yn Ysgol Dyffryn Conwy Llanrwst ar y pryd), yn gyfrifol am greu'r ddelwedd gomig unigol, oedd ar glawr y cyfrolau cynnar.

Ffrwyth cyfansoddiadau ar lawr gwlad oedd y mwyafrif o'r dramâu, er bod ambell i ddrama wedi dod yn fuddugol mewn amrywiol eisteddfodau gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r gyfres yn cynnwys gwaith dramodwyr fel Ifan Gruffydd, Wil Sam Jones, William Owen, Nansi Pritchard, Gwion Lynch, Paul Griffiths, Gwilym Tudur, Gwynedd Huws Jones a Myrddin ap Dafydd ei hun.

Clawr Drama Gwely Dwbl

Mae mwyafrif o'r gyfres bellach, allan o brint.

Dramâu byr

golygu
 
Clawr Taid drama gan Mair Penri

1980au

golygu

1981

  • Caffi Sam (1981) Rhys Llwyd
  • Hunllef Huws (1981) Nansi Pritchard
  • Taid (1981) Mair Penri Jones
  • Noson Gardio (1981) Myrddin ap Dafydd
  • Y Sul Hwnnw (1981) Wil Sam Jones
  • Dechrau'r Diwedd (1981) Richard Morris Jones
  • Gwyn Y Gwêl (1981) William Owen
  • Gwely Dwbl (1981) Margaret Rees Williams

1982

  • Cadair Idris (1982) Margaret Rees Williams
  • Y Sosban (1982) Myrddin ap Dafydd
  • Y Trip (1982) Gillian Morris
  • Tra Bo Dau (1982) Dafydd Fôn Williams
  • Ward Y Merched (1982) Rhiannon Parry
  • Ei Phryder Hi (1982) William Owen
  • Codi Rhesel (1982) Fflorens Roberts
  • Heddiw Daeth Iachadwriaeth (1982) Beryl Griffiths
  • Colli John Albert (1982) Rhiannon Parry
  • Slipars A Chipas (1982) Iorwerth J Evans

1983

  • Priodas Slei (1983) Margaret Rees Williams
  • Cariadon (1983) Gillian Morris
  • Adar Mewn Cawell (1983) cyfieithiad Richard T Jones o ddrama David Campton
  • Ei Phryder Hi (1983) William Owen
  • Hwy Y Pery Clod Na Hoedl (1983) Fflorens Roberts

1984

  • Dros Ben Llestri (1984) Nansi Pritchard
  • Y Modd Dibynnol (1984) Mari R Williams
  • Marian Y Morthwl (1984) Dilys Humphreys
  • Dyledion Abu Hassan (1984) cyfieithiad Owen Roberts o ddrama Ronald Hadlington

1985

 
Clawr y ddrama Rhithweledigaethau Rhyfedd Idwal
 
Clawr Ail Godi'r To

1986

1987

1988

  • Y Calendr (1988) Aled Roberts
  • Rhwng Dwy (1988) Charles Ash
  • Eira Mawr (1988) John O Evans
  • Gormes (1988) Neville Morris
  • Gwinllan A Roddwyd (1988) John Owen
  • Rhannu Llofft (1988) Aled Roberts
  • Dechrau Mae'r Diwrnod! (1988) David Jones
  • Bobi A Sami (1988) Wil Sam Jones

1989

  • Mae Newid Yn Chênj (1989) William Owen
  • Dirgelwch Yr Awr Ginio (1989) Sioned Huws
  • Gwely Dwbwl (1989) Margaret Rees Williams
  • Gymeri Di Baned? (1989) Gwynedd Huws Jones
  • Nid Da Bod Dyn  Dwy (1989) William Owen
  • Helynt Y Codiad (1989) Mel Williams
  • Ar Werth (1989) John O Evans
  • Blodyn (1989) Edgar Jones
  • Claddu Ceiliog (1989) Mel Williams

1990au

golygu
 
Clawr Helynt y Buarth

1990

1991

 
Clawr y ddrama Cacen Bysgodyn

1993

  • Dirgelwch Y Caribîan Ciwcymbar (1993) Gwynedd Huws Jones
  • Brân I Frân (1993) Emrys Owen
  • Sul Y Blodau (1993) Paul Griffiths
  • Cacen Bysgodyn (1993) Rhiannon Parry
  • D'Ewyrth Jac (1993) Dafydd Murphy
  • Pawb Â'I Fys (1993) Miriam Llywelyn
  • Cyw'r Gog (1993) Edgar Jones
  • Lolipop A Jeli Coch (1993) John O Evans
  • Ewyllys Da (1993) Gareth Vaughan Davies

1994

  • Arallgyfeirio (1994) Gwilym Tudur
 
Clawr y ddrama Trimins

2000au

golygu

2000

Cyfeiriadau

golygu