Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain
Gramadeg cerdd dafod yw Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain a luniwyd gan Iolo Morganwg ar ddiwedd y 18g ac a gyhoeddwyd yn Abertawe yn 1829. Mae'r gyfrol, sy'n honni adfer mesurau caeth a rhydd traddodiadol, yn cynnwys nifer o ffugiadau gan Iolo, yn fesurau gwneud a cherddi, a briodolir i hen feirdd Morgannwg. Cafodd yr enw o lawysgrifau dilys sy'n ei ddefnyddio fel enw ar ramadegau'r penceirddiaid. Roedd y llyfr yn ddylanwadol iawn yn y 19eg ganrif a chafwyd sawl argraffiad ohono.
Disgrifiad
golyguFfugiadau Iolo
golyguYmddengys mai prif symbyliad Iolo wrth lunio'r ffugwaith oedd ymwrthod â'r pedwar mesur ar hugain, y gyfundrefn mesurau caeth a sefydlwyd gan Dafydd ab Edmwnd yn Eisteddfod Caerfyrddin 1451.[1] Fel y noda Thomas Parry yn Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900,
- "Dywedodd [Iolo] fod beirdd Morgannwg wedi digio wrth Ddafydd ab Edmwnd am ad-drefnu'r mesurau cerdd dafod yn eisteddfod Caerfyrddin yn y bymthegfed ganrif, a glynasant hwy wrth yr hen gyfundrefn o fesurau a gadwyd ym Morgannwg trwy'r canrifoedd, er ei cholli ym mhob rhan arall o Gymru. I gynnal y stori hon dyfeisiodd gyfundrefn o fesurau, gydag enghreifftiau ac enwau beirdd a phopeth".[2]
Dadansoddodd Syr John Morris-Jones ffugwaith Iolo mewn atodiad i'r gyfrol Cerdd Dafod. Mae'n dweud mai "ymosodiad ffyrnig ar draddodiad prydyddion Cymru yw dosbarth Iolo Morganwg". Â ymlaen i esbonio: "Gan mai ei ddadl oedd mai o blaid rhyddid y safai beirdd Morgannwg, fe feddyliodd am ddyfeisio iddynt ddosbarth a fyddai'n ddigon rhydd i gynnwys pob mesur."[3]
Gwerth llenyddol
golyguOnd er fod cyfran helaeth o'r llyfr yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun, mae beirniad a haneswyr llenyddiaeth Gymraeg ar y cyfan yn barod i gydnabod doniau digamsyniol Iolo fel ysgolhaig gorau ei gyfnod ac fel gŵr y mae ei wybodaeth o'r llawysgrifau Cymraeg i'w gweld yn amlwg yn y gyfrol hon. Dyna un rheswm pam y llwyddodd i dwyllo cynifer o bobl. Cyfaddefir hefyd, hyd yn oed gan ei feirniaid llyfnaf fel G. J. Williams, fod dawn farddonol Iolo yn disgleirio yn y darnau o gerddi ffug a geir yn y llyfr hwn, cerddi sy'n adlewyrchu rhamantiaeth y cyfnod a lle ceir "afiaith a gorhoen y bardd sy'n canu i serch, i natur, i fwynder a hyfrydwch natur."[4] Dyma un enghraifft, "ar y Gyhydedd drosgl, deufan Hyppynt", a dadogir ar "Dafydd o'r Nant":
- Fe ddaeth y dorf adar
- I'r coedydd a'u llafar
- Yn gynnar y gwanwyn,
- A minneu'n cydganu
- A'r hyfryd awenllu,
- Mewn gerddlu, mewn gwyrddlwyn.
- Hyfryded edrycher
- Yw'r coed yn eu gwychder
- A glwysder y glasdwyn;
- Mae Mai yn ei heulwisg
- Yn rhoddi blodeuwisg
- A deilwisg ar dewlwyn.[5]