Sefydliad Masnach y Byd

(Ailgyfeiriad o Cyfundrefn Masnach y Byd)

Cyfundrefn ryngwladol yw Sefydliad Masnach y Byd (Ffrangeg: Organisation mondiale du commerce, OMC; Saesneg: World Trade Organization, WTO; Sbaeneg: Organización Mundial del Comercio, OMC) sy'n ymwneud â'r rheolau sy'n rheoli masnach ryngwladol rhwng gwledydd. Craidd y gyfundrefn yw Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd a gychwynwyd yn 1 Ionawr 1995 ac a arwyddwyd yn Ebrill 2004 ym Marrakech, Moroco, gan y rhan fwyaf o bwerau economaidd mawr y byd ac a gydnabuwyd ar ôl hynny gan eu seneddau. Bwriad swyddogol y sefydliad yw cynorthwyo cynhyrchwyr nwyddau a gwasanaethau, allforwyr a mewnforwyr, i weithredu a hynny trwy gyfyngu rhwystrau i fasnach. Yn 2017 roedd gan y gyfundrefn 164 aelod-wladwriaeth. Nid yw Iran a rhan helaeth y byd Arabaidd yn aelodau. Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg yw ei hieithoedd swyddogol.[1][2]

Sefydliad Masnach y Byd
Math o gyfrwngsefydliad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Ionawr 1995 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysWTO panel, WTO General Council, WTO iLibrary Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifWTO archives Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadRheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Masnach y Byd Edit this on Wikidata
Map
Gweithwyr640 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auWTO General Council Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsubject of international law Edit this on Wikidata
PencadlysCAnolfan William Rappard Edit this on Wikidata
Enw brodorolWorld Trade Organization Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Swistir Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://wto.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ers 2001, mae Sefydliad Masnach y Byd yn dilyn cyfarwyddiadau Cylch Doha, a gytunwyd yn Doha, prifddinas Qatar, sef 'Popeth Ond Arfau'. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig y Cenhedloedd Unedig, mae ganddo gysylltiadau â'r gyfundrefn honno. Lleolir ei bencadlys yn ninas Genefa, Y Swistir. Yn 2013, daeth y diplomydd Brasilaidd Roberto Azevêdo yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd, gan olynu'r Ffrancwr Pascal Lamy.

     Aelodau CMB     Aelodau'r Undeb Ewropeaidd, sydd yn aelodau'r sefydliad     Arsyllwyr

Ers diwedd y 1990au, mae Sefydliad Masnach y Byd dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu globaleiddio'r economi ryngwladol" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae cynadleddau'r sefydliad wedi bod yn ffocws i wrthdystio ar raddfa eang.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mai 2017. Cyrchwyd 20 Mai 2017.CS1 maint: archived copy as title (link)
  2. "WTO – Understanding the WTO – The GATT years: from Havana to Marrakesh". www.wto.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mawrth 2018. Cyrchwyd 28 Mawrth 2019.

Dolenni allanol

golygu