Cyfyng Gyngor

argraffiad; a gyhoeddwyd yn 1958
(Ailgyfeiriad o Cyfyng Cyngor (drama))

Drama Gymraeg gan y dramodydd Huw Lloyd Edwards yw Cyfyng Gyngor a gyhoeddwyd yn 1958. Daeth y ddrama'n fuddugol yng Nghystadleuaeth Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glynebwy yn 1958.

Cyfyng Gyngor
Enghraifft o'r canlynolfersiwn, rhifyn neu gyfieithiad Edit this on Wikidata
AwdurHuw Lloyd Edwards Edit this on Wikidata
CyhoeddwrGwasg Aberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1958 Edit this on Wikidata
MathDrama Gymraeg
Lleoliad cyhoeddiAberystwyth Edit this on Wikidata

Mae'r ddrama yn cychwyn gyda'r Awdur sy'n chwysu uwchben ei gyfansoddiad, sy'n digwydd bod yn ddrama. Nid yw'r stori na'r cymeriadau yn datblygu fel y dymunai'r Awdur. Yn sydyn, mae'r cymeriadau yn dod yn fyw o'i flaen, gan herio'r Awdur a hawlio'u ffordd eu hunain i ddatblygu'r stori.

"Dyheu am ryddid mae'r cymeriadau", yn ôl disgrifiad yr actor J.O. Roberts, "...ond 'ymddiriedaeth cysygredig ydy rhyddid' yn ôl un o gymeriadau'r ddrama".[1]

Mae'r plot yn ymdebygu i glasur Luigi Pirandello Chwe Cymeriad Yn Chwilio Am Awdur, a chyfeirir at hynny ym meirniadaeth Eisteddfod Glynebwy gan y beirniad Mary Lewis, sy'n gorfod mynd ati i'w hail ddarllen: "Ond arwahân i'r awgrym yn y teitl, ni welwn ddim tebygrwydd: datblyga'r ddwy ddrama mewn ffordd gwbl wahanol.'[2]

Wrth ymdrin â'i gymeriadau, mae'r dramodydd yn amlygu ei werthoedd Cristnogol fel parch a chariad at gyd-ddyn a'r angen am sylfaen gref o egwyddorion moesol fel "angor" wrth wynebu problemau bywyd.[1]

Cymeriadau

golygu
  • Yr Awdur
  • Ann Morgan
  • Lewis Morgan
  • Seth Edwards
  • Dr Edward Morgan
  • Abram Morgan
  • Sioned - y forwyn
  • Mabli Morgan

Cynyrchiadau nodedig

golygu
 
Rhaglen Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Cyfyng Gyngor 1989

Cyflwynwyd cynhyrchiad o'r ddrama gan Cwmni Theatr Gwynedd yn 1989, dan gyfarwyddyd J.O Roberts a gyfaddefodd yn y Rhaglen bod y dramodydd yn "...yn gyfaill cywir, yn ŵr o egwyddor eofn a chytbwys ei farn ac yn sicr iawn yn grefftwr o ddramodydd".[1] Martin Morley oedd cynllunydd y cynhyrchiad a Tony Bailey Hughes oedd yng ngofal y cynllun goleuo. Roedd y cast fel â ganlyn:

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o'u Cynhyrchiad o Cyfyng Cyngor gan Huw Lloyd Edwards.
  2. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Glynebwy. 1958.