Grey Evans
Actor a chyfarwyddwr theatr o Gymru sy'n hanu o Flaenau Ffestiniog yw Grey Evans a anwyd ym 1942. Mae'n wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau a theledu Cymru ers y 1960au.
Grey Evans | |
---|---|
Ganwyd | Daniel Vaughan Grey Evans 1942 Blaenau Ffestiniog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor a chyfarwyddwr theatr |
Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru, Cwmni Theatr Gwynedd |
Plant | Gwyneth Glyn |
Wedi graddio gyda llwyddiant academaidd arbennig yn y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol Bangor, dewisodd yrfa fel actor. Cafodd ei dderbyn yn un o'r cyntaf i ymuno â Cwmni Theatr Cymru o dan gyfarwyddyd Wilbert Lloyd Roberts, lle bu'n rhan o sawl cynhyrchiad nodedig, nid yn unig fel actor ond fel cyfarwyddwr hefyd.
Gweithiodd ar sawl cyfres deledu a ffilm i S4C a'r BBC, o'i dyddiau cynnar, gan gynnwys y cyfresi Minafon a Deryn a chyfresi di-Gymraeg fel The District Nurse. Portreadodd nifer eang o gymeriadau mewn ffilmiau Cymraeg gan gynnwys Madam Wen, Branwen, Tylluan Wen ac Y Mynydd Grug. Ef fu'n portreadu tad y bardd Hedd Wyn yn y ffilm Hedd Wyn a enwebwyd am Oscar, ac ymddangosodd hefyd yn yr addasiad ffilm o Un Nos Ola Leuad.
Wedi i Gwmni Theatr Cymru ddod i ben ym 1984, bu'n rhan o sefydlu Cwmni Theatr Gwynedd a bu'n actio a chyfarwyddo i'r cwmni, yn ogystal â bod yn aelod o'r Panel Artistig.[1]
Preswyliodd yn Llanarmon ger Cricieth gyda'i wraig Jane, ac mae'n dad i'r bardd, cerddor ac actores Gwyneth Glyn.
Cafodd ei urddo i Orsedd Y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006, am ei "gymwynas â'r Genedl drwy rannu ei grefft a'i brofiad helaeth fel cynhyrchydd a beirniad drama yn lleol a chenedlaethol".[2]
Gyrfa
golyguTheatr*
golygu*gyda Cwmni Theatr Cymru, oni nodi yn wahanol.
Detholiad yn unig.
1960au
golygu- Y Gelyn Pennaf
- Un Nos Ola Leuad (1968)
1970au
golygu- Y Claf Diglefyd (1971)
- Mawredd Mawr (1971) pantomeim
- Byd O Amser (1975)
- Drws Priodas (1977)
1980au
golygu- Sál (1980)
- O Law i Law (1986) Cwmni Theatr Gwynedd
- Lle Mynno'r Gwynt (1987) Cwmni Theatr Gwynedd - fel cyfarwyddwr
- Cyfyng Gyngor (1989) Cwmni Theatr Gwynedd
Teledu a Ffilm
golygu- Scersli Bilîf (1974)[3]
- Gwaed Ar Y Sêr (1975)
- Y Gwrthwynebwr (1975)
- Mae'r Gelyn Oddi Mewn (1981)
- Rej (1982)
- Y Wers Rydd (1982)
- Madam Wen (1982)
- Almanac (1983)
- Deryn
- Minafon (1983-
- Penyberth (1985)
- Gwenoliaid (1986)
- Teulu Helga (1986)
- The District Nurse (1987)
- Mynd I'r Sowth (1987)
- Cap Milwr (1987)
- Lliwiau (1988)
- East Of The Moon (1988)
- Un Nos Ola Leuad (1991)
- Gift (1991)
- Sgid Hwch (1992)
- Hedd Wyn (1992)
- Llygad Am Lygad (1993)
- William Jones (1993)
- Branwen (1994)
- Y Weithred (1995)
- Tylluan Wen (1996)
- Y Mynydd Grug (1997)
- Hynt Dau Gymro (1998)
- Porc Pei (1998)
- Porc Peis Bach (2000-2005)
- Oed Yr Addewid (2001)
- Y Stafell Ddirgel (2001)
- Emyn Roc A Rôl (2005)
- Cwcw (2008)
- Beryl, Meryl A Cheryl (2009)
- Y Smyrffs
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhaglenni amrywiol gynyrchiadau Cwmni Theatr Gwynedd.
- ↑ "BBC Cymru'r Byd - Eisteddfod Genedlaethol 2006 - Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-27.
- ↑ "Grey Evans". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-08-27.