Bethan Dwyfor
Actores o Gymraes
Actores o Gymru yw Bethan Dwyfor, fu'n portreadu'r fatriarch Jane Gruffydd yn addasiad S4C o nofel Kate Roberts, Traed Mewn Cyffion (1991).[1] Roedd hi hefyd yn aelod o gast gwreiddiol y gyfres Rownd a Rownd, yn portreadu mam y cymeriadau Ffion a Dylan Parri.[2] Mae'n wyneb a llais cyfarwydd ar S4C ac ar lwyfannau Cymru.
Bethan Dwyfor | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | Coleg Normal, Bangor |
Galwedigaeth | actor |
Adnabyddus am | Rownd a Rownd, Traed Mewn Cyffion |
Derbyniodd ei haddysg yn Y Coleg Normal, Bangor, yn un o'r myfyrwyr cyntaf i ddilyn y cwrs B.A Cyfathrebu, o dan arweiniad darlithwyr drama fel J.O Roberts a Morien Phillips.
Mae'n byw yn Llandwrog, ger Caernarfon.
Gyrfa
golyguTheatr
golygu- Y Cylch Sialc (1988) Cwmni Theatr Gwynedd
- Cyfyng Gyngor (1989) Cwmni Theatr Gwynedd
- Difa (2015) Theatr Bara Caws
Teledu a ffilm
golygu- Coleg (1982)
- Ŵyn i'r Lladdfa (1984)
- Bowen a'i Bartner (1986)
- Pobol y Cwm (1989-1991)
- Glas y Dorlan (1989)
- Jabas (1989)
- Traed Mewn Cyffion (1991)
- Sgid Hwch (1992)
- Sgwâr Y Sgorpion (1994)
- Marc (1995)
- Rownd a Rownd (1995)
- Lôn Goed (1996)
- Brodyr a Chwiorydd
- Talcen Caled (2001-2002)
- Tipyn o Stad (2003)
- Emyn Roc a Rôl (2004)
- Bob y Bildar (2006)
- Arwyr (2008)
- Blodau (2009)
- Porthpenwaig (2011)
- Dim Ond y Gwir (2016)
- Byw Celwydd (2017)
Radio
golygu- Becca Bingo (2014)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Bethan Dwyfor". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-21.
- ↑ Moffitt, Dominic (2021-10-03). "The original cast of Rownd a Rownd and where they are now". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-21.