Cyfyng Gyngor
Drama Gymraeg gan y dramodydd Huw Lloyd Edwards yw Cyfyng Gyngor a gyhoeddwyd yn 1958. Daeth y ddrama'n fuddugol yng Nghystadleuaeth Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glynebwy yn 1958.
Enghraifft o'r canlynol | fersiwn, rhifyn neu gyfieithiad |
---|---|
Awdur | Huw Lloyd Edwards |
Cyhoeddwr | Gwasg Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1958 |
Math | Drama Gymraeg |
Lleoliad cyhoeddi | Aberystwyth |
Mae'r ddrama yn cychwyn gyda'r Awdur sy'n chwysu uwchben ei gyfansoddiad, sy'n digwydd bod yn ddrama. Nid yw'r stori na'r cymeriadau yn datblygu fel y dymunai'r Awdur. Yn sydyn, mae'r cymeriadau yn dod yn fyw o'i flaen, gan herio'r Awdur a hawlio'u ffordd eu hunain i ddatblygu'r stori.
"Dyheu am ryddid mae'r cymeriadau", yn ôl disgrifiad yr actor J.O. Roberts, "...ond 'ymddiriedaeth cysygredig ydy rhyddid' yn ôl un o gymeriadau'r ddrama".[1]
Mae'r plot yn ymdebygu i glasur Luigi Pirandello Chwe Cymeriad Yn Chwilio Am Awdur, a chyfeirir at hynny ym meirniadaeth Eisteddfod Glynebwy gan y beirniad Mary Lewis, sy'n gorfod mynd ati i'w hail ddarllen: "Ond arwahân i'r awgrym yn y teitl, ni welwn ddim tebygrwydd: datblyga'r ddwy ddrama mewn ffordd gwbl wahanol.'[2]
Wrth ymdrin â'i gymeriadau, mae'r dramodydd yn amlygu ei werthoedd Cristnogol fel parch a chariad at gyd-ddyn a'r angen am sylfaen gref o egwyddorion moesol fel "angor" wrth wynebu problemau bywyd.[1]
Cymeriadau
golygu- Yr Awdur
- Ann Morgan
- Lewis Morgan
- Seth Edwards
- Dr Edward Morgan
- Abram Morgan
- Sioned - y forwyn
- Mabli Morgan
Cynyrchiadau nodedig
golyguCyflwynwyd cynhyrchiad o'r ddrama gan Cwmni Theatr Gwynedd yn 1989, dan gyfarwyddyd J.O Roberts a gyfaddefodd yn y Rhaglen bod y dramodydd yn "...yn gyfaill cywir, yn ŵr o egwyddor eofn a chytbwys ei farn ac yn sicr iawn yn grefftwr o ddramodydd".[1] Martin Morley oedd cynllunydd y cynhyrchiad a Tony Bailey Hughes oedd yng ngofal y cynllun goleuo. Roedd y cast fel â ganlyn:
- Yr Awdur - Grey Evans
- Ann Morgan - Bethan Dwyfor
- Lewis Morgan - Tony Llewelyn
- Seth Edwards - Huw Garmon
- Dr Edward Morgan - Gwyn Parry
- Abram Morgan - Eric Wyn
- Sioned - y forwyn - Enid Parry
- Mabli Morgan - Nia Medi
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o'u Cynhyrchiad o Cyfyng Cyngor gan Huw Lloyd Edwards.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Glynebwy. 1958.