Cymdeithas Cenedlaetholwyr yr Alban Prifysgol Glasgow (GUSNA)

Mae Cymdeithas Cenedlaetholwyr yr Alban Prifysgol Glasgow (en: Glasgow University Scottish Nationalist Association neu GUSNA) yn gymdeithas myfyrwyr a ffurfiwyd ym Mhrifysgol Glasgow ym 1927 i hybu achos cenedlaethol yr Alban.[1]

Logo GUSNA.

Hanes golygu

Mae GUSNA yn bwysig yn hanes gwleidyddol yr Alban gan ei fod yn hŷn na nifer o gyrff cenedlaetholgar eraill y wlad gan gynnwys Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) a’i rhagflaenydd y Blaid Genedlaethol Albanaidd (NPS) ac wedi bod yn nylanwadol wrth sylfaenu’r ddwy blaid. Un o sylfaenwyr GUSNA oedd John MacCormick a oedd ar y pryd yn aelod o Gymdeithas Llafur y brifysgol.[2]

Daeth GUSNA i amlygrwydd ym 1950 pan fu pedwar o’i haelodau; Ian Hamilton, Kay Matheson, Gavin Vernon ag Alan Stuart; yn gyfrifol am ryddhau Maen Sgàin o Abaty Westminster.[3]

Ers ei sefydlu mae GUSNA wedi chware rhan amlwg ym mywyd Prifysgol Glasgow gan godi ymgeiswyr i sefyll etholiadau i Gyngor Cynrychiolwyr y Myfyrwyr. Mae'r gymdeithas hefyd yn enwebu ymgeiswyr ar gyfer ethol rheithor y brifysgol. Ymysg ymgeiswyr GUSNA mewn etholiadau Rheithor bu Robert Cunninghame-Graham a John MacCormick (a fu’n fuddugol gydag Ian Hamilton fel ei reolwr ymgyrch). Ymysg ymgeiswyr mwy diweddar bu Ian Hamilton, Alasdair Gray ac Alan Bissett. Mae GUSNA yn perthyn i  Adain Myfyriwr Plaid Genedlaethol yr Alban a fu’n chwarae rhan flaenllaw yn ei ffurfio yn y 1960au.

Aelodau Amlwg golygu

  • Alasdair Allan: Gweinidog dros Ddysgu, Gwyddoniaeth ac Ieithoedd Alban yr Alban ac Aelod Senedd yr Alban dros etholaeth Na h-Eileanan an Iar
  • Angela Constance MSP: Gweinidog dros Gyflogaeth Ieuenctid ac Aelod Senedd yr Alban dros etholaeth Almond Valley
  • Winnie Ewing: Cyn Llywydd Plaid Genedlaethol yr Alban ac enillydd isetholiad Hamilton 1967
  • Ian Hamilton QC: Twrnai ac un o’r rai fu’n yn gyfrifol am ryddhau Maen Sgàin o Abaty Westminster
  • Jamie Hepburn MSP: Aelod o Senedd yr Alban dros etholaeth Cumbernauld a Kilsyth
  • Kay Matheson: Athrawes un o’r rai fu’n yn gyfrifol am ryddhau Maen Sgàin o Abaty Westminster, ac ymgyrchydd dros yr iaith Aeleg
  • Neil MacCormick: Cyn Cadeirydd Regius Cyfraith Gyhoeddus a Chyfraith Natur a Gwlad ym Mhrifysgol Caeredin ac Aelod o Senedd Ewrop
  • Derek Mackay MSP: Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chynllunio ac Aelod o Senedd yr Alban dros etholaeth Gogledd a Gorllewin Renfrewshire
  • Nicola Sturgeon MSP: Prif Weinidog yr Alban ac Aelod o Senedd yr Alban dros etholaeth Glasgow Southside
  • Gavin Vernon: Peiriannydd ac un o’r rai fu’n yn gyfrifol am ryddhau Maen Sgàin o Abaty Westminster

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu