Winnie Ewing

gwleidydd Albanaidd

Gwleidydd o'r Alban blaenllaw a chyfreithwraig oedd Winifred Margaret 'Winnie' Ewing (neu Winnie Ewing; 10 Gorffennaf 192921 Mehefin 2023)[1]. Bu'n un o brif arweinwyr Plaid Genedlaethol yr Alban (neu'r 'SNP') am flynyddoedd: Aelod Seneddol dros etholaeth Hamilton 1967–70; Moray a Nairn 74–79, bu'n Aelod o Senedd Ewrop dros Ucheldir a'r Ynysoedd 1975–1999 ac yn Aelod o Senedd yr Alban 1999–2003.

Winnie Ewing
Ganwyd10 Gorffennaf 1929 Edit this on Wikidata
Glasgow Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 2023 Edit this on Wikidata
Bridge of Weir Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, hunangofiannydd, cyfreithiwr, cyfreithegwr, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Senedd Ewrop, Member of the 1st Scottish Parliament, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata
PlantAnnabelle Ewing, Fergus Ewing Edit this on Wikidata

Hi oedd Cenedlaetholwr cynta'r Alban i gipio sedd mewn is-etholiad mewn cyfnod o heddwch[2] a'i gwneud yn Aelod Seneddol, ac ers hynny yn 1967, dychwelwyd AS gan yr SNP ym mhob etholiad.[3][4] Bu'n Llywydd ei phlaid rhwng 1987 a 2005.

Magwraeth

golygu

Ganwyd Winifred Margaret Woodburn yn Glasgow, yr Alban. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Battlefield ac Ysgol Eilradd Hŷn Queen's Park. Derbyniodd radd M.A. ym Mhrifysgol Glasgow ac yna gradd LL.B. yn y gyfraith.[5]

Gweithiodd fel cyfreithwraig am rai blynyddoedd a dyrchafwyd hi'n Ysgrifenyddes y Glasgow Bar Association rhwng 1962–67.[6] Yn 1995 anrhydeddwyd hi'n 'Ddoethur Legum' (LLD) gan Brifysgol Glasgow.

Y gwleidydd

golygu

Daeth Ewing i'r amlwg pan enillodd is-etholiad Hamilton i'r SNP ym 1967, flwyddyn wedi i Gwynfor Evans ennill is-etholiad Caerfyrddin, i Blaid Cymru. Cydnabu Winnie Ewing iddi ddod yn unig Aelod Seneddol yr SNP, yn rhannol oherwydd dylanwad buddigolaeth Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin.[7]

Wedi iddi gipio Hamilton dywedodd: "Stop the world, Scotland wants to get on" a gwelwyd cryn gynnydd yn aelodaeth yr SNP wedi hynny. Credir mai adwaith i hyn oedd i'r Blaid Lafur yn Ebrill 1969 sefydlu Comisiwm Kilbrandon i ymchwilio i'r posibilrwydd o ddatganoli'r Alban.[6]

Wedi iddi gael ei hethol i Senedd Ewrop, galwyd hi gyda'r llysenw Madame Écosse, a 'Mam yr Alban' gan ei bod yn ceisio hyrwyddo ei gwlad ar bob achlysur.[8][9]

Yn 1999 rhoddodd y gorau i'w swydd fel Aelod o Senedd Ewrop ac fe'i hetholwyd yn Aelod o Senedd yr Alban yn sesiwn cyntaf y Senedd newydd, gan gynrychioli Ucheldir a'r Ynysoedd. Hi oedd aelod hyna'r senedd, ac iddi hi y rhoddwyd y fraint o lywyddu dros Agoriad y Senedd. Fe'i cofir am ei geiriau enwog: "The Scottish Parliament, adjourned on the 25th day of March in the year 1707, is hereby reconvened".[10]

Bu farw yn 93 mlwydd oed ym Mehefin 2023.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "SNP political icon Winnie Ewing dies aged 93". BBC News (yn Saesneg). 2023-06-22. Cyrchwyd 2023-06-22.
  2. Etholwyd Robert McIntyre mewn is-etholiad ar ddiwedd yr Ail Rhyfel Byd ar gyfer etholaeth Motherwell ar ran yr SNP. Fe gollodd y sedd drachefn o fewn ychydig fisoedd yn yr etholiad cyffredinol
  3. "University of Glasgow :: Story :: Biography of Winnie Ewing". University of Glasgow. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-24. Cyrchwyd 9 Awst 2014.
  4. "Stop the World: The Autobiography of Winnie Ewing: Amazon.co.uk: Winnie Ewing, Michael Russell: 9781841582399: Books". Amazon.co.uk. Cyrchwyd 2012-01-27.
  5. [1] Archifwyd 2013-05-14 yn y Peiriant Wayback Gwefan Prifysgol Glasgow; adalwyd 18 Hydref 2012
  6. 6.0 6.1 "Mother Scotland". The Scotsman. 22 Chwefror 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-19. Cyrchwyd 9 Awst 2014.
  7. Maen i'r Wal. Dafydd Wigley. Gwasg Gwynedd, 2001.
  8. Brian Donnelly (23 Gorffennaf 2001). "Madame Ecosse says au revoir to world of politics Winnie Ewing, heroine of the national movement, is to quit and spend more time with her grandchildren". The Herald (Glasgow). Cyrchwyd 27 Ionawr 2012.
  9. "Mg Alba". Mg Alba. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-12. Cyrchwyd 2012-01-27.
  10. "Ross Lydall: 1967 and all that: is history about to repeat itself?". The Scotsman. 15 Ebrill 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 9 Awst 2014.