Cymdeithas y Gwyddelod Unedig

Sefydlwyd Cymdeithas y Gwyddelod Unedig (Gwyddeleg: Cumann na nÉireannach Aontaithe, Saesneg: The Society of United Irishmen) yn Iwerddon yn y 18g fel cymdeithas Ryddfrydol i hyrwyddo diwygiad Seneddol, ond datblygodd i fod yn gymdeithas chwyldroadol weriniaethol. Yn 1798, y Gymdeithas a oedd tu cefn i ddechreuad Gwrthryfel Gwyddelig 1798, gyda'r bwriad o roi diwedd ar reolaeth Brydeinig dros Iwerddon a sefydlu gweriniaeth annibynnol.

Cymdeithas y Gwyddelod Unedig
Enghraifft o'r canlynolsefydliad gwleidyddol Edit this on Wikidata
IdiolegIrish republicanism, Rhyddfrydiaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben1804 Edit this on Wikidata
Label brodorolSociety of United Irishmen Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1791 Edit this on Wikidata
PencadlysDulyn Edit this on Wikidata
Enw brodorolSociety of United Irishmen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner y Gwyddelod Unedig
Y Gwyddelod Unedig

Yn ystod y 1780au, roedd symudiad i ryddfreinio Catholigion, oedd yn cael eu gwahardd rhag pleidleisio, dan arweiniad Henry Grattan. Teimlai rhai fod pethau'n symud yn rhy ara. Yn 1791, cyhoeddodd Theobald Wolfe Tone lyfr Argument on Behalf of the Catholics of Ireland, gan ddadlau dros undod rhwng Protestaniaid a Chatholigion. O ganlyniad i hyn, ffurfiwyd Cymdeithas y Gwyddelod Unedig mewn cyfarfod yn ninas Belffast ar 14 Hydref 1791.

Hyd 1792, roedd y Gymdeithas yn cefnogi syniadau Grattan, sef y dylai unrhyw ddiwygiadau fod yn raddol, ond o hynny ymlaen daeth yn fwy radicalaidd. Tyfodd yn gyflyn, ac yn 1795 sefydlwyd yr Urdd Oren i geisio gwrthweithio ei dylanwad. Erbyn dechrau 1798, roedd gan y Gwyddelod Unedig 280,000 o aelodau.

Bwriad y Gymdeithas oedd dechrau gwrthryfel ar 23 Mai, ond cymerwyd yr Arglwydd Edward FitzGerald i'r ddalfa ar 18 Mai, a methodd y cynllun i gipio Dulyn o ganlyniad. Methodd y gwrthryfel, a daliwyd Tone a'i gondemnio i farwolaeth. Bu farw o'i anafiadau wedi iddo dorri ei wddf a chyllell.

Parhaodd y Gymdeithas fel mudiad tanddaearol am gyfnod, ond wedi methiant gwrthryfel Robert Emmet yn 1803 edwinodd yn gyflym.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: