Cymer, Cwm Afan

pentref yng Nghwm Afan (Castell-nedd Port Talbot)
(Ailgyfeiriad o Cymer (Cwm Afan))

Pentref ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Cymer, hefyd Cymmer. Saif yng Nghwm Afan, a chaiff ei enw oherwydd ei fod gerllaw cymer Afon Afan ac Afon Corrwg. Mae hefyd ger cyffordd y priffyrdd A4063 ac A4107.

Cymer
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.65°N 3.65°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS860961 Edit this on Wikidata
Cod postSA13 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDavid Rees (Llafur)
AS/auStephen Kinnock (Llafur)
Map

Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,883. Yn 2005, enwyd ward etholiadol Cymer, sydd hefyd yn cynnwys pentrefi Croeserw a Duffryn, fel un o'r 10% o wardiau gyda mwyaf o dlodi yng Nghymru.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan David Rees (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-23.
  2. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gastell-nedd Port Talbot. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato