Cymru Noir

Adain Gymreig o'r genre Nordic Noir a ddatblygwyd yn yr 2010au

Math o ddatblygiad neu amrywiad ar y genre ffuglen drama deledu a ffilm Nordic Noir[1] yw Cymru Noir. Lledaenodd y Scandi Noir o fewn y gyfres deledu Sgandinafaidd, megis Y Bont a chyfres trioleg Mileniwm Stieg Larsson,[2] Lledaenodd y Scandi Noir o fewn y gyfres deledu Sgandinafaidd ac apelio at gynulleidfaoedd tramor [3] Yn ôl rhai ysgolheigion,[3] mae'r cyhoedd yn cael eu denu gan yr anghydffurfiaeth sy'n cael ei greu yn y stori rhwng bywyd bob dydd y gymdeithas a gynrychiolir a thrais y ddeddf droseddol. Mae'n cyfeirio at ddramâu neu ffilmiau Cymraeg, neu'n aml cynhyrchiadau cefn-wrth-gefn Cymraeg a Saesneg, a gynhyrchwyd ar dir Cymru ac sy'n cynnwys stori am lofruddiaeth neu drais. Mae'r genre ei hun yn ddatblygiad ar Film Noir canol yr 20g.

Cymru Noir
Enghraifft o'r canlynolgenre mewn ffilm Edit this on Wikidata
MathNordic noir film, ffilm ddrama Edit this on Wikidata
IaithCymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Yr awdur Nordic Noir, Henning Mankell

Cyd-destun golygu

 
Yr actor Aneurin Hughes ymddangosodd yn Y Gwyll

Yn sgil llwyddiant Scandi Noir ar deledu Brydeinig lle gwelwyd bod yn bosib gwerth cyfres ddrama dramor gydag is-deitlau mewn Saesneg, ceisiwyd creu, neu frandio, genre o ddramâu ditectif, dywyll ar hyd llinellau tebyg gan obeithio y byddai cynulleidfa tu hwnt i'r Cymry Cymraeg yn ei fwynhau. Cynhyrchwyd cyfresi drama megis Y Gwyll, Y Golau a Craith, yn fwyaf adnabyddus efalli. Yn ôl rhai, roedd y gyfres dditectif Bang yn arddull Sgandi Noir hefyd.[4]

Bathu'r term golygu

 
Nododd un blogiwr bod celf Kyffin Williams yn rhagdybio Cymru Noir gyda'i thirwedd garw a di-drigaredd

Mae'n anodd dweud pryd daeth y term i fodolaeth neu gan bwy, ond yn 2016 defnyddiodd y blogiwr At Home in the Hills y term Scandi Du a Cymru Noir wrth drafod y gyfres Y Gwyll oedd newydd ei rhyddhau ac wedi ei lleoli yn Aberystwyth a chefn gwlad llwm a glawiog cantref Penweddig. Mae'r awdur yn nodi bod y cymeriadau bron i gyd fel petaent mor dywyll a digalon â'r tirwedd a'r tywydd, ond yn awgrymu gall bod "cymeriad" y dirwedd yn perthyn i gymeriad y bobl. I gefnogi hyn mae'n awgrymu barddoniaeth R.S. Thomas a cherdd fel, A Welsh Landscape:[5]

"To live in Wales is to be conscious
At dusk of the spilled blood
That went into the making of the wild sky''

Neu mae'n awgrymu bod lluniau Kyffin Williams yn "wonderful though they are, bursting at the seams with darkness".[5]

Erbyn 2022 roedd y cysyniad o Cymru Noir yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin mewn datganiadau i'r wasg a'r cyfryngau gan gynnwys datganiad yn hyrwyddo cyfres newydd o'r Graith, 'Cymru noir yn nôl ar y sgrin gyda chyfres newydd o Craith'.[6]

Hyrwyddo Cymreictod a'r Gymraeg golygu

Ceir enghraifft o ddefnydd o'r term Cymru Noir mewn erthyg ar wefan y Gymdeithas Deledu Frenhinol (Royal Television Society) yn 2022 oedd yn trafod cyfres Y Golau (fersiwn Gymraeg) a ddangoswyd ar S4C a "The Light in the Hall" a ddangoswyd ar Channel 4. Dywedodd Ed Talfan, "“Before Hinterland, there was a feeling in Wales that we weren’t being allowed to tell our own stories [...] We were determined, with Hinterland, to make a series that would connect with audiences locally and internationally." meddai Ed Talfan, cyd-gynhyrchydd Y Gwyll. “It was hard to get home-grown narratives onto the network. S4C and BBC Wales were producing good work locally, but it felt like there was a lack of Welsh drama content making it across the border.”

Meddai Gwenllian Gravelle, Pennaeth Drama S4C, "We’ve claimed Welsh noir as our own genre and are looking forward to doing more and looking to new genres for our dramas as well that represent a modern Wales"[7]

Mewn cyfweliad yn 2021 adleisiodd yr actor Cymreig, Siôn Daniel Young ei ddyheuad y byddai gwylwyr yn gallu gwerthfawrogi dramâu Cymraeg ei hiaith yn yr un modd ag y maent yn mwynhau dramâu mewn ieithoedd megis Swedeg neu Ddaneg. "Fy mreuddwyd, jyst fel mae Scandi noir wedi gwneud yn iawn i gynulleidfaoedd Prydeinig wylio dramâu wedi eu his-deitl, gall yr un peth ddigwydd fallai i ddramâu Cymraeg." Nododd y cyfwelwydd fod rhannau Siôn yn nrama Y Gwyll ("Hinterland" yn y fersiwn Saesneg) a leolir yn ardal Aberystwyth ac Un Bore Mercher ("Keeping Faith") a leolir yn Sir Gâr yn rhan o'r freuddwyd honno.[8]

Yn ôl rhai, roedd y gyfres dditectif Bang yn arddull Sgandi Noir hefyd.[4]

Elfennau golygu

Mae tri prif elfen stori Scandi Noir i'w gweld yn genre'r Cymru Noir sef: Arddull (lleoliadau anial, angynes), lliwiau tywyll, cerddoriaeth leddf [9]; Naratif (narration araf, gyda deialogau byr yn newid gydag eiliadau o fyfyrio, pâr o gymeriadau protagonaidd, a nodweddir yn aml gan bersonoliaeth gref, a chymeriadau cyflenwol, themâu cyson megis dod o hyd i rai'r meirw / plentyn coll / merch sy'n dechrau'r plot (The Killing and Pantano);[10], a Thematig (naratif wedi'i strwythuro yn y fath fodd fel bod, ochr yn ochr ag edefyn naratif sy'n dilyn cwrs yr ymchwiliadau, edafedd naratif eraill yn cael eu plethu yn hytrach na materion beirniadaeth gymdeithasol).

Yn y cyd-destun Gymraeg gall yr elfen thematig gynnwys diglosia iaith Cymraeg a Saesneg yn y deialog; ymdeimlad o ddirywiad iaith a diwylliant Gymraeg, diwyriad diwydiannol a chymdeithas waith.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.independent.co.uk/arts-entertainment/books/features/new-stars-of-nordic-noir-norways-authors-discuss-their-countrys-crime-wave-2308559.html
  2. https://www.bbc.co.uk/programmes/b00wvcyj
  3. 3.0 3.1 Annette Hill, Sue Turnbull, "Nordic Noir", Oxford Research Encyclopedia of Criminology, Oxford University Press, 2017
  4. 4.0 4.1 "Welsh-english bilingual drama seeks to replicate success of scandi noir". THC News. 11 Medi 2017.
  5. 5.0 5.1 "CYMRU-NOIR? SCANDI-DU?". At Home in the Hills. 15 Ionawr 2016.
  6. "Cymru noir yn nôl ar y sgrin gyda chyfres newydd o Craith". S4C. 17 Medi 2021.
  7. "All things bleak and beautiful: the rise of Welsh noir". Royal Television Society. 6 Gorffennaf 2022.
  8. "'A great responsibility': Sion Daniel Young on playing the man wrongly accused of killing Rachel Nickell". The Guardian. 13 Awst 2021.
  9. Glen Creeber, "Killing Us Softly: Investigating the Aesthetics, Philosophy and Influence of Nordic Noir Television", Journal of Popular Television, Volume 3 Number 1, 2013
  10. Gemzøe, Lynge Stegger (2020). Nordic Noir, Adaptation, Appropriation. Springer International Publishing. tt. 235–252. ISBN 978-3-030-38657-3. Cyrchwyd 2020-11-07.