Cyngar ap Geraint
Cyngar o Langefni
Sant Cymreig o'r 5g oedd Cyngar ap Geraint (c.488 - c.550), a nawddsant eglwys Llangefni. Dethlir ei wylmabsant ar 7 Tachwedd.[1]
Cyngar ap Geraint | |
---|---|
Cyngar ar ffenestr yn Eglwys Beuno Sant, Penmorfa, Eifionydd, Gwynedd. Mae fwy na thebyg mai Cyngar ap Geraint yw hwn, fodd bynnag. | |
Ganwyd | 490 Gwynedd |
Bu farw | 6 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Dydd gŵyl | 7 Tachwedd |
- Gofal! Erthygl am Gyngar o langefni yw hon; ceir Cyngar arall a fu'n sant yng Nghernyw a Llydaw.
Credir iddo gael ei eni tua 490 a'i fod yn fab i'r brenin Gerren Llyngesog o Deyrnas Dyfnaint. Cysylltir ef hefyd gydag eglwysi Trefilan, Ceredigion, yr Hôb (hen enw: Llangyngar) ym Mhowys Fadog a cheir 'Ynys Gyngar' ger Cricieth (PW 63, 102, 96, WCO 203). Dywedir iddo fod yn ddisgybl i Sant Cybi, yn un o 'Deulu Cybi Sant' ac i'r ddau ohonynt deithio i Ynysoedd Arann (Gwyddeleg: Oileáin Árann, Saesneg: Aran Islands).
Ffynhonnell
golygu- A.D. Carr, "Seiriol a Chybi" yn, Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).
- John Morris-Jones, Caniadau (Rhydychen, 1907).
- ↑ llgc.org.uk; A Welsh Classical Dictionary gan Peter Clement Bartrum; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.