Emyr Lewis (bardd)

cyfreithiwr, prifathro mewn prifysgol a phrifardd

Bardd, athro prifysgol a chyfreithiwr Cymraeg ydy Emyr Lewis (ganwyd 8 Hydref 1957). Ganwyd yn Llundain, magwyd yng Nghaerdydd, a bu'n fyfyriwr ym mhrifysgolion Rhydychen ac Aberystwyth. Fe'i disgrifiwyd yn Nyddlyfrau'r Tribiwnlys a gyhoeddir gan y Coleg Barwnol fel 'cyfreithiwr cyfansoddiadol blaenllaw'.[1] Bu'n ymgynghorydd i nifer o gyrff gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, gan arbenigo mewn Technoleg Gwybodaeth, addysg, y gyfraith a materion Cyfansoddiadol.

Emyr Lewis
GanwydTomos Emyr Lewis Edit this on Wikidata
8 Hydref 1957 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, cyfreithegwr, athro cadeiriol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bu'n aelod o Bwyllgor Cynghori Cymru Comisiwn y Gyfraith rhwng 2001 a 2013, yn gynrychiolydd y DU ar Bwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop o dan y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol ac mae'n Gyfreithiwr Anrhydeddus i Lys yr Eisteddfod Genedlaethol.[2]

Bu'n gweithio fel cyfreithiwr yng Nghaerdydd ac roedd yn uwch bartner yng nghwmni Morgan Cole LLP.[3]

Penodwyd ef yn Bennaeth Ysgol y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth ym Medi 2019.[4]

Mae wedi ennill y goron (1998) a'r gadair (1994) yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ymgynghorydd

golygu

Ymhlith y gwaith ymgynhorol mae wedi'i wneud mae cynghori cyrff cyhoeddus a chyrff anllywodraethol mewn perthynas â deddfwriaeth ddrafft arfaethedig yn ymwneud â Chymru, yng Nghaerdydd ac yn San Steffan. Rhoddodd gyngor i bwyllgor dethol Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin ar ddeddfwriaeth arfaethedig a chynghori'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar oblygiadau datganoli'r Mesur Cydraddoldeb.

Arweiniodd y tîm sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ar ei phrosiect band llydan cyflym iawn, gyda chyfanswm gwerth o tua £500 miliwn. Hefyd yn y maes hwn, bu'n ymgynghorydd Llywodraeth ar ddatrys anawsterau a hawliadau cymorth gwladwriaethol cytundebol gyda darparwr gwasanaethau TGCh o dan gontract gwerth dros £100 miliwn. Bu'n cyngori Llywodraeth y DU hefyd ym maes Adran Iechyd, ar faterion Cymorth Gwladwriaethol ac ar faterion tramor sy’n ymwneud â materion polisi caffaeledd cynaliadwy, cymalau cymdeithasol ayb. Mewn busnes, mae Emyr Lewis wedi cynghori British Energy plc ar gytundeb partneru mawr gyda Siemen.[5]

Bywyd personol

golygu

Mae'n fab i Gynfrig Lewis, cyfreithiwr a arbenigai mewn hawlfraint, ac yn perthyn o bell i T. H. Parry-Williams. Mae'n byw yng Nghraig Cefn Parc.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Chwarae Mig (1995)
  • Amser Amherffaith / Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec (2004)
  • twt lol (2018)

Cyfeiriadau

golygu
  1. sway.office.com; Dyddlyfrau'r Tribiwnlys, Rhif 2, 2022.
  2. Gwefan Morgan Cole; adalwyd 19 Chwefror 2010
  3. Gwefan Morgan Cole Archifwyd 2010-06-20 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd ar 25-10-2010
  4. https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2019/05/title-223126-cy.html
  5. Gwefan Morgan Cole; adalwyd 19 Chwefror 2010