Cyngor Caerdydd

(Ailgyfeiriad o Cyngor Sir Caerdydd)

Y cyngor sy'n rheoli awdurdod Caerdydd ydy Cyngor Dinas a Sir Caerdydd neu Cyngor Caerdydd fel ei adnabyddir yn gyffredin. Mae 75 cynghorwr yn cynrychioli 29 o wardiau etholaethol Caerdydd.[1] Nid yw'r ffurf Cyngor Sir Caerdydd yn ffurf ffurfiol o'r enw, ond mae'n ymddangos ar gam rwan ac yn y man.

Cyngor Caerdydd
Mathawdurdod unedol yng Nghymru Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Wedi etholiad 2004, a newidiodd y cyngor o fod o dan reolaeth Llafur i fod heb unrhyw blaid mewn rheolaeth cyffredin. ffurfiodd y Democratiaid Rhyddfrydol weinyddiaeth lleiafrif o dan arweiniaeth y cynghorwr Rodney Berman. Y Democratiaid oedd y brif blaid wedi etholiad lleol 2008, a ffurfiwyd gweinyddiaeth ar y cyd gyda Phlaid Cymru.

Yn 2012, fe gymerodd y Blaid Lafur reolaeth lawn o gyngor Caerdydd, a fe gollodd arweinydd Democrat Rhyddfrydol y cyngor, Rodney Berman, ei sedd.

Arweinydd y Cyngor ers Mai 2017 yw'r cynghorydd Huw Thomas, sy'n cynrychioli ward Y Sblot.

Cyfansoddiad gwleidyddol golygu

Cynhelir etholiadau pob pedair mlynedd. Cynhaliwyd yr etholiad diwethaf ar 3 Mai 2012.[2]

Blwyddyn Dem. Rhydd. Ceidwad. Llafur Plaid C. Annibynnol
2017 11 20 40 3 1
2012 17 7 46 2 4
2008 35 17 13 7 3
2004 33 12 27 3 0
1999 18 5 50 1 1
1995 9 1 61 1 0

Bu'r Blaid Lafur mewn rheolaeth rhwng 1995 a 2004. Rhedodd y Democrataid Rhyddfrydol weinyddiaeth lleiafrif rhwng 2004 a 2008. Yn 2012 ail-enillodd Lafur reolaeth lawn o'r cyngor, gan aros mewn grym ar ôl etholiad 2017.

Yn dilyn etholiadau lleol 2008 yng Nghaerdydd, doedd dal dim plaid gyda mwyafrif. Enillodd y Democratiaid dri cynghorwr, gan ddod a'u cyfanswm i 35, a ffurfiont weinyddiaeth ar y cyd gyda Plaid Cymru, gyda Rodney Berman yn arweinydd y cyngor. Cymerodd y Blaid Geidwadol lle Llafur fel yr wrth-blaid swyddogol. Dioddefodd Llafur golled mawr o 14 cynghorwr, gan ddod a'u cyfanswm i lawr i 13. Enillodd Plaid Cymru bedwar cynghorwr gan ddod a'u cyfanswm hwy i saith. Etholwyd tri cynghorwr annibynnol; dau gyn-aelod o'r Blaid Geidwadol a adawodd y blaid yn 2006 ac un arall.

Hanes golygu

Dinas Caerdydd yw tref sirol Morgannwg, er nad yw'r swyddogaeth hyn fawr o bwys bellach, ers i'r awdurdodau unedol yng Nghymru gael eu ail-drefnu, ym 1974 cafodd Caerdydd a Bro Morgannwg eu uno fel De Morgannwg. Daeth Caerdydd yn awdurdod unedol wedi ail-drefnu unwaith eto ym 1996.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu