Cynhadledd Quebec (1944)

Ail Gynhadledd RhB2 rhwng y DU a'r UDA yn Quebec i drafod strategaeth y rhyfel a llunio Ewrop wedi'r Rhyfel.

Roedd Ail Gynhadledd Quebec yn gynhadledd filwrol lefel uchel a gynhaliwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan lywodraethau'r Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Adnebir hi hefyd wrth ei enw côd fel Cynhaded "OCTAGON". Cynhaliwyd y gynhadledd yn Ninas Quebec, rhwng 12-16 Medi 1944, a hon oedd yr ail gynhadledd i gael ei chynnal yn Quebec, ar ôl "QUADRANT" ym mis Awst 1943. Y prif gynrychiolwyr oedd Winston Churchill, Franklin D. Roosevelt a'r Penaethiaid Cyfun Staff. Prif Weinidog Canada, William Lyon Mackenzie King, oedd y gwesteiwr ond ni fynychodd y cyfarfodydd allweddol. Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn La Citadel a Chateau Frontenac yn y ddinas.[1]

Cynhadledd Quebec
Enghraifft o'r canlynoluwchgynhadledd Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Baner Canada Canada
Baner Prydain Fawr Prydain Fawr
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Winston Churchill a Franklin Roosevelt gyda'r huwch gadfridogion yn Citadelle Québec, 16 Medi 1944. Yn y cefndir, gwelir Hotel Chateau Frontenac, oedd yn lleoliad hefyd. Ar y chwith ceir milwr o'r Heddlu Brenhinol Canada. Nid yw'r gwesteiwr, Prif Weindiog Canada, William Lyon Mackenzie King, yn y llun.

Deillianau'r Gynhadledd

golygu

Daethpwyd i gytundeb ar y pynciau a ganlyn:

  1. Parthau meddiannaeth y Cynghreiriaid yn yr Almaen a drechwyd,
  2. Cynllun Morgenthau i demilitaroli'r Almaen,
  3. Parhau â chymorth Lend-Lease yr Unol Daleithiau i Brydain,
  4. Rôl y Llynges Frenhinol yn y rhyfel yn erbyn Japan.
  5. Yn seiliedig ar Hyde Park Aide-Mémoire, gwnaethant gynlluniau i ollwng y bom atomig ar Japan.

Trafodwyd hefyd Gynllun Morgenthau, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau gan gynnwys ei gynllun i ymrannu yr Almaen a'i ffiniau cenedlaethol a dadiwydiannu'r wlad wedi'r Rhyfel.

Agorwyd heneb yn ninas Quebec ym 1998 i goffáu y ddwy gynhadledd 1943 a 1944. Mae y tu ôl i un o gatiau'r ddinas, y Porte Saint-Louis, sy'n arwain i'r hen dref hanesyddol.

Cynadleddau pwysig eraill

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu