Cynhadledd Cairo (1943)

cynhadledd i drafod strategaeth RhB2 rhwng UDA, Prydain, Gweriniaeth Tsieina

Cynhaliwyd Cynhadledd Cairo (a elwir hefyd yn "SEXTANT"), yn Cairo, prifddinas yr Aifft rhwng 22-26 Tachwedd 1943. Diffiniodd safle'r Cynghreiriaid yn erbyn Ymerodraeth Siapan yn ystod yr Ail Ryfel Byd a gwnaed penderfyniadau am ddyfodol Asia yn y cyfnod ôl-Ryfel. Mynychwyd y cyfarfod gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, Franklin Roosevelt, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Winston Churchill, a Chiang Kai-shek dros Gweriniaeth Tsieina (di-gomiwnyddol).

Cynhadledd Cairo
Enghraifft o'r canlynolcynhadledd Edit this on Wikidata
Daeth i ben7 Rhagfyr 1943 Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Baner Gweriniaeth Tsieina Gweriniaeth Tsieina
Baner Prydain Fawr Prydain Fawr
Dechrau/Sefydlu22 Tachwedd 1943 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd22 Tachwedd 1943 Edit this on Wikidata
Daeth i ben26 Tachwedd 1943 Edit this on Wikidata
GwladwriaethYr Aifft Edit this on Wikidata
RhanbarthCairo Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyd-destun golygu

 
Generalissimo Chiang Kai-shek, Franklin D. Roosevelt, a Winston Churchill, Cynhadledd Cairo, 25 Tachwedd 1943

Ar ddechrau'r Gynhadledd, y frwydr Tsieineaidd yn erbyn Japan oedd y brif thema. Yn wahanol i ewyllys Winston Churchill, a oedd yn gweld y theatr weithredu hon yn amherthnasol, addawodd Franklin D. Roosevelt wrth y Cadfridog Tsieiniaidd, y byddai'n gweithredu glaniad ar raddfa fawr ar Bae Bengal. Pryder Prif Weinidog Prydain oedd y byddai'r glaniadau arfaethedig yr oedd ef yn deisyfu, ym Môr y Canoldir a Normandi yn cael eu gwanhau, petai hyn yn digwydd. Erbyn Cynhadledd Tehran a gynhaliwyd ond rhai wythnosau'n hwyrach, ac yng ngwydd Stalin ond nid Chiang Kai-shek llwyddodd Churchill i atal Arlywydd America o'r syniad hwn.

Yna cyfarfu penaethiaid staff America a Phrydain ar 24 Tachwedd i drafod sut i symud ymlaen gyda'r brwydro yng Ngogledd Orllewin Ewrop a Môr y Canoldir; ni chymerodd y lleng Tsieineaidd ran ynddo. Ailadroddodd Churchill bwysigrwydd glaniad Normandi a pharodrwydd Prydain i wneud hynny; eglurodd hefyd ei strategaeth ym Môr y Canoldir, a oedd yn cynnwys glanio ar ynys Rhodes (sydd yn perthyn bellach i Wlad Groeg ond a oedd yn drefedigaeth Eidalaidd ar y pryd) yn ogystal â goresgyniad cynnar dinas Rhufain. Cytunwyd y dylai'r Partizans yn Iwgoslafia hefyd dderbyn cyflenwadau'n well. Yr un diwrnod, fodd bynnag, cyfarfu Ysgrifennydd Tramor Prydain, Anthony Eden, yn Cairo gan adrodd am benderfyniad Twrci i wrthod mynd i mewn i’r Rhyfel yn erbyn yr Almaen. Effeithiodd hyn yn fawr ar gynlluniau Churchill, yn enwedig ym Môr y Canoldir.

Deilliannau'r Gynhadledd golygu

ffilm newyddion "Cairo and Teheran conferences"

Llofnodwyd "Datganiad Cairo" ar 27 Tachwedd 27 1943 a'i wneud yn gyhoeddus mewn datganiad ar y radio ar 1 Rhagfyr, gan nodi bwriad y Cynghreiriaid i barhau i ddefnyddio grym milwrol hyd nes i Siapan ildio'n ddiamod. Roedd tri prif gymal i'r Datganiad:

  1. "Byddai Japan yn cael ei thynnu o'r holl ynysoedd yn y Môr Tawel yr oedd wedi'u meddiannu neu eu cipio ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914."
  2. "Byddai'r holl diriogaethau yr oedd Japan wedi'u cymryd o'r Tsieineaid, fel Manchuria, Formosa (a elwir yn Taiwan bellach) a'r Ynysoedd Penghu (sydd yn gorwedd rhwng Taiwan a Tsiena), yn cael eu hadfer i Weriniaeth Tsieina."
  3. "Maes o law, byddai Corea (oedd yn unedig ar y pryd) yn dod yn annibynnol ac yn rhydd."

Dychwelyd i Cairo golygu

 
Propaganda (mewn Siapaneg a ollyngwyd ar Taiwan o'r awyr, yn sgil Datganiad Cairo

Wedi cynnal Cynhadledd Tehran (28 Tachwedd - 1 Rhagfyr 1943) dychwelodd Roosevelt a Churchill yn ôl eto yn Cairo (4-6 Rhagfyr 1943) i gynnal trafodaethau gydag Arlywydd Twrci, İsmet İnönü. Bwriad y ddau arweinydd oedd cymell İnönü i dod â Thwrci i mewn i'r rhyfel yn erbyn yr Almaen a'r Eidal. Roedd y ddau gyfarfod yn rhedeg o dan y gair côd, "sextant".

Ôl-nodyn golygu

Glynodd y partïon wrth y cytundebau ar bob cyfrif, dim ond Ynysoedd Ryūkyū (cadwyn o ynysoedd bychain sy'n ymestyn i'r de o Siapan fel bwa tuag at Taiwan), a feddiannwyd yn ddiweddarach yn y Rhyfel, a ddychwelwyd i Japan yn 1971. Dilynwyd Cynhadledd Cairo ei hun bron yn syth gan Gynhadledd Tehran ar 28 Tachwedd 1943, lle gwelwyd Stalin ar ran yr Undeb Sofietaidd ond nid Kai-shek ar ran y Tsieiniaid.

Cynadleddau Pwysig Eraill golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu