Cynhadledd Quebec (1943)

cynhadledd RhB2 i drafod strategaeth y DU a'r UDA. Cynhalwidy yn Quebec

Roedd Cynhadledd Quebec, a elwir hefyd wrth ei enw côd, Cynhadledd Quadrant, yn gynhadledd strategol filwrol gyfrinachol a gynhaliwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda chyfranogiad llywodraethau o'r Deyrnas Unedig, Canada a'r Unol Daleithiau. Cynhaliwyd y gynhadledd yn ninas Quebec, Canada rhwng 17 - 24 Awst 1943.[1] Fe’i cynhaliwyd yng nghaer ddinesig y Château Frontenac. Y prif gyfranogwyr oedd Winston Churchill, Franklin D. Roosevelt a William Lyon Mackenzie King (Prif Weinidog Canada). Gwahoddwyd Stalin, arweinydd yr Undeb Sofietaidd, ond methodd â mynychu am resymau milwrol.[2]

Cynhadledd Quebec
Enghraifft o'r canlynolcynhadledd Edit this on Wikidata
Dyddiad1943 Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Baner Canada Canada
Baner Prydain Fawr Prydain Fawr
Dechreuwyd17 Awst 1943 Edit this on Wikidata
Daeth i ben24 Awst 1943 Edit this on Wikidata
LleoliadQuébec Edit this on Wikidata
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mackenzie King, Franklin D. Roosevelt a Winston Churchill, Cynhadledd Gyntaf Quebec
Mackenzie King, Franklin D. Roosevelt, Winston Churchill ac Alexander Cambridge yn y gaer ddinesig, Quebec

Noder, y cynhaliwyd ail Gynhadledd Quebec ym mis Medi 1944.

Prif Ddeilliannau'r Gynhadledd golygu

Cytunodd Cynghreiriaid y Gorllewin i ddwysau bomio strategol ar yr Almaen a pharhau i adeiladu lluoedd yr Unol Daleithiau ym Mrydain cyn goresgyniad o Ffrainc. Ym Môr y Canoldir (ardal a ddenodd lawer o sylw gan Churchill), cytunwyd i ddefnyddio lluoedd mwy i orfodi'r Eidal allan o Gynghrair yr Echel a meddiannu'r wlad ac ynys Ffrengig Corsica.

Penderfynwyd y dylid cyfyngu gweithrediadau yn y Balcanau i gyflenwi'r symudiadau gwrthiant, tra dylid camu i fyny gweithrediadau yn erbyn Japan i ddisbyddu adnoddau Japaneaidd, torri eu llinellau cyfathrebu i ffwrdd a sicrhau canolfannau datblygedig i ymosod ar brif ynysoedd Japan.

Yn ychwanegol at y trafodaethau strategol a gyfathrebwyd i'r Undeb Sofietaidd a Chiang Kai-shek yn Tsieina, cyhoeddodd y gynhadledd hefyd farn ar y cyd ar Balesteina gyda'r nod o leihau tensiynau dros feddiannaeth Prydain yn dod yn fwyfwy annioddefol. Condemniodd y gynhadledd erchyllterau'r Almaen yng Ngwlad Pwyl hefyd.

Trafodwyd ymddygiad tuag at gynnigion heddwch yr Eidal hefyd. Cytunwyd i gadw at y galw am ildio diamod. Trafodwyd gweithrediadau dilynol ar gyfer Ymgyrch Husky a gwblhawyd yn ddiweddar, a daethpwyd i gytundeb i barhau â'r prosiect goresgyniad ar dir mawr yr Eidal.

Pwnc arall oedd rhaglen arfau niwclear Prydain (gair cod "Tube Alloys"). Yn y cyd-destun hwn, llofnodwyd Cytundeb Technoleg Niwclead Québec gan Roosevelt a Churchill, ac yn ôl hynny dylai ymchwilwyr Prydain a Chanada gymryd rhan ym mhrosiect Manhattan America.

Cytunwyd ar ddefnydd arfaethedig o Ynysoedd yr Azores ar gyfer cludo deunydd rhyfel o'r Unol Daleithiau i Brydain Fawr.[3]

Cynhaliwyd ail Gynhadledd Quebec ym mis Medi 1944.

Oriel golygu

Dolenni golygu

Cynadleddau Pwysig Eraill golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Quebec City: 400 Years of History". Cyrchwyd 2013-01-23. Canadian Prime Minister William Lyon Mackenzie King hosted Churchill and Roosevelt, but did not participate in the conferences.
  2. Dewaters, Diane K. (2008). The World War II Conferences in Washington, D.C. and Quebec City: Franklin D. Roosevelt and Winston S. Churchill. Arlington, Texas: University of Texas. t. 115.
  3. Online-Archiv der Universität Wisconsin (engl.), S. 85, abgerufen am 22. Dezember 2010