Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd 2015
Cynhaliwyd Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd 2015 (neu Conference of the parties (COP) ym Mharis[1] o 30 Tachwedd hyd at 12 Rhagfyr, 2015. Hon oedd 21ain cynhadledd "Cynhadledd y Partion" 'Confensiwn Fframwaith ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig' ers ei sefydlu yn 1992 ac 11eg sesiwn 'Cyfarfod y Partion' ers arwyddo Cytundeb Kyoto yn 1997.[2] Amcan y gynhadledd oedd sicrhau cytundeb i ymglymu cenhedloedd y byd yn gyfreithiol mewn materion sy'n ymwneud â newid hinsawdd neu, fel y'i gelwir yn gynyddol, yr argyfwng hinsawdd.[3]
Logo'r Cynhadledd | |
Cyfieithiad | United Nations Climate Change Conference |
---|---|
Dyddiad | 30 Tachwedd 2015 12 Rhagfyr 2015 | –
Cyfranogwyr | Confensiwn Fframwaith ar Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig United Nations Framework Convention on Climate Change Gwledydd sy'n aelodau o'r UNFCCC |
Gwefan | Venue site Gwefan UNFCCC |
Canlyniad trafodaethau a negydu'r gynhadledd oedd L'accord de Paris, neu Gytundeb Paris, gyda'r nod o reoli a lleihau carbon deuocsid (CO2) o 2020. Mabwysiadwyd y cytundeb yn swyddogol ar 12 Rhagfyr 2015.
Cefndir
golyguNod y gynhadleddoedd sicrhau cytundeb a fyddai'n sicrhau fod pob cenedl drwy'r byd yn gweithredu i atal newid i'r hinsawdd gan ddyn.[4] Cyhoeddwyd gylchlythyr y Pab, Pab Ffransis a enwyd yn Laudato si' gyda'r bwriad o ddylanwadu ar genhedloedd y byd. Galwodd am weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Ategwyd hyn gan ysgrifennydd cyffredinol undeb llafur mwya'r byd sef Cynhadledd yr Undebau Llafur Rhywladol (Ffrangeg: Confédération syndicale internationale) a nododd mai amcan pawb ddylai fod "sero carbon, sero tlodi... nid oes swyddi ar blaned marw".
Amcanion penodol
golyguAmcanion cyffredinol y Gynhadledd oedd lleihau nwyon tŷ gwydr a allyrir gan genhedloedd y byd, yn enwedig CO2 er mwyn cadw tymheredd y Ddaear i 2 °C yn unig o gynnydd ers cychwyn y chwyldro diwydiannol.[5] Nodwyd mewn trafodaethau cynharach y pwysigrwydd i wledydd unigol ymrwymo i dargedi arbennig, a elwir yn Intended Nationally Determined Contributions neu INDCs.[6]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Rudd, Kevin (25 May 2015). "Paris Can't Be Another Copenhagen". New York Times. Cyrchwyd 26 Mai 2015.
- ↑ "19th Session of the Conference of the Parties to the UNFCCC". International Institute for Sustainable Development. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-13. Cyrchwyd 20 Chwefror 2013. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ The Editorial Board (28 Tachwedd 2015). "What the Paris Climate Meeting Must Do". New York Times. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2015.
- ↑ "Issues and reasons behind the French offer to host the 21st Conference of the Parties on Climate Change 2015". Ministry of Foreign Affairs. 22 Mai 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-02. Cyrchwyd 31 Ionawr 2014.
- ↑ "Schedule of Events" (PDF). United Nations Framework Convention on Climate Change. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2013.
- ↑ "What is an INDC? | World Resources Institute". Wri.org. 2015-11-10. Cyrchwyd 2015-11-15.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan globalwitness.org
- Gwefan GVEP Rhyngwladol Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback