Simon Thomas (gwleidydd)

Gwleidydd Cymreig

Cyn-wleidydd o Gymro yw Simon Thomas (ganwyd 28 Rhagfyr 1963) a oedd yn aelod blaenllaw o Blaid Cymru. Bu'n Aelod Seneddol dros Etholaeth Ceredigion rhwng 2000 a 2005. Enillodd y sedd mewn is-etholiad yn 2000 ar ôl i Cynog Dafis ymddiswyddo i ganolbwyntio ar ei waith fel aelod o'r Cynulliad dros Geredigion. Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011, fe'i etholwyd yn aelod dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ond ymddiswyddodd fel Aelod Cynulliad ac o Blaid Cymru yng Ngorffennaf 2018.

Simon Thomas
Aelod o Cynulliad Cenedlaethol Cymru
dros Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin
Yn ei swydd
6 Mai 2011 – 25 Gorffennaf 2018
Rhagflaenwyd ganNerys Evans
Dilynwyd ganHelen Mary Jones
Aelod Seneddol
dros Geredigion
Yn ei swydd
4 Chwefror 2000 – 11 Ebrill 2005
Rhagflaenwyd ganCynog Dafis
Dilynwyd ganMark Williams
Manylion personol
Ganwyd (1963-12-28) 28 Rhagfyr 1963 (60 oed)
CenedligrwyddBaner Cymru Cymru
Cysylltiadau gwleidyddol
arall
Plaid Cymru (hyd at 2018)
Alma materPrifysgol Aberystwyth

Bywyd cynnar golygu

Mae Thomas yn hannu o Gwmaman a mynychodd Ysgol Ramadeg Bechgyn Aberdâr yn Nhrecynon ger Aberdâr. Enillodd Baglor y Celfyddydau yn yr iaith Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth ym 1985, a Diploma ôl-raddedig o Goleg Llyfrgellyddiaeth Cymru yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth ym 1988.

Bu'n guradur cynorthwyol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1986–1992. O 1992–1994, bu'n Swyddog Polisi ac Ymchwil ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Tâf-Elai, ac o 1994–2000, bu'n reolwr Datblygaeth Cefn Gwlad ar gyfer yr asiantaeth datblygu JIGSO.

Ymddiswyddiad golygu

Ymddiswyddodd fel Aelod Cynulliad ac fel aelod o Blaid Cymru ar 25 Gorffennaf 2018 yn sgîl ymchwiliad heddlu i honiadau o "natur ddifrifol".[1] Cadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi arestio unigolyn ar amheuaeth o fod â “delweddau anweddus” yn ei feddiant.[2]

Cynigiwyd y sedd i'r nesaf ar y rhestr rhanbarthol, sef Helen Mary Jones, ac ar 2 Awst 2018 cadarnhawyd y byddai'n cymryd y sedd a dychwelyd i'r Cynulliad.[3]

Ymddangosodd Thomas yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 3 Hydref 2018 lle plediodd yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.[4] Ar 31 Hydref 2018, yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug, cafodd ddedfryd o 26 wythnos o garchar wedi ei ohirio. Fe'i roddwyd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd.[5]

Bywyd personol golygu

Mae'n briod â Gwen, merch y bardd a'r academydd Gareth Alban Davies. Mae ganddynt mab a merch.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Cynog Dafis
Aelod Seneddol dros Geredigion
20002005
Olynydd:
Mark Williams
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Nerys Evans
Aelod Cynulliad dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru
20112018
Olynydd:
Helen Mary Jones

Cyfeiriadau golygu

  1. Simon Thomas yn ymddiswyddo yn sgil ymchwiliad i “drosedd ddifrifol” , Golwg360, 25 Gorffennaf 2018.
  2. Arestio Simon Thomas: heddlu’n cadarnhau “delweddau anweddus” , Golwg360, 25 Gorffennaf 2018.
  3. Helen Mary Jones i olynu Simon Thomas fel Aelod Cynulliad , Golwg360, 2 Awst 2018.
  4. Simon Thomas yn pledio'n euog i greu delweddau anweddus , BBC Cymru Fyw, 3 Hydref 2018. Cyrchwyd ar 18 Mai 2020.
  5. Lluniau anweddus: Dedfryd ohiriedig i Simon Thomas , BBC Cymru Fyw, 31 Hydref 2018. Cyrchwyd ar 18 Mai 2020.