Plaid Werdd Cymru a Lloegr

(Ailgyfeiriad o Y Blaid Werdd (DU))

Plaid wleidyddol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr ydy Plaid Werdd Cymru a Lloegr (Saesneg: Green Party of England and Wales). Mae'n aelod o Blaid Werdd Ewrop a'r mudiad Gwyrdd rhyngwladol a hi yw'r blaid werdd fwyaf yng ngwledydd Prydain. Sefydlwyd y blaid yn 1990 pan ymrannodd 'Y Blaid Werdd' yn dair rhan: Iwerddon, yr Alban a hon (Cymru a Lloegr). Yn wahanol i fwyafrif y pleidiau eraill, mae wedi'i seilio ar thema, sef dyfodol y blaned a'r pwysigrwydd o leihau carbon deuocsid, cynaladwyedd, cynhesu byd eang, cynyddu egni adnewyddadwy a lleihau ynni niwclear a'n dibynedd ar danwydd ffosil. Mae hefyd yn gefnogol i gynrychiolaeth gyfrannol.

Plaid Werdd Cymru a Lloegr
ArweinyddCarla Denyer a Adrian Ramsay
Dirprwy arweinyddZack Polanski
Sefydlwyd1990 (1990)
Rhagflaenwyd ganY Blaid Werdd
PencadlysDevelopment House,
56-64 Leonard Street, London, EC2A 4LT
Asgell yr ifancGwyrdd Ifanc Cymru a Lloegr
Aelodaeth  (2022)53,126 [1]
Rhestr o idiolegauCynaladwyedd,
Cynhesu byd eang,
Egni adnewyddadwy
Sbectrwm gwleidyddolGwleidyddiaeth asgell chwith
Partner rhyngwladolY Blaid Werdd Rhyngwladol
Cysylltiadau EwropeaiddPlaid Werdd Ewrop
Grŵp yn Senedd EwropCynghrair Rhydd Ewrop y Blaid Werdd
Lliw     Green
Tŷ'r Cyffredin
1 / 573
Tŷ'r Arglwyddi
2 / 784
Seddi Cymru a Lloegr ar Senedd Ewrop
3 / 64
Cynulliad Llundain
2 / 25
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
0 / 60
Llywodraeth leol yng Nghymru a Llywodraeth leol yn Lloegr[2]
766 / 17,485
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
0 / 41
Gwefan
www.greenparty.org.uk

Mae'n gweithredu yng Nghymru dan yr enw 'Plaid Werdd Cymru', sy'n ymreolaethol o fewn Plaid Werdd Cymru a Lloegr.

Yn 2014 roedd gan y blaid un Aelod Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin, sef Caroline Lucas, sy'n cynrychioli etholaeth Brighton Pavilion.[3] Roedd Lucas yn arweinydd y blaid rhwng 2008 a 2012, pan drosglwyddwyd yr awennau i Natalie Bennett.[4][5] Mae gan y Blaid Werdd hefyd un arglwydd am oes.

Plaid Werdd Cymru golygu

Cangen lled-annibynnol o Blaid Werdd Cymru a Lloegr ydy Plaid Werdd Cymru. Mae gan y Blaid Werdd Cymru a Lloegr 126 cynghorwyr ond does dim un yng Nghymru.

Cyd-weithio â Phlaid Cymru golygu

Ystyrir Cynog Dafis yn aelod seneddol cyntaf y Blaid Werdd oherwydd cytundeb rhwng y Blaid Werdd a Phlaid Cymru yng Ngheredigion. Roedd Cynog yn gefnogol iawn i syniadau gwyrdd fel y "Bunt Werdd" ac roedd cefnogaeth y Gwyrddion yn bwysig mewn etholaeth ymylol. Cynrychiolodd Cynog Etholaeth Ceredigion a Gogledd Sir Benfro dros Blaid Cymru a'r Blaid Werdd ar y cyd o Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 tan 2000. Mae aelodau o Blaid Cymru yn Llundain wedi helpu'r Gwyrddion yn etholiad cyffredinol 2010, e.e. Rob Sciwen Davies yn Nwyrain Llundain a Petroc ap Seisyllt yn Lewisham.[angen ffynhonnell] Mae hyn yn adlewyrchiad perthynas y ddwy blaid yn Senedd Ewrop fel cyd aelodau o'r EPA, clymblaid o bartïon rhanbarthol a Gwyrddion. Ar hyn o bryd Jill Evans, Plaid Cymru, yw arweinydd y Gwyrddion - Cynghrair Rydd Ewrop yn Senedd Ewrop, ac felly yn arweinydd Ewropeaidd y Gwyrddion.

Swyddogion a Changhennau ym Mai 2010 golygu

  • Ysgrifennydd Cyffredinol: John Matthews
  • Swyddog y Wasg: Jake Griffiths
  • Aelodaeth: Owen Clarke
  • Gwyrddion Ifainc: Sam Coates
  • Caerdydd a'r Fro: Jake Griffiths
  • Ceredigion : Chris Simpson
  • Gwent: Diane Howell
  • Gogledd Cymru: Joe Blakesley
  • Abertawe: Keith Ross

Cyfeiriadau golygu

  1. "statement of accounts, Green Party". Electoral Commission. 22 August 2023. Cyrchwyd 24 August 2023. As at 31 December 2022 the party had 53,126 members
  2. "Green Party - Elections". The Green Party of England and Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-08. Cyrchwyd 25 Ebrill 2014. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  3. "Election 2010 – Constituency – Brighton Pavilion". BBC News. 7 May 2010. Cyrchwyd 7 May 2010.
  4. Jowit, Juliette (5 Awst 2004). "Green party elects Natalie Bennett as leader". The Guardian. London. Cyrchwyd 3 Medi 2012.
  5. "Natalie Bennett elected new Green Party leader in England and Wales". BBC News. 3 Medi 2012. Cyrchwyd 3 Medi 2012.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.