Helen Mary Jones
Gwleidydd Cymreig, aelod o Blaid Cymru yw Helen Mary Jones (ganwyd 29 Mehefin 1960). Etholwyd dros etholaeth Llanelli ar ddyfodiad y Cynulliad ym 1999. Collodd afael ar y sedd etholaethol o 21 pleidlais yn etholiad 2003, ond fe'i hetholwyd i gynrychioli rhanbarth Gorllewin a Chanolbarth Cymru dros Blaid Cymru. Ail-etholwyd Jones dros etholaeth Llanelli yn 2007, ond collodd y sedd unwaith eto yn 2011. Dychwelodd i'r Cynulliad yn 2018 yn dilyn ymddiswyddiad Simon Thomas. Yn Etholiad Senedd Cymru, 2021 roedd yn ymgeisydd yn etholaeth Llanelli unwaith eto ond ni chipiodd y sedd.
Helen Mary Jones | |
---|---|
Aelod o Senedd Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru | |
Yn ei swydd 2 Awst 2018 – 29 Ebrill 2021 | |
Rhagflaenwyd gan | Simon Thomas |
Dilynwyd gan | Cefin Campbell |
Yn ei swydd 1 Mai 2003 – 3 Mai 2007 | |
Rhagflaenwyd gan | Cynog Dafis |
Dilynwyd gan | Nerys Evans |
Aelod Cynulliad dros Llanelli | |
Yn ei swydd 3 Mai 2007 – 6 Mai 2011 | |
Rhagflaenwyd gan | Catherine Thomas |
Dilynwyd gan | Keith Davies |
Yn ei swydd 6 Mai 2011 – 1 Mai 2003 | |
Rhagflaenwyd gan | Creuwyd y swydd |
Dilynwyd gan | Catherine Thomas |
Manylion personol | |
Ganwyd | Colchester | 29 Mehefin 1960
Cenedligrwydd | Cymru |
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganwyd yn Colchester a derbyniodd ei haddysg yn Colchester County High School for Girls, yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion ym Mhowys ac ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae hi'n chwaer i'r awdur a digrifwr Myfanwy Alexander.[1] Cyn dod yn wleidydd, bu'n gweithio ym maes addysg arbennig gan ddal gwahanol swyddi mewn gwaith cymdeithasol a chymunedol a chyda phobl ifainc. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys materion amgylcheddol, cyfiawnder cymdeithasol, cyfleoedd cyfartal, hawliau plant a chyflogaeth. Fe fu hi'n aelod o'r grŵp ymgynghorol ar sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.
Ymladdodd hi am sedd seneddol Islwyn yn etholiad cyffredinol 1992 yn erbyn Neil Kinnock, arweinydd y Blaid Lafur ar y pryd, ac am sedd Sir Drefaldwyn yn etholiad cyffredinol 1997. Yn 2000, daeth Helen yn ail i Ieuan Wyn Jones yn etholiad arweinyddiaeth Plaid Cymru.[2]
Mae Jones wedi dal nifer o swyddi gwleidyddol ar lefel cangen, etholaeth ac yn genedlaethol o fewn Plaid Cymru, a bu yn fyfarwyddwraig cyfleoedd cyfartal y blaid. Cyn cael ei hethol i'r cynulliad roedd hi'n Uwch Reolwraig Datblygiad gyda'r Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal yng Nghymru. Yn y Cynulliad bu'n gysgod weinidog dros addysg, ac yn gysgod weinidog iechyd ac roedd yn aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth, y Pwyllgor Cyfleoedd Cyfartal, Pwyllgor Partneriaeth y Sector Wirfoddol a Phwyllgor Ardal De Orllewin Cymru. Roedd hi'n Gadeirydd Plaid Cymru rhwng 2011 a 2013.[3]
Yn dilyn ymddiswyddiad Simon Thomas yng Ngorffennaf 2018 cynigiwyd y sedd i Helen Mary Jones, fel y nesaf ar y rhestr rhanbarthol, ac ar 2 Awst 2018 cadarnhawyd y byddai'n cymryd y sedd a dychwelyd i'r Cynulliad. Cyn hynny roedd hi'n Gyfarwyddwr Cynorthwyol yn Academi Morgan, Prifysgol Abertawe.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ WalesOnline (2011-09-10). "New Plaid chair Helen Mary Jones under fire from own sister". walesonline. Cyrchwyd 2019-11-25.
- ↑ Plaid Cymru picks Ieuan Wyn Jones by a landslide (en) , independent.co.uk, 4 Awst 2000. Cyrchwyd ar 2 Awst 2018.
- ↑ Rhoi'r gorau iddi , BBC Cymru Fyw, 27 Awst 2013. Cyrchwyd ar 2 Awst 2018.
- ↑ Helen Mary Jones i olynu Simon Thomas fel Aelod Cynulliad , Golwg360, 2 Awst 2018.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Lanelli 1999 – 2003 |
Olynydd: Catherine Thomas |
Rhagflaenydd: Cynog Dafis |
Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru 2003 – 2007 |
Olynydd: Nerys Evans |
Rhagflaenydd: Catherine Thomas |
Aelod Cynulliad dros Lanelli 2007 – 2011 |
Olynydd: Keith Davies |
Rhagflaenydd: Simon Thomas |
Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru 2018 – 2021 |
Olynydd: Cefin Campbell |