Dŵr blodau orennau

Sgil-gynnyrch persawrus clir distyllu blodau orennau chwerw ffres ar gyfer eu holew hanfodol yw dŵr blodau orennau.

Distyllu blodau coed orennau
Blodau coeden orennau

Defnydd golygu

Defnyddiwyd y dŵr hanfodol hwn i bersawru llawer o fwydydd melys traddodiadol y Canoldir, megis gibassier a pompe à l'huile Ffrainc, cacen Roscón de Reyes Sbaen,[1] samsa Tiwnisia[2] a choffi Moroco.[3] Heddiw, ceir dŵr blodau orennau mewn bwydydd o wledydd eraill hefyd, fel mewn madeleines yn Ewrop, mewn teisennau priodas bach a pan de muerto ym Mecsico ac i wneud sgons a malws melys blodau orennau yn yr Unol Daleithiau. Defnyddir dŵr blodau orennau fel cynhwysyn mewn rhai coctels, fel Ramos Gin Fizz. Ym Malta a llawer o wledydd Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol, defnyddir dŵr blodau orennau yn helaeth fel meddyginiaeth at boen yn y bol mewn plant ac oedolion.[4]

Cynhwysyn traddodiadol cyffredin yng ngheginau Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol yw dŵr blodau orennau. Mewn baklava Arabaidd, caiff y dŵr ei gymysgu â'r surop melys er mwyn rhoi ei flas iddo. Credir bod blodau coed orennau yn cael eu defnyddio fel hyn oherwydd mai nhw yw'r blodyn priodasol traddodiadol ac felly bod y blodau tlws bach gwyn yn cynrychioli purdeb. Fe'i hychwanegir at ddŵr plaen yn y Dwyrain Canol hefyd i guddio blas y nifer uchel o fwynau ynddo neu flasau cas eraill, er enghraifft, y rhai sy'n codi wrth gadw dŵr mewn qulla (قلة), math o jwg glai sy'n cadw dŵr yn oer mewn ffordd debyg i zīr (زير‎). Er hynny, bydd rhai yn ychwanegu'r dŵr persawrus at ddŵr plaen waeth bynnag y blas.

Fesul gwlad a rhanbarth golygu

Yng Ngwlad Groeg a Chyprus gelwir dŵr blodau orennau yn anthonero (ανθόνερο) tra ym Malta fe'i gelwir yn ilma żahar. Yn y Lefant, gelwir dŵr blodeuog oren yn may zahr (مي زهر), ym Moroco yn may zahr (الما زهر) ac yn Nhiwnisia yn mā zahr (ما زهر), sy'n golygu "dŵr blodau" yn llythrennol,[5] mewn cyferbyniad â may ward (مي ورد) neu ilma ward (الما ورد), sef dŵr rhosod.

Yn y Maghreb, defnyddir dŵr blodau orennau fel persawr neu beraroglydd sy'n cael ei roi i westeion iddynt gael golchi eu dwylo ar ôl dod i mewn i dŷ rhywun neu cyn cymryd te. Mae'n cael ei roi mewn cynhwysydd arian neu fetel sy'n rhan o'r set de Faghrebi arferol. Er hyn, mae'r arfer traddodiadol hwn yn diflannu yn raddol heddiw. Defnyddir y dŵr hefyd ym mwyd Algeria, Tiwnisia a Moroco, yn enwedig fel cynhwysyn mewn bwydydd melys ac i roi persawr i ddiodydd megis coffi.[6] Yn yr Ariannin, sydd wedi benthyca llawer o draddodiadau coginio o'r Eidal, defnyddir agua de azahar i ychwanegu arogl a blas penodol i pan dulce, y panettone traddodiadol sy'n rhan o ddathliadau diwedd y flwyddyn.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. VelSid. "Agua de Azahar". gastronomiaycia.com.
  2. Frederic Lardinois (11 July 2013). "Honey Almond Samsa with Orange Blossom Water". Global Table Adventure. Cyrchwyd 26 April 2017.
  3. "Moroccan Cinnamon Coffee With Orange Flower Water". Food.com. Cyrchwyd 26 April 2017.
  4. Taste of Beirut. Accad, Joumana.
  5. Mae zhar (زهر), sy'n golygu blodau mewn Arabeg safonol, yn golygu blodau orennau yn benodol yn y Maghreb. Gweler Harrell, Richard S.: Dictionary of Moroccan Arabic (Washington DC: Georgetown University Press)
  6. Christine Benlafquih. "Moroccan Recipes with Orange Flower Water". About.com Food. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-08. Cyrchwyd 2021-08-03.

Dolenni allanol golygu