Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen
Gwlad gomiwnyddol oedd yn aelod o Gytundeb Warsaw oedd Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (Almaeneg: Deutsche Demokratische Republik neu DDR /deːdeːʔɛʁ/) a elwir yn aml yn Dwyrain yr Almaen. Y brifddinas oedd Dwyrain Berlin. Sefydlwyd y wlad yn 1949 wedi'r Ail Ryfel Byd. Ers 3 Hydref, 1990, nid yw'r DDR yn bodoli, gan iddi uno â Gweriniaeth Ffederal yr Almaen. Nes 1989 roedd yn disgrifio ei hun fel gwladwriaeth sosialaeth y "gweithwyr a'r gwerinwyr".[1] Cafodd yr economi ei ddisgrifio fel un canolog ac wedi ei berchen gan y wladwriaeth.[2]
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Dwyrain Berlin |
Poblogaeth | 16,111,000 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Auferstanden aus Ruinen |
Pennaeth llywodraeth | Otto Grotewohl, Willi Stoph, Horst Sindermann, Willi Stoph, Hans Modrow, Lothar de Maizière |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Almaeneg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen |
Arwynebedd | 108,179 km² |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Ffederal Tsiec a Slofacia, Gwladwriaeth Sosialaidd Tsiecoslofac, Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl, Y Gymuned Ewropeaidd, Gorllewin yr Almaen, Gwlad Pwyl, yr Undeb Ewropeaidd, yr Almaen |
Cyfesurynnau | 52.05°N 12.39°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cyngor Gweinidogion y DDR |
Corff deddfwriaethol | Volkskammer |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, Llywydd y Volkskammer |
Pennaeth y wladwriaeth | Wilhelm Pieck, Walter Ulbricht, Willi Stoph, Erich Honecker, Egon Krenz, Manfred Gerlach, Sabine Bergmann-Pohl |
Pennaeth y Llywodraeth | Otto Grotewohl, Willi Stoph, Horst Sindermann, Willi Stoph, Hans Modrow, Lothar de Maizière |
Arian | Mark Dwyrain yr Almaen, Deutsche Mark |
Y ddau brif ffigwr yn hanes y DDR oedd Walter Ulbricht, arweinydd y wlad o 1950 i 1971, ac Erich Honecker, arweinydd y wlad o 1971 i 1989.[3] System un bleidiol oedd mewn lle a'r blaid lywodraethol oedd y Blaid Undod Sosialaidd (SED).[4] Fe alwyd y wlad yn aml yn un o 'wladwriaethau lloeren' yr Undeb Sofietaidd, gyda haneswyr yn ei alw'n gyfundrefn awdurdodaidd.[5] Yn ystod ei hanes daeth yn un o'r gwledydd mwyaf datblygedig yn economaidd yn y Bloc Dwyreiniol.[6] Yn ddaearyddol roedd ffin fewnol yn rhedeg rhwng y DDR a Gorllewin yr Almaen ond hefyd yn Berlin. Adeiladwyd Mur Berlin yn 1961 er mwyn rhwystro pobl rhag dianc i'r Gorllewin.[7] Daeth hyn yn symbol o'r wladwriaeth a'r ffin ideolegol rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin (Y Llen Haearn). Ar ôl cwymp y Mur yn 1989, flwyddyn yn ddiweddarach fe wnaeth y wlad uno gyda Gorllewin yr Almaen er mwyn creu Gweriniaeth Ffederal yr Almaen.[7]
Hanes
golyguYn Chwefror 1945 fe wnaeth arweinwyr y Cynghreiriaid cwrdd yn Yalta. Yn ystod y gynhadledd cytunodd yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, a’r Undeb Sofietaidd ar rannu'r Almaen wedi’i threchu yn barthau meddiannaeth, ac ar rannu Berlin, prifddinas yr Almaen, ymhlith pwerau’r Cynghreiriaid.[7] I ddechrau, roedd hyn yn golygu ffurfio tri pharth meddiannaeth, sef y parthau'r Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a'r Undeb Sofietaidd. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd parth Ffrainc a grewyd o barthau UDA a Phrydain.[7] Yn 7 Hydref 1949 fe sefydlwyd gwladwriaeth y DDR ym mharth meddiannu'r Sofietiaid. Roedd creu'r DDR yn ymateb uniongyrchol i ffurfio Gweriniaeth Ffederal yr Almaen yn y parthau a feddiannwyd yn y Gorllewin yn gynharach yr un flwyddyn.[8]
Yn ei flynyddoedd cynnar, canolbwyntiodd y DDR ar ailadeiladu ei heconomi o dan fodel economi gynlluniedig.[9] Roedd y wladwriaeth yn gwladoli diwydiant ac yn ffurfio amaethyddiaeth gyfunol, gan arwain at heriau economaidd cychwynnol, gan gynnwys prinder nwyddau ac anfodlonrwydd eang. Digwyddodd streic gweithwyr a phrotestiadau fis Mehefin 1953, ac fe wnaeth y fyddin Sofietaidd ymyrryd. Gweithredodd llywodraeth y DDR hefyd reolaeth lem dros fywyd gwleidyddol, gyda'r Stasi, gwasanaeth cudd wybodaeth a diogelwch y wladwriaeth, yn chwarae rhan allweddol wrth atal gwrthwynebiad.[7]
Wrth i'r Rhyfel Oer ddwysau, roedd y DDR yn wynebu problem sylweddol gydag ymfudiad ei ddinasyddion i Orllewin yr Almaen, a oedd ag economi mwy ffyniannus a mwy o ryddid gwleidyddol. Erbyn 1961, roedd tua 3.5 miliwn o ddwyreinwyr wedi ffoi i'r Gorllewin, gan arwain at argyfwng a oedd yn bygwth sefydlogrwydd y DDR.[10] Ar 13 Awst 1961, cododd llywodraeth y DDR, gyda chefnogaeth yr Undeb Sofietaidd, Wal Berlin, gan rannu Dwyrain a Gorllewin Berlin yn gorfforol a symboleiddio rhaniad ehangach yr Almaen ac Ewrop.[11] I bob pwrpas, ataliodd Mur Berlin yr ymfudo torfol, ond daeth hefyd yn symbol o natur ormesol y DDR. Cyfiawnhaodd llywodraeth y DDR y wal fel mesur amddiffynnol yn erbyn ymddygiad ymosodol y Gorllewin, gan ei alw'n "Rhaglen Amddiffyn Gwrth-Ffasgaidd."[12] Fodd bynnag, roedd y wal yn cael ei hystyried yn rhyngwladol yn eang fel rhwystr i ryddid.
Erbyn yr 1980au, roedd y DDR yn wynebu anawsterau economaidd cynyddol, gan brwydro â dyled, prisiau cynyddol ar gyfer mewnforio deunydd crai, prinder, gyda buddsoddiadau’n dirywio a chynhyrchiant yn isel.[13][14] Tyfodd anniddigrwydd ymhlith y boblogaeth, gan arwain at allfudo a chynnydd mewn gweithgareddau gwrthwynebol, gan gynnwys protestiadau a thwf grwpiau gwrthblaid.[15]
Daeth y sefyllfa i’r pen yn 1989, wrth i’r Bloc Dwyreiniol ehangach ddechrau profi newidiadau gwleidyddol sylweddol. Dechreuodd protestiadau torfol, a elwir yn Chwyldro Heddychol, ar draws y DDR, gan fynnu diwygio gwleidyddol, rhyddid i symud, ac yn y pen draw, ailuno â Gorllewin yr Almaen. Ar 9 Tachwedd 1989, cyhoeddodd llywodraeth y DDR yn annisgwyl y gallai Dwyreinwyr groesi'r ffin yn rhydd i Orllewin Berlin a Gorllewin yr Almaen, gan arwain at gwymp Mur Berlin.[15]
Yn dilyn cwymp y Mur, chwalodd y DDR yn gyflym fel endid gwleidyddol. Ym mis Mawrth 1990, cynhaliwyd yr etholiadau rhydd cyntaf, gan arwain at fuddugoliaeth i bleidiau o blaid ailuno. Ar 3 Hydref 1990, diddymwyd y DDR yn ffurfiol, a daeth ei diriogaeth yn rhan o Weriniaeth Ffederal yr Almaen, gan ddod â dros bedwar degawd o ymraniad i ben.[16]
Diwylliant
golyguYn gymdeithasol, roedd y DDR yn hyrwyddo fersiwn o sosialaeth a oedd yn pwysleisio cydgyfrifoldeb a chydymffurfiaeth â delfrydau gwladwriaethol. Darparodd y llywodraeth wasanaethau cymdeithasol helaeth, gan gynnwys addysg am ddim, gofal iechyd, a thai â chymhorthdal, a fwriadwyd i feithrin teyrngarwch i'r wladwriaeth.[17] Fodd bynnag, cyfyngwyd yn ddifrifol ar ryddid gwleidyddol gyda sensoriaeth, a chynhaliodd y Stasi rwydwaith gwyliadwriaeth dreiddiol o fewn cymdeithas i fonitro a rheoli'r boblogaeth.[18]
Cysylltiadau rhwng y DDR a Chymru
golyguRoedd y DDR yn cynnwys ardaloedd o bobl oedd yn siarad yr iaith leiafrifol y Sorbeg, a drwy gydol bodolaeth y wladwriaeth roedd pobl o Gymru wedi teithio draw er mwyn rhannu a deall sut oedd y wladwriaeth yn ymdrin â'r iaith.[19] Mae yna dystiolaeth bod o leiaf tair dirprwyaeth o fyd addysg Gymraeg, o Sir y Fflint yn benodol, wedi teithio i'r DDR.[19] Benjamin Haydn Williams, a sefydlodd y ddwy ysgol Cymraeg cyntaf yng Nghymru yn Sir y Fflint, oedd yn arwain y dirprwyaethau hyn.
Fe wnaeth Sorbiaid hefyd gystadlu yn Eisteddfod ryngwladol Llangollen rhwng 1959 a 1972 drwy anogaeth Benjamin Haydn Williams a Huw T. Edwards.[19]
Honnir bod y DDR wedi rhoi arian, parseli bwyd, dillad a gwyliau am ddim i lowyr yng Nghymru a Phrydain yn ystod Streic y Glowyr rhwng 1984 a 1985.[20]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Major, Patrick; Osmond, Jonathan (2002). The Workers' and Peasants' State: Communism and Society in East Germany Under Ulbricht 1945–71. Manchester University Press. ISBN 978-0-7190-6289-6.
- ↑ Arwyn, Arddun. "7. GDA: Yr Undeb Sofietaidd ar yr Elbe". prezi.com. Cyrchwyd 2024-08-10.
- ↑ "Erich Honecker and Walter Ulbricht". ghdi.ghi-dc.org. Cyrchwyd 2024-08-10.
- ↑ Leichsenring, Dr Jana. "German Bundestag - The German Democratic Republic (1949 - 1990)". German Bundestag (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-10.
- ↑ Kocka, Jürgen, gol. (2010). Civil Society & Dictatorship in Modern German History. UPNE. t. 37. ISBN 978-1-58465-866-5. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 March 2015. Cyrchwyd 14 October 2015.
- ↑ "Business America. (27 February 1989). German Democratic Republic: long history of sustained economic growth continues; 1989 may be an advantageous year to consider this market[[:Nodyn:Snd]]Business Outlook Abroad: Current Reports from the Foreign Service". Business America. 1989. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 November 2007. Cyrchwyd 2 October 2007. URL–wikilink conflict (help)
- ↑ 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Datblygiad yr Almaen, 1919–1991 Rhan 1: Datblygiadau Gwleidyddol yn yr Almaen (PDF). CBAC.
- ↑ See Anna M. Cienciala "History 557 Lecture Notes" Archifwyd 20 Mehefin 2010 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Peter E. Quint. The Imperfect Union: Constitutional Structures of German Unification, Princeton University Press, 2012, pp. 125–126.
- ↑ Dowty 1989, t. 122
- ↑ Taylor, Frederick (2006). Berlin Wall: A World Divided, 1961–1989. HarperCollins. ISBN 9780060786137.
- ↑ "Goethe-Institut – Topics – German-German History Goethe-Institut". 9 April 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 April 2008. Cyrchwyd 6 August 2011.
- ↑ "The collapse of the German Democratic Republic (GDR) - Subject files - CVCE Website". www.cvce.eu. Cyrchwyd 2024-08-21.
- ↑ "The Plans That Failed: An Economic History of the GDR – EH.net" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-21.
- ↑ 15.0 15.1 Flemming, Thomas. The Berlin Wall: Division of a City. BeBra Verlag. ISBN 978-3814802725.
- ↑ "Leben in der DDR". www.mdr.de (yn Almaeneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 February 2024. Cyrchwyd 2022-03-06.
- ↑ Hoyer, Katja (2024). Beyond the Wall: East Germany, 1949-1990. London: Penguin Books Ltd. ISBN 978-0-14-199934-0.
- ↑ Germans campaign for memorial to victims of communism Archifwyd 10 Mai 2023 yn y Peiriant Wayback, BBC News, 31 January 2018
- ↑ 19.0 19.1 19.2 Thomas, Rhian (2014). Wales and the German Democratic Republic: Expressions and perceptions of Welsh identity during the Cold War (PDF). Prifysgol De Cymru.
- ↑ "GDR 'finance' for 1984-85 miners' strike". BBC News (yn Saesneg). 2010-07-07. Cyrchwyd 2024-08-11.