Dadwenwyno yw'r enw ar roir ar brosesau neu ddulliau ffisiolegol neu meddyginiaethol o waredu sylweddai gwenwynig o organeb byw, gan gynnwys y corff dynol. Yn y corff dynol, mae'r proses yn cael ei gyflawni'n naturiol gan yr afu. Yn ogystal, gall 'dadwenwyno' gyfeirio at y cyfnod o ddiddyfnu pan fydd organeb yn dychwelyd i homeostasis ar ôl defnyddio sylwedd caethiwus am dymor hir.[1][2] Mewn meddygaeth, gellir cyflawni dadwenwyno trwy ddadlygru amlynciad y gwenwyn a'r defnydd o wrthgyffuriau yn ogystal â thechnegau megis dialysis a therapi tyllu (mewn nifer cyfyngedig o achosion).[3]

Mae llawer o ymarferwyr meddygaeth amgen yn hyrwyddo gwahanol fathau o ddadwenwyno megis deiet dadwenwyno. Mae gwyddonwyr wedi disgrifio'r rhain fel "gwastraff amser ac arian".[4][5] Penderfynodd Sense About Science, ymddiriedolaeth elusennol yn y DU, nad oedd tystiolaeth i ddilysu'r rhan fwyaf o ddulliau "dadwenwyno" dietegol o'r fath.[6][7]

Mathau golygu

Dadwenwyno alcohol golygu

Mae dadwenwyno alcohol yn broses lle mae system yfwr trwm yn dychwelyd i normal ar ôl dod i arfer â chael alcohol yn y corff yn barhaus am gyfnod estynedig o gamddefnydd. Mae dibyniaeth ddifrifol ar alcohol yn arwain at ddadreoleiddio derbynyddion niwrodrosglwyddyddion GABA. Gall diddyfnu yn sydyn o fod yn gaeth i alcohol yn y tymor hir heb reolaeth feddygol achosi problemau iechyd difrifol a gall fod yn angheuol. Nid triniaeth ar gyfer alcoholiaeth yw dadwenwyno alcohol. Ar ôl dadwenwyno, rhaid defnyddio triniaethau eraill i ddelio â'r ddibyniaeth sylfaenol a achosodd y defnydd o alcohol.

Dadwenwyno cyffuriol golygu

Mae clinigwyr yn defnyddio dadwenwyno cyffuriau i leihau neu leddfu symptomau diddyfnu tra'n helpu unigolyn oedd yn gaeth i addasu i fywyd heb y defnydd o gyffuriau; nid yw dadwenwyno cyffuriol yn ceisio trin dibyniaeth ond yn hytrach yn cynrychioli cam cynnar o fewn triniaeth hirdymor. Mae'n bosibl y caiff y broses ddadwenwyno ei chyflawni heb gyffuriau neu gellir defnyddio meddyginiaethau fel agwedd o'r driniaeth. Yn aml bydd dadwenwyno a thriniaeth cyffuriol ddigwydd mewn rhaglen gymunedol sy'n para sawl mis ac sy'n digwydd mewn lleoliad preswyl yn hytrach nag mewn canolfan feddygol.

Mae dadwenwyno cyffuriol yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y driniaeth, ond mae'r rhan fwyaf o ganolfannau dadwenwyno yn darparu triniaeth i osgoi symptomau diddyfnu yn gorfforol o alcohol a chyffuriau eraill. Mae'r rhan fwyaf hefyd yn ymgorffori cwnsela a therapi yn ystod y dadwenwyno i helpu gyda chanlyniadau'r diddyfnu.

Dadwenwyno metabolaidd golygu

Gall metaboledd anifail gynhyrchu sylweddau niweidiol y gall wedyn eu gwneud yn llai gwenwynig trwy leihau, ocsideiddio (a elwir gyda'i gilydd yn adweithiau rhydocs), cydgysylltu ac ysgarthiad moleciwlau o gelloedd neu feinweoedd.[8] Gelwir hyn yn fetabolaeth xenobiotig.[9][10][11][12] Mae'r prosesau hyn yn cael eu hastudio'n arbennig o dda fel rhan o fetaboledd cyffuriol, gan eu bod yn dylanwadu ar ffarmacocinetigau cyffur yn y corff.[13][14][15]

Meddygaeth amgen golygu

Mae rhai dulliau mewn meddygaeth amgen yn honni eu bod yn tynnu "tocsinau" o'r corff trwy driniaethau llysieuol, trydanol neu electromagnetig. Nid yw'r gwenwynau hyn wedi eu diffinio ac nid oes sail wyddonol iddynt,[5] gan wneud dilysrwydd technegau o'r fath yn amheus. Ychydig o dystiolaeth sydd ar gael am gronni gwenwynig yn yr achosion hyn,[5] gan fod yr afu a'r arennau yn dadwenwyno ac yn gwaredu llawer o ddeunyddiau gwenwynig gan gynnwys gwastraff metabolaidd. Yn ôl y ddamcaniaeth hon, os yw tocsinau yn cael eu rhyddhau yn rhy gyflym heb gael eu dileu yn ddiogel, gallant niweidio'r corff ac yn achosi anhwylder. Mae therapïau yn cynnwys cawodydd cyferbyniol, padiau troed dadwenwyno, tynnu olew, therapi Gerson, cerrig neidr, glanhau corff, Gwanhad Puro Scientoleg, ymprydio dŵr, a therapi metabolaidd.[16]

Cyfeiriadau golygu

  1. "detoxify - definition of detoxify in the Medical dictionary - by the Free Online Medical Dictionary, Thesaurus and Encyclopedia". Medical-dictionary.thefreedictionary.com. Cyrchwyd 2013-04-21.
  2. "Toxicology Primer". UIC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-31. Cyrchwyd 2013-04-21. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Get the Lead Out - Autumn 2009 Living Bird". Birds.cornell.edu. Cyrchwyd 2013-04-21.
  4. "Scientists dismiss detox schemes". BBC News. 3 January 2006. Cyrchwyd 5 May 2013.
  5. 5.0 5.1 5.2 "Detox diets: Do they work? - Mayo Clinic". Cyrchwyd 26 July 2016.
  6. "Scientists dismiss detox schemes". 3 January 2006. Cyrchwyd 26 July 2016.
  7. "No proof so-called detox products work: scientists". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-04. Cyrchwyd 2019-06-17.
  8. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-04. Cyrchwyd 2009-07-18. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  9. xenobiotic metabolic process (2013-04-13). "AmiGO: xenobiotic metabolic process Details". Amigo.geneontology.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-25. Cyrchwyd 2013-04-21. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. L-60: Xenobiotic Metabolism (archived version).
  11. "Metabolism of Xenobiotics". Zoology.muohio.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-01. Cyrchwyd 2013-04-21. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. Xenobiotic Metabolism-Oxford Biomedical Research Inc (archived version).
  13. "Small Molecule Drug Metabolism". Ionsource.com. 2012-09-01. Cyrchwyd 2013-04-21.
  14. "Comparison of the Levels of Enzymes Involved in Drug Metabolism between Transgenic or Gene-knockout and the Parental Mice". Tpx.sagepub.com. 2001-01-01. Cyrchwyd 2013-04-21.
  15. D M Dulik & C Fenselau (1988-04-01). "Use of immobilized enzymes in drug metabolism studies". Fasebj.org. Cyrchwyd 2013-04-21.
  16. "More information on complementary and alternative medicine - American Cancer Society". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-28. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2016.