Fel yr awgryma'r gair, yr astudiaeth o bridd yn ei amgylchedd yw priddeg (Saesneg: pedology).[1] Mae'n un o ddwy gangen o 'wyddoniaeth pridd', yr ail yw edaffoleg, sef effaith y pridd ar blanhigion, ffwng ac organebau byw eraill.

Priddeg
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Mathgwyddor pridd Edit this on Wikidata
Rhan odaearyddiaeth, gwyddor pridd, priddeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Proffil y pridd: sialc

Trosolwg golygu

Mae pridd yn allweddol ar gyfer bywyd: yr holl blanhigion sy'n tyfu ohono, ac anifeiliaid yn sgil hynny. Mae hefyd yn fan lle mae anifeiliaid yn tramwyo ac yn byw ac yn haen rhyngweithiol o wahanol agweddau: hinsawdd (dŵr, aer, tymheredd), bywyd o fewn y pridd (micro-organebau, planhigion, anifeiliaid), mwynau a chreigiau, a'i safle yn y tirwedd. yn ystod ei ffurfio, ac wedyn, mae proffil y pridd yn newid yn araf, yn dyfnhau ac yn datblygu nodweddion a elwir yn derfynlin (horizons), wrth iddo geisio ystâd o gydbwysedd.

Priddegwyr o nod golygu

  • Olivier de Serres
  • Vasily V. Dokuchaev
  • Eugene W. Hilgard
  • Hans Jenny
  • Curtis F. Marbut
  • Bernard Palissy

Cyfeiriadau golygu

  1. Ronald Amundsen. "Soil Preservation and the Future of Pedology" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-06-12. Cyrchwyd 2006-06-08.