Daearyddiaeth yr Almaen
Gwlad yng nghanolbarth Ewrop yw yr Almaen. Mae'n ymestyn o Fôr y Gogledd a'r Môr Baltig yn y gogledd hyd at yr Alpau yn y de, ac yn ffinio â Denmarc, Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Tsiec, Awstria, y Swistir, Ffrainc, Lwcsembwrg, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd.
Gwastadedd yw rhan helaeth o ogledd yr Almaen, rhan o Wastadedd Canolbarth Ewrop. Mae'r de yn llawer mwy mynyddig, yn enwedig yn yr Alpau, lle mae'r copa uchaf, y Zugspitze, yn cyrraedd 2,962 medr o uchder.
Ac eithrio Afon Donaw yn y de, mae afonydd yr Almaen yn llifo tua'r Môr y Gogledd a'r Môr Baltig, gan gynnwys afonydd Rhein, Elbe, Weser ac Ems, sy'n llifo tua'r gogledd.
Y llyn mwyaf yw'r Bodensee, er nad yw'r cyfan ohono yn yr Almaen.