Iolo ap Dafydd
Newyddiadurwr a chyflwynydd teledu a radio Cymreig yw Iolo ap Dafydd (ganwyd Tachwedd 1963). Hyd at 2016 roedd yn Ohebydd Amgylchedd a Materion Gwledig BBC Cymru.[1]
Iolo ap Dafydd | |
---|---|
Ganwyd | 1963 |
Man preswyl | Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cyflogwr |
|
Tad | Dafydd Parri |
Daw ap Dafydd o Lanrwst, Dyffryn Conwy yn wreiddiol, ond bellach mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae'n fab i'r awdur plant Dafydd Parri.[2] Mae hefyd wedi treulio cyfnodau yn byw yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd, Israel a Seland Newydd.
Graddiodd o Adran Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor.[3] Bu'n gweithio fel ymchwilydd, is-gynhyrchydd a chyflwynydd rhai o raglenni HTV Cymru, Channel 4 ac S4C cyn ymuno â’r BBC ym 1993 fel Gohebydd Chwaraeon yn y Gymraeg ar raglen Newyddion BBC Cymru, ac fe’i enwebwyd â chanmoliaeth uchel ar gyfer gwobr BT Welsh Sports Journalist of the Year yn 2002. Aeth ymlaen i weithio fel gohebydd Ewropeaidd y BBC. Mae wedi cael y cyfle i adrodd y newyddion o bedwar ban y byd; o Efrog Newydd yn dilyn ymosodiadau 11 Medi, o Affganistan, Oman, Israel, Gwlad Iorddonen, Kuwait ac Irac, roedd yn gohebu o Hilla pan ddarganfuwyd y beddau torfol.
Ymunodd â thîm rhaglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ar ddydd Gŵyl Dewi 2004, ac bu hefyd yn gohebu ar raglen Week In Week Out yn 2004.[4]
Fe adawodd y BBC yn Ionawr 2016,[5] ac ymunodd â sianel TRT World yn Istanbul fel gohebydd newyddion.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ O Flaen Dy Lygaid: Dyfroedd Dyfnion. S4C.
- ↑ Eisteddfod Genedlaethol 2013. BBC Cymru. Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
- ↑ Ble mae ein cyn-fyfyrwyr?. Prifysgol Bangor.
- ↑ Yr wythnos hon, yr holwr Iolo ap Dafydd, sydd dan y chwyddwydr…. Yr Academi (Chwefror 2005).
- ↑ Iolo ap Dafydd (26 Ionawr 2016). ffarwel hyfryd gan gydweithwyr BBC Cymru. Twitter. Adalwyd ar 13 Ebrill 2016.
- ↑ (Saesneg) Linked In - Iolo. Adalwyd ar 22 Ionawr 2018.