Awdur a chlasurydd o Loegr yw Daisy Florence Dunn (ganwyd 1987).

Daisy Dunn
Ganwyd1987 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethllenor, ysgolhaig clasurol Edit this on Wikidata

Cafodd Daisy Dunn ei geni yn Llundain a mynychodd Ysgol Ibstock Place yn Ne-orllewin Llundain ac Ysgol Lady Eleanor Holles yn Hampton ar ysgoloriaeth academaidd.[1] Graddiodd yn y Clasuron o Coleg y Santes Hilda, Rhydychen, yn 2009, ac wedyn astudiodd ar gyfer MA mewn Hanes Celf yn Sefydliad Courtauld, gan arbenigo yn Titian, Fenis a Dadeni Ewrop.[2][3] Dyfarnwyd PhD o Goleg Prifysgol Llundain gyda thesis yn archwilio ecphrasis mewn barddoniaeth Roeg a Lladin a phaentio Eidalaidd o’r unfed ganrif ar bymtheg.[4]

Yn 2016 cyhoeddodd ei dau lyfr cyntaf, cofiant i'r bardd serch Lladin Catullus a chyfieithiad newydd o'i gerddi. [5] Roedd y cofiant, o'r enw Catullus' Bedspread, yn disgrifiwyd fel "portread gwych" yn The Sunday Times.[6] Arweiniodd cyfieithiad Dunn o un o ymhelaethu ar Catullus at gyfres o lythyrau yn The Times Literary Supplement ac erthygl yn The Times.[7] [8] Mewn erthygl yn 2016 yn The Guardian cynhwysodd Simon Schama Dunn yn ei restr o haneswyr benywaidd blaenllaw. [9]

Roedd cofiant deuol 2019 Dunn o Plinius yr Hynaf a Plinius yr Ieuengaf, In the Shadow of Vesuvius: A Life of Pliny, a gyhoeddwyd fel The Shadow of Vesuvius yn yr UDA, yn The New York Times Editor's Choice, un o Lyfrau Hanes Gorau Waterstones yn 2019, a Llyfr y Flwyddyn mewn sawl cyhoeddiad.[10] Ymddangosodd Dunn yng nghyfres Sianel 5 ''Emperor: The Rise & Fall of a Dynasty'' (2024), ynghyd â'r hanesydd o Gymru, Adrian Goldsworthy.

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dunn, Daisy (14 Mawrth 2015). "Reading about your school is always a terrible idea". The Spectator (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-20. Cyrchwyd 5 Ebrill 2016.
  2. Dunn, Daisy (2016). Catullus' Bedspread: The Life of Rome's Most Erotic Poet (yn Saesneg). Llundain: HarperCollins. t. 312. ISBN 978-0007554331.
  3. "Oxford University Department of Classics". Prifysgol Rhydychen. Cyrchwyd 5 Ebrill 2016.
  4. Dunn, Daisy (2016). Catullus' Bedspread: The Life of Rome's Most Erotic Poet (yn Saesneg). Llundain: HarperCollins. t. 312. ISBN 978-0007554331.
  5. "Daisy Dunn's book launch party". Tatler (yn Saesneg). 22 Ionawr 2016. Cyrchwyd 8 Mai 2016.
  6. Hart, Christopher. "Catullus' Bedspread by Daisy Dunn and The Poems of Catullus, translated by Daisy Dunn". The Times (yn Saesneg). ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 2020-05-27.
  7. "Letters to the Editor". The Times Literary Supplement. 12 Mai 2016. Cyrchwyd 8 Mai 2016.
  8. Kidd, Patrick (12 May 2016). "Feast of Filth". The Times, TMS Diary.
  9. "'Big Books by blokes about battles': Why is history still written mainly by men?". The Guardian (yn Saesneg). 6 Chwefror 2016. Cyrchwyd 8 Mai 2016.
  10. Smith, Julia Llewellyn. "Daisy Dunn put a sexed-up Catullus among the pigeons. Now it's Pliny's turn". The Times (yn Saesneg). ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 2020-05-27.
  11. Harry Sidebottom (5 July 2019). "In The Shadow of Vesuvius by Daisy Dunn review: an irresistible life of Pliny". The Telegraph. Cyrchwyd 4 August 2019.
  12. Gold, Lyta (6 Awst 2024). "review of The Missing Thread: A Women's History of the Ancient World by Daisy Dunn". The New York Times.