Nofel gan John Alwyn Griffiths yw Dan Gwmwl Du a gyhoeddwyd yn 2015 gan Wasg Carreg Gwalch. Man cyhoeddi: Llanrwst, Cymru.[1]

Dan Gwmwl Du
AwdurJohn Alwyn Griffiths
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi11 Tachwedd 2015
ArgaeleddAr gael
ISBN9781845275334
GenreFfuglen

Dyma bedwaredd nofel yr awdur o Fôn. Unwaith yn rhagor, mae'r ditectif pengaled Jeff Evans ynghlwm ag achos cyffrous a pheryglus, a'r thema y tro hwn yw masnachu pobol.

Un o Fangor yw John Alwyn Griffiths yn wreiddiol, a bu'n heddwas hyd ddiwedd 2008. Cyn ymddeol roedd yn bennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Pleserau'r Plismon, yn 2011 a'i nofel gyntaf, Dan yr Wyneb, yn 2012 a Dan Ddylanwad yn 2013.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu