Cyfieithiad o ddrama radio Under Milk Wood gan Dylan Thomas yw Dan y Wenallt. Cyfieithwyd gan T James Jones, yn wreiddiol ar gyfer cwmni o amaturiaid yn Nhalacharn ym 1967, sef y pentre y treuliodd Dylan Thomas llawer o'i fywyd.[1]

Dan y Wenallt
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurDylan Thomas
CyhoeddwrGwasg J.D Lewis, Llandysul
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1968
Argaeleddail-gyhoeddiad ar gael gan Gomer
DarlunyddGaynor Owen
GenreDramâu Cymraeg

Un o'i amcanion wrth gyfieithu, medd T. James Jones, oedd rhoi ar gof a chadw dafodiaith ardal Sir Gaerfyrddin fel ag yr oedd ym 1950au'r 20g. Cred nifer o feirniaid llenyddol i'r cyfieithydd lwyddo yn rhyfeddol ac fod y cyfieithiad yn glasur.

Cyhoeddwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Wasg J.D Lewis, Llandysul ym 1968, gyda darluniau gan Gaynor Owen.[2]

Cafodd ei ailargraffu yn 2014 gan Wasg Gomer gyda rhagair newydd gan Walford Davies, i gyd-fynd â chanmlwyddiant geni Dylan Thomas. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[3]

Cefndir

golygu

Yn Y Cymro ar 8 Rhagfyr 1966, o dan y pennawd "Y ddrama'n barod yn nechrau Mawrth", cyhoeddwyd bod "Y Parch T James Jones" wedi cychwyn ar y "dasg anferthol" o gyfieithu'r ddrama Under Milk Wood i'r Gymraeg. Cyfaddefodd bod "y cymeriadau yn eistedd yn weddol esmwyth fel Cymry-Cymraeg" gan ryfeddu nad oedd neb wedi mentro cyfieithu'r ddrama cyn hynny.[4]


Cynyrchiadau nodedig

golygu

Fel nodwyd uchod, llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Chwarewyr Talacharn, yn Sir Gaerfyrddin ar y 4 Awst 1967.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Dan Y Wenallt - Welsh Paperback. Amazon. Adalwyd ar 4 Mai 2012.
  2. 2.0 2.1 "Dan Y Wenallt/Under Milk Wood, Dylan Thomas, Limited Welsh Edition". Sancho's Rare Books (yn Saesneg). 2024-08-04. Cyrchwyd 2024-10-10.
  3. [1]; Gwefan Gwales; Cyngor Llyfrau Cymru; adalwyd 1 Awst 2017
  4. "Y ddrama'n barod yn nechrau Mawrth". Y Cymro. 8 Rhagfyr 1966.