Daniel (proffwyd)

Cymeriad yn Y Beibl ac arwr Llyfr Daniel yw Daniel (Hebraeg: דָּנִיּאֵל Daniyyel ;Perseg: دانيال, Dâniyal neu Danial, hefyd Dani, داني ; Arabeg: دانيال, Danyal).

Daniel ar nenfwd y Capel Sistinaidd yn y Fatican, gan Michelangelo.

Pan gaethgludwyd yr Iddewon i Babilon gan y brenin Nebuchodnesar, dewiswyd Daniel ymhlith y rhai oedd i'w cymeryd. Wedi cyrraedd Babilon, bu Daniel yn gwasanaethu'r brenin, a daeth yn amlwg oherwydd ei allu i ddehongli breuddwydion. Enillodd Daniel rym a dylanwad ym Mabilon trwy egluro ystyr breuddwyd a gafodd y brenin am ddelwedd aur â thraed o glai (Dan 2:32-3). Gyda thri Iddew arall, Shadrach, Meshach ac Abednego, gwrthododd Daniel addoli'r delwedd aur a greuwyd ar orchymyn y brenin. Tro arall anwybyddodd Nebuchodnesar ddadansoddiad Daniel o freuddwyd am goeden a dorwyd i lawr i'w bôn gan angel, a oedd yn golygu y byddai'r brenin yn cael ei ddarostwng os nad edifarheuai. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac yntau'n ymffrostio am ei allu mawr, aeth Nebuchodnesar o'i gof. Aeth i grwydro yn yr anialwch gan fwyta gwair fel anifail gwyllt (Dan 4:33). Daniel a ddehonglodd ystyr yr ysgrifen ar y pared i Belshasar, oedd yn dynodi diwedd ymerodraeth Babilon a goresgyniad y Persiaid.

Wedi i Babilon gael ei gorchfygu gan Ymerodraeth Persia, daeth Daniel yn un o brif swyddogion y deyrnas dan Darius y Mediad a Cyrus Fawr. Parhaodd i ddilyn Iddewiaeth, a rhai blynyddoedd yn ddiweddarach taflwyd ef i ffau llewod yn dilyn cyhuddiadau yn ei erbyn. Wedi i'r llewod ei adael heb ei niwedidio, gorchymynodd Cyrus fod thaid parchu crefydd Daniel.

Eginyn erthygl sydd uchod am Iddewiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.