Daniel Scott
Actor o Awstralia oedd Daniel Scott (bu farw Mai 2014) oedd yn fwyaf adnabyddus am ei berfformiad yn y cynhyrchiad llwyfan o Priscilla Queen of the Desert - the Musical.
Daniel Scott | |
---|---|
Ganwyd | 20 g |
Bu farw | Mai 2014 |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Galwedigaeth | actor |
Cafodd ei eni a'i fagu ym maesdrefi gorllewin Sydney ac erbyn ei fod yn 14 oed, roedd y bianydd medrus ac wedi ymddangos mewn cynyrchiadau niferus, gan gynnwys Oliver!, The Wizard of Oz, The Sound of Music, You're A Good Man Charlie Brown, Dick Whittington and His Cat a Desperado.[1]
Astudiodd yng Ngholeg McDonald y Celfyddydau Creadigol a Theatr Ieuenctid Awstralia. Derbyniodd le hefyd yn y Theatr Gerddorol Americanaidd yn San Francisco. Enillodd amryw ysgoloriaethau wrth bobl fel Syr Cameron Mackintosh a Nicole Kidman mewn cydweithrediad â ATYP a LendLease Australia.
Cyn iddo ddechrau gyda Priscilla, cawsai ei andabod yn bennaf o "Dusty: The Original Pop Diva" a oedd yn seiliedig ar fywyd Dusty Springfield, lle crëodd cymeriadau'r "Eidalwr gwallgof" San Remo yn ogystal â Neil Tennant, Al Saxon ac Eden Kane. Yng nghynhyrchiad Adelaide o Shout! – The Musical, chwaraeodd rhan Johnny O'Keefe. Bu ar daith gyda'r Really Useful Group yn 2003–4 gyda thaith cynhyrchiad De Corea o Cats lle chwaraeodd rôl Rum Tum Tugger, rôl y dychwelodd iddo yn Athen yn 2005.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Proffil o Scott Archifwyd 2009-08-26 yn y Peiriant Wayback National Institute of Dramatic Art. Adalwyd 20-06-2009