Cameron Mackintosh

Mae Syr Cameron Anthony Mackintosh (ganed 17 Hydref 1946) yn gynhyrchydd theatrig nodedig o Loegr. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith gyda nifer o sioeau cerdd llwyddiannus. Cafodd ei ddisgrifio gan y New York Times fel "y cynhyrchydd theatrig mwyaf llwyddiannus, dylanwadol a phŵerus yn y byd".[1]

Cameron Mackintosh
Ganwyd17 Hydref 1946 Edit this on Wikidata
Enfield Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama
  • Prior Park College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd theatrig, impresario, cynhyrchydd recordiau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCats Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.cameronmackintosh.com/ Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Cafodd ei eni yn Enfield, Llundain gyda'i dad o'r Alban a'i fam o Malta. Cafodd Mackintosh ei fagu yn ffydd Babyddol ei fam. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Prior Park yng Nghaerfaddon. Mae ei frawd iau, Robert Mackintosh, yn gynhyrchydd hefyd.

Gwyddai ei fod eisiau bod yn gynhyrchydd theatrig ar ôl i'w fodryb fynd ag ef i weld sioe prynhawn o sioe gerdd Julian Slade, "Salad Days" pan oedd yn wyth oed.

Cafodd ei urddo'n farchog yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ym 1996, am ei wasanaeth i theatr gerdd.

Ei bartner yw'r ffotograffydd theatraidd Awstralaidd Michael Le Poer Trench. Yn 2006, enwyd Mackintosh fel y 4ydd dyn hoyw agored mwyaf dylanwadol ar Restr Binc "The Independent on Sunday" o'r holl ddynion a menywod hoyw.[2] Cafodd ei roi ar rif 4 yn 2005 hefyd. Mae ef hefyd yn Llywydd "The Food Chain", elusen HIV sydd wedi ei leoli yn Llundain.

Cyfeiriadau golygu

  1. "The Musical is Money to His Ears" [1] New York Times. Adalwyd 16-06-2009
  2. Gay Power: The pink list Archifwyd 2020-09-05 yn y Peiriant Wayback. The Independent on Sunday. Adalwyd 16-06-2009

Dolenni allanol golygu