Dave Brailsford

(Ailgyfeiriad o David Brailsford)

Hyfforddwr seiclo Cymreig ydy Syr David John Brailsford CBE (ganwyd 29 Chwefror 1964).[1] Mae'n gyfarwyddwr perfformiad ar gyfer British Cycling, a rheolwr cyffredinol Team Sky.

Dave Brailsford
GanwydDavid John Brailsford Edit this on Wikidata
29 Chwefror 1964 Edit this on Wikidata
Derby Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhyfforddwr chwaraeon, seiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bywgraffiad

golygu

Yn Gymro Cymraeg, magwyd Brailsford yn Neiniolen, Gwynedd yn fab i John M Brailsford, tywysydd Mynyddoedd Alpaidd, a Barbara Joinson.[2][3] Ond ganwyd ef yn Derby[4][5][6]

Cystadleuodd Brailsford yn Ffrainc am bedair mlynedd fel seiclwr proffesiynol cyn dychwelyd i Brydain yn 23 oed i astudio gradd mewn Gwyddoniaeth chwaraeon a Seicoleg, cyn mynd ymlaen i astudio MBA yn ysgol busnes Prifysgol Sheffield Hallam. Mae wedi ymwneud â'r byd seiclo drwy gydol ei yrfa: cyflogwyd ef gan British Cycling, yn gyntaf fel ymgynghorydd pan ddechrodd y Loteri Genedlaethol ariannu'r corff. Symudodd i fod yn Gyfarwyddwr Rhaglenni cyn dod yn Gyfarddwyddwr Perfformiad.[7][8]

Arweiniodd Braisfold dîm seiclo Prydain i nifer o fuddugoliaethau yng Ngemau Olympaidd yr Haf Athen 2004, gan gynnwys dau wobr Aur. Cydnabyddwyd ei gyfraniad flwyddyn yn ddiweddarach gyda MBE ar restr Anrhydeddau penblwydd brenhines Lloegr.[7]

Cafodd seiclwyr Prydain lwyddiant pellach yng Ngemau Olympaidd 2008, gan ennill 14 o fedalau ac wyth o rheiny'n aur. Enillodd hyn anrhydedd o Wobr Hyfforddwr Personoliaeth Chwaraewr y Flwyddyn BBC ar 14 Rhagfyr 2008.[9] Apwyntwyd ef yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2009.[10][11]

Ym mis Tachwedd 2010, derbyniodd Ddoethuriaeth anrhydedd gan Brifysgol Caer, lle astudiodd Wyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Yn yr un flwyddyn daeth yn rheolwr tîm newydd ei ffurfio gan gwmni Sky, sef Team Sky. Dan ei adain, gwelwyd llwyddiannau mawr, gan gynnwys: buddugoliaethau'r seiclwyr Bradley Wiggins, Chris Froome a Geraint Thomas yn y Tour de France yn 2012, 2013, 2015, 2016, 2017 a 2018.

Yn Ebrill 2014 ymddiswyddodd fel cyfarwyddwr British Cycling er mwyn canolbwyntio ar y tîm proffesiynol hwn.

Cyffuriau

golygu

Ym Mawrth 2018 cyhoeddwyd adroddiad Combatting doping in sport gan Lywodraeth San Steffan a fynnodd fod Tîm Sky wedi croesi'r linell foesol honno drwy ddefnyddio meddyginiaethau i wella perfformiad ei seiclwyr, a mynegwyd mai cyfrifoldeb Dave Brailsford oedd y 'methiannau hynny'.[12][13]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Cycling's Taff at the top. BBC (17 Awst 2008).
  2.  Geraint Thomas yn gwneud argraff wrth ymarfer ar gyfer y Gemau Olympaidd (Awst 2008).
  3. Golwg, 13 Awst
  4.  Penisarwaun mum's pride as Brailsford wins Sports Personality of the Year award. Caernarfon and Denbigh Herald (18 Rhagfyr 2008).
  5.  Mike Parsons (9 Ebrill 2012). DAVID BRAILSFORD, PERFORMANCE DIRECTOR, GREAT BRITAIN CYCLE TEAM. Innovation for Extremes. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2012.
  6.  Cofrestr Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau. Free BMD.
  7. 7.0 7.1 MBE For Dave Brailsford Archifwyd 2008-03-06 yn y Peiriant Wayback British Cycling 15 Mehefin 2005
  8.  We’ve been funded to win Olympic medals, not finish fourth. The Times (26 Mawrth 2007).
  9.  Sports Personality 2008: Cycling. BBC (2008-12-14).
  10. London Gazette, rhifyn 58929, 31 Rhagfyr 2008, tud 7
  11.  New Year honours list: arise Sir Chris ... and there's a medal for your mum as well. The Guardian (2008-12-31).
  12. Gwefan bbc.co.uk Chris Froome 'completely backs' Team Sky boss Sir Dave Brailsford...
  13. House of Commons Digital, Culture, Media and Sport Committee: Combatting doping in sport