David Gwyn Williams

bardd, nofelydd, cyfieithydd ac academydd o Gymro

Roedd yr Athro David Gwyn Williams, a adnabwyd yn arferol fel Gwyn Williams (19041990) yn fardd, nofelydd, cyfieithydd ac academydd.

David Gwyn Williams
Ganwyd1904, 24 Awst 1904 Edit this on Wikidata
Port Talbot Edit this on Wikidata
Bu farw1990, 24 Rhagfyr 1990 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfieithydd, bardd, nofelydd, academydd Edit this on Wikidata
PlantLowri Gwilym Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Mhort Talbot, a cafodd ei addysg yn Ngholeg Prifysgol Cymru a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Fel academydd dysgodd yn Cairo, Alexandria lle ddaeth yn Athro Llenyddiaeth Saesneg, ac yna yn Benghazi, ac Istanbul. Tra yn yr Aifft daeth yn ffrindiau gyda nifer o awduron alltud yn cynnwys Lawrence Durrell. Yn yr Aifft, dechreuodd weithio ar gyfieithiadau o farddoniaeth Cymraeg i'r Saesneg, gweithiau arloesol a gyhoeddwyd yn ystod y 1950au. Wedi ymddeol yn 1969 dychwelodd i Gymru a canolbwyntiodd ar ysgrifennu, gan gynhyrchu cyfres o nofelau, pedwar llyfr teithio (gan gynnwys un yn Gymraeg), a nifer o weithiau eraill. Yn siaradwr Cymraeg, roedd hefyd yn aelod ymroddedig o Blaid Cymru.

Cyflwynodd gyfresi teledu ar hanes Cymru ar gyfer y BBC yn 1972 a 1974 - The Land Remembers, oedd wedi eu cynhyrchu gan ei gyfaill John Ormond, a cyhoeddwyd llyfr o'r un teitl i fynd gyda'r rhaglen.

Cyhoeddwyd ei hunangofiant, ABC (D.) G. W, ym 1981, a cyhoeddwyd ei gasgliad o gerddi, Collected Poems, 1936-86 yn 1987. Bu farw Williams yn 1990 yn Aberystwyth.

Llyfryddiaeth golygu

Yn ogystal â chyfieithiadau, cerddi, erthyglau ac adolygiadau, cyhoeddodd Gwyn Williams y llyfrau canlynol:

  • The Rent That’s Due to Love: detholiad o gerddi Cymreig (Letchworth: The Garden City Press,1950).
  • An Introduction to Welsh Poetry (Llundain: Faber and Faber, 1953).
  • In Defence of Woman gan William Cynwal. Cyfieithwyd gan Gwyn Williams, ysgythriadau gan John Petts Llundain: Golden Cockerel Press, heb ddyddiad c.1955).
  • This Way To Lethe (Llundain: Faber and Faber, 1962) (nofel).
  • Green Mountain: an informal guide to Cyrenaica and its Jebel Akhdar (Llundain: Faber and Faber, 1963).
  • Turkey: A Traveller’s Guide and History (Llundain: Faber and Faber, 1967).
  • Inns of Love (Swansea: Christopher Davies, 1970) (cerddi).
  • The Avocet (Swansea, Christopher Davies, 1970) (nofel).
  • Eastern Turkey: a guide and history (Llundain: Faber and Faber, 1972).
  • Welsh Poems: sixth century to 1600 (Llundain: Faber and Faber, 1973).
  • Foundation Stock (Llandysul: Gomer Press, 1974) (cerddi).
  • Twrci a’i Phobl (Caerdydd: Gwasg Y Dref Wen, 1975).
  • Two Sketches of Womanhood (Llandybie: Christopher Davies, 1975) (nofelau byrion).
  • Troelus a Chresyd (Llandysul: Gwasg Gomer, 1976).
  • To Look for a Word: collected translations from Welsh poetry (Llandysul: Gwasg Gomer, 1976).
  • The Land Remembers: a view of Wales (Llundain: Faber and Faber, 1977).
  • An Introduction to Welsh Literature (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1978).
  • Choose Your Stranger (Port Talbot: Alun Books, 1979) (cerddi a chyfieithiadau).
  • Y Ddefod Goll (Port Talbot: Llyfrau Alun, 1980) (cerddi, a chyfieithiadau o'r Gymraeg i Twrceg).
  • Person and Persona: Studies in Shakespeare (Caerdydd: University of Wales Press, 1981).
  • ABC of(D)GW: a kind of autobiography (Llandysul: Gwasg Gomer, 1981).
  • Y Cloc Tywod (Talybont: Y Lolfa, 1984) (nofel).
  • Collected Poems 1936-1986 (Llandysul: Gwasg Gomer, 1987).
  • Flyting in Egypt: the story of a verse war 1943-45 adroddwyd gan Gwyn Williams (Port Talbot: Alun Books,1991).
  • An Introduction to Welsh Literature (fersiwn diwygiedig) (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1992).
  • Summer Journal 1951 (Aberystwyth: Planet, 2004) (golygwyd a cyflwynwyd gan Teleri Williams a Lowri Gwilym).

Dolenni allanol golygu